Nodiadau eglurhaol ardrethi busnes
Mae’r wybodaeth a roddir ar y dudalen hon yn egluro rhai o’r termau y gellir eu defnyddio mewn hysbysiad galw am dalu ardreth annomestig ac yn yr wybodaeth ategol.
Gellir canfod rhagor o wybodaeth am atebolrwydd o ran ardreth annomestig ar dudalennau gwe ardrethi busnes.
2026/27
Mae’r canlynol yn nodiadau eglurhaol ar gyfer 2026/27.
Ardrethi annomestig
Mae’r ardrethi annomestig a gesglir gan awdurdodau bilio yn cael eu talu i gronfa ganolog a’u hailddosbarthu i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac i gomisiynwyr heddlu a throseddu. Mae eich cyngor a’ch comisiynydd heddlu a throseddu yn defnyddio eu cyfrannau o’r incwm ardrethi a ailddosberthir, ynghyd ag incwm oddi wrth y rhai sy’n talu’r dreth gyngor iddynt, y grant cynnal refeniw a ddarperir gan Weinidogion Cymru a symiau penodol eraill, i dalu am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt.
Gellir cael gwybodaeth bellach am y system ardrethi annomestig, gan gynnwys pa ryddhadau sydd ar gael, drwy fynd i Busnes Cymru (gwefan allanol)
Gwerth ardrethol
Gosodir gwerth ardrethol eiddo annomestig yn y rhan fwyaf o achosion gan swyddog prisio annibynnol o Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy’n un o Asiantaethau Gweithredol Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF). Maent yn llunio ac yn cynnal rhestr lawn o werthoedd ardrethol pob eiddo annomestig yng Nghymru, ac mae ar gael ar eu gwefan GOV.UK Asiantaeth y Swyddfa Brisio (gwefan allanol).
Fel arfer, caiff pob eiddo annomestig ei ailbrisio bob 3 blynedd. O 1 Ebrill 2026 mae gwerth ardrethol eiddo yn cynrychioli ei werth rhentol blynyddol ar y farchnad agored fel yr oedd ar 1 Ebrill 2024.
Dysgu mwy am aibrisio gwerth trethiannol 2026.
Yn achos eiddo cyfansawdd sy’n rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, ymwneud â’r rhan annomestig yn unig y mae’r gwerth ardrethol.
Dangosir gwerth pob eiddo y mae ardreth yn daladwy i’ch awdurdod arno yn y rhestr ardrethi leol.
Ailbrisio
Caiff yr holl werthoedd ardrethol eu hailasesu mewn ailbrisiad cyffredinol er mwyn sicrhau bod yr ardrethi a delir gan unrhyw un trethdalwr yn adlewyrchu newidiadau dros amser yng ngwerth ei eiddo o gymharu ag eraill. Mae hyn yn helpu i gadw’r system ardrethu yn deg drwy ddiweddaru prisiadau yn unol â newidiadau yn y farchnad. Cafodd y rhestr ardrethu bresennol effaith ar 1 Ebrill 2026 ac mae’n seiliedig ar werthoedd fel yr oeddent ar 1 Ebrill 2024.
Yn y flwyddyn y mae ailbrisiad yn cael effaith, ailbennir sylfaen y lluosydd er mwyn cymryd i ystyriaeth newidiadau cyffredinol i gyfanswm y gwerth ardrethol ac i sicrhau nad yw’r ailbrisiad yn codi arian ychwanegol.
Newid yn y gwerth ardrethol
Gall y gwerth ardrethol newid os yw’r swyddog prisio yn credu bod amgylchiadau’r eiddo wedi newid. Caiff y trethdalwr (ac eraill penodol sydd â buddiant yn yr eiddo), o dan amodau penodol, hefyd gynnig newid yn y gwerth.
Mae gwybodaeth bellach ynghylch sut i gynnig newid mewn gwerth ardrethol ar gael gan swyddfeydd prisio.
Y lluosydd ardrethu annomestig
Dyma’r gyfradd yn y bunt y lluosir y gwerth ardrethol â hi i roi swm y bil ardrethol blynyddol ar gyfer eiddo. Mae tri lluosydd yn gymwys yng Nghymru: y lluosydd safonol, y lluosydd manwerthu a’r lluosydd uwch. Pennir y lluosyddion bob blwyddyn gan Weinidogion Cymru.
Cynigion ac apelau
Mae gwybodaeth am yr amgylchiadau y gellir cynnig newid yn y gwerth ardrethol oddi tanynt ac am sut y gellir gwneud cynnig o’r fath ar gael gan y swyddfa brisio leol. Gellir cael gwybodaeth bellach am y trefniadau apelio o’n gwefan apelio ardrethi busnes neu o Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn darparu gwasanaeth apelau annibynnol rhad ac am ddim sy’n ymdrin ag apelau ynghylch Ardrethi Annomestig a’r Dreth Gyngor. Gellir canfod eu manylion cyswllt ar eu gwefan Tribiwnlys Prisio Cymru (gwefan allanol)
Ardrethu eiddo heb ei feddiannu
Gall perchnogion eiddo annomestig sydd heb eu meddiannu fod yn agored i dalu ardrethi eiddo gwag a godir yn ôl 100% o’r rhwymedigaeth arferol. Mae’r rhwymedigaeth yn dechrau ar ôl i’r eiddo fod yn wag am 3 mis neu, yn achos eiddo diwydiannol penodol, ar ôl i’r eiddo fod yn wag am 6 mis. Mae mathau penodol o eiddo wedi eu heithrio rhag ardrethi eiddo gwag.
Rhyddhad elusennol ac yn ôl disgresiwn
Mae hawl gan elusennau a chlybiau chwaraeon cymunedol amatur i gael rhyddhad o 80% rhag ardrethi ar unrhyw eiddo annomestig—
- yn achos elusennau, pan ddefnyddir yr eiddo yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol; neu
- yn achos clwb, pan fo’r clwb wedi ei gofrestru gyda Chyllid a Thollau EF.
Mae gan awdurdodau bilio ddisgresiwn i beidio â chodi rhan neu’r cyfan o’r 20% sy’n weddill o’r bil ar eiddo o’r fath a gallant hefyd roi rhyddhad mewn cysylltiad ag eiddo a feddiennir gan gyrff penodol nad ydynt wedi eu sefydlu nac yn cael eu rhedeg i wneud elw.
Am ragor o wybodaeth am glybiau, dylech gysylltu â Refeniw a Thollau Ei Fawrhydi (gwefan allanol).
Rhyddhad ardrethi i fusnesau bach
Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach.
Mae manylion llawn gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, yr eithriadau, y gofynion gweithdrefnol a’r rhyddhadau ardrethi perthnasol ar ein tudalen we Rhyddhadau Ardrethi Busnes.
Rhyddhad Trosiannol
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad trosiannol i fusnesau y mae’r ailbrisio hereditamentau annomestig sy’n cael effaith o 1 Ebrill 2026 yn cael effaith andwyol arnynt.
Mae manylion llawn gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, yr eithriadau, y gofynion gweithdrefnol a’r rhyddhadau ardrethi perthnasol ar ein tudalen we Rhyddhad Trosiannol.