Grant Datblygu Eiddo Trawsnewid Trefi

Rydym wedi sicrhau cyllid gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gynnig Grant Datblygu Eiddo Trawsnewid Trefi i adnewyddu eiddo masnachol yng nghanol tref y Rhyl.

Beth sydd ar gael?

Gall Grant Datblygu Eiddo Trawsnewid Trefi ddarparu grant rhwng £5,000 a £50,000 i brosiectau unigol i ddatblygu ac uwchraddio eiddo masnachol yng nghanol tref y Rhyl.

Swm cyfyngedig o gyllid sydd ar gael. Os bydd gormod o geisiadau am gyllid rhoddir blaenoriaeth yn y drefn y daw ceisiadau wedi’u cwblhau a thystiolaeth ategol i law.

Cymhwysedd

Mae Grant Datblygu Eiddo Trawsnewid Trefi ar agor i:

  • berchnogion rhydd-ddaliad eiddo masnachol yng nghanol tref y Rhyl
  • meddianwyr eiddo masnachol yng nghanol tref y Rhyl sydd:
    • â phrydles â 7 mlynedd neu fwy ar ôl arni ar ddyddiad y cais
    • wedi cael caniatâd ysgrifenedig eu landlord ar gyfer y gwaith datblygu arfaethedig

Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu arian cyfatebol o 30% ar gyfer y grant hwn.

Rydym yn disgwyl i bob prosiect allu dangos buddion i ganol tref y Rhyl, fel:

  • lleihad yn y nifer o eiddo gwag yng nghanol y dref
  • gwella ansawdd a delwedd gyffredinol yr amgylchedd (creu hunaniaeth, teimlad o le a hyder busnes) er mwyn annog:
    • rhagor o bobl i dreulio mwy o amser yng nghanol tref y Rhyl
    • mwy o weithgarwch a masnach i gefnogi busnesau lleol
  • creu cyfleoedd cyflogaeth a busnes newydd
  • cynaliadwyedd busnesau presennol a busnesau newydd yng nghanol y dref

Prosiectau cymwys

Gallai gwaith arfaethedig ar brosiect gynnwys:

  • gwaith allanol i flaen adeilad a all gynnwys gwaith y bernir ei fod yn angenrheidiol er mwyn integriti strwythurol a defnydd yr eiddo, yn enwedig pan fo newid defnydd arfaethedig, gallai hyn gynnwys:
    • blaen siopau
    • gwella ffenestri arddangos
    • gwella arwyddion
    • ffenestri a drysau
    • goleuadau allanol
    • toeau a simneiau
    • landeri a phibellau dŵr
    • rendro, glanhau ac atgyweirio cerrig, ail-bwyntio
    • gwaith strwythurol
  • byddai gwaith mewnol ond yn gymwys i dderbyn y grant fel rhan o becyn o welliannau allanol i’r adeilad, neu lle mae gofyn newid defnydd arfaethedig. Dylai hyn gynnwys yr holl waith, gweledol neu strwythurol, sydd ei angen i gwblhau’r prosiect i safon Rheoliadau Adeiladu. Gall hyn gynnwys:
    • ffenestri a drysau
    • gwell hygyrchedd
    • waliau, nenfydau, goleuadau
    • cyfleustodau a gwasanaethau, gan gynnwys gwresogi
    • cyfleusterau lles (e.e. cyfleusterau glanhau ac ymolchfa hanfodol yn unig)
    • gwaith strwythurol
  • bydd gwaith i wella effeithlonrwydd ynni adeilad (e.e. inswleiddiad gwell), yn gymwys, fel rhan o gyfres ehangach o waith

Nid yw gwaith i ddarparu neu wella eiddo preswyl yn gymwys ar gyfer y grant hwn.

Sut i ymgeisio

Os hoffech wneud cais am Grant Datblygu Eiddo Trawsnewid Trefi, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb ar–lein.

Mae Datganiadau o Ddiddordeb ar gau ar hyn o bryd.

Ar ôl cyflwyno ffurflen mynegi diddordeb

Os bydd yr holl feini prawf cymhwyso o’r Mynegiant Diddordeb wedi’u bodloni, byddwn yn cysylltu â chi a darparu ffurflen gais am grant gyflawn i’w llenwi gyda’r dystiolaeth ofynnol.

Caiff ceisiadau am grant eu hasesu o flaen panel cyllid a fydd yn penderfynu a ddylid dyfarnu’r grant ai peidio.