Byddwch yn gynghorydd

Cynhelir etholiadau nesaf Cyngor Sir Ddinbych ym mis Mai 2022. Dylai ein cynghorwyr ddod o bob cefndir er mwyn adlewyrchu ein cymdeithas a chynrychioli ein cymunedau amrywiol. Rydym angen i bobl o bob oed a chefndir roi eu henwau ymlaen ar gyfer yr etholiad.

YouTube: wyt ti wedi ystyried bod yn gynghorydd yng Nghymru? (gwefan allanol)

Ewch i wefan byddwch yn gynghorydd (gwefan allanol) am wybodaeth ddefnyddiol ynghylch beth mae cynghorwyr yn ei wneud a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn y rôl.

Swyddogaeth cynghorydd

Swyddogaeth cynghorydd

Ystyriwch y cwestiynau canlynol:

  • ydych chi eisiau cynrychioli eich cymuned leol a helpu pobl leol?
  • ydych chi eisiau defnyddio eich sgiliau i helpu eich cymuned?
  • ydych chi’n pryderu am ddyfodol gwasanaethau lleol?
  • allech chi fynegi llais eich cymuned?

Os felly, dylech ystyried sefyll yn yr etholiad fel cynghorydd lleol!

Mae Cyngor Sir Ddinbych angen cynghorwyr lleol ag ystod eang o sgiliau, talentau a diddordebau sy’n adlewyrchu poblogaeth amrywiol y sir.

Prif swyddogaeth cynghorydd yw cynrychioli diddordebau a lles y bobl sy’n byw yn y ward maent yn ei chynrychioli. Mae’r rôl arweinyddiaeth gymunedol yn caniatáu cyfathrebu rheolaidd a chlir rhwng eich preswylwyr a’r Cyngor a rhwng y Cyngor a’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn eich ardal.

Mae gan gynghorwyr lleol rôl bwysig i’w chwarae wrth ddatblygu polisïau sy’n bodloni anghenion eu cymunedau, gan gydbwyso blaenoriaethau ac adnoddau er mwyn sicrhau bod y mathau cywir o wasanaethau yn cael eu darparu i breswylwyr.

Mae rôl cynghorydd yn amrywiol, diddorol ac yn un sy’n rhoi llawer o foddhad, ond mae’n gofyn am ymroi ymdrech ac amser- chi fydd yn dewis faint o’r ddau y byddwch yn ei roi i’r rôl. Byddwch mewn cyswllt rheolaidd â phreswylwyr, busnesau a swyddogion y Cyngor, a bydd disgwyl i chi hefyd gymryd rhan yng nghyfarfodydd pwyllgor y Cyngor.

Fel cynghorydd, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm sy’n gyfrifol am sicrhau bod Sir Ddinbych yn lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, lle bo preswylwyr y sir wrth wraidd popeth mae’r Cyngor yn ei wneud.

Dysgwch fwy yn ei hadran ‘sut mae’r cyngor yn gweithio’, sy’n cynnwys gwybodaeth am y cyfansoddiad gwleidyddol cyfredol, , strwythurau pwyllgorau a rheoli, cyllidebau a mwy.

Ydw i’n gymwys i sefyll?

Ydw i’n gymwys i sefyll?

Cynhelir etholiadau ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych bob 5 mlynedd. Bydd yr etholiad nesaf yn cael ei gynnal ar 5 Mai 2022.

Rydych yn gymwys yn gyfreithiol i fod yn ymgeisydd, os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • eich bod yn 18 oed neu’n hŷn ac ar y gofrestr etholwyr ar gyfer ardal Cyngor Sir Ddinbych a’ch cartref (yn y deuddeg mis diwethaf) o fewn y Sir
  • eich bod yn gweithio yn y Sir (ac wedi gweithio yma am 12 mis neu fwy)
  • eich bod yn berchen ar eiddo yn y Sir (am 12 mis neu fwy)

Nid ydych yn gymwys yn gyfreithiol i fod yn ymgeisydd, os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • eich bod yn fethdalwr, ac mae Gorchymyn Cyfyngu Methdaliad (neu orchymyn dros dro) yn eich erbyn
  • eich bod wedi eich cael yn euog o drosedd yn y bum mlynedd ddiwethaf a’ch bod wedi eich dedfrydu am dri mis neu fwy yn y carchar
  • eich bod yn gweithio i Gyngor Sir Ddinbych mewn swydd sydd â chyfyngiadau gwleidyddol*

*Oni bai bod eich swydd â chyfyngiadau gwleidyddol, mae gweithio i Gyngor Sir Ddinbych yn golygu eich bod yn gymwys i ymgeisio, er y byddai’n rhaid i chi ymddiswyddo petaech yn cael eich ethol.

Sut ydw i’n sefyll mewn etholiad?

Sut ydw i’n sefyll mewn etholiad?

Unwaith y byddwch wedi penderfynu sefyll yn yr etholiad, bydd angen i chi benderfynu a hoffech sefyll yn yr etholiad fel cynghorydd annibynnol neu a hoffech sefyll yn yr etholiad fel aelod o blaid wleidyddol. Bydd y pleidiau gwleidyddol yn eich ardal yn chwilio am bobl sydd â diddordeb eu cynrychioli nhw ar y Cyngor. Os ydych yn dewis sefyll fel cynrychiolydd ar ran plaid wleidyddol, gallant eich helpu gyda’ch ymgyrch ac o ran eich gwaith fel cynghorydd os cewch eich ethol. Ceir gwybodaeth am bleidiau gwleidyddol yn yr ardal ar wefannau’r pleidiau eu hunain.

Os ydych yn dymuno sefyll fel ymgeisydd, boed hynny fel ymgeisydd annibynnol neu un sy’n gysylltiedig â phlaid wleidyddol, bydd y ffurflenni, y wybodaeth a’r canllawiau gofynnol ar gael ar wefan y Comiswn Etholiadol (gwefan allanol) ychydig wythnosau cyn y cyfnod enwebu, neu gallwch gysylltu â:

Gwasanaethau Etholiadol
Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN

Ebost: etholiadau@sirddinbych.gov.uk

Ffôn: 01824 706000

Ceir rhagor o wybodaeth ar y gwefannau canlynol:

Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael fy ethol?

Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael fy ethol?

Yn dilyn yr etholiad, caiff yr holl gynghorwyr eu gwahodd i gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddiant cynefino. Mae’r digwyddiadau hyn yn egluro sut mae’r Cyngor yn gweithio. Byddwch yn derbyn hyfforddiant penodol ynghylch rôl a gwaith y pwyllgorau yr ydych yn gwasanaethu arnynt.

Mae cyfleoedd hyfforddiant yn elfen o’r rôl, gyda sesiynau briffio a digwyddiadau datblygu ar gyfer cynghorwyr ar gael i’r holl gynghorwyr trwy gydol eu cyfnod ar y Cyngor.

Yn ychwanegol, bydd swyddogion proffesiynol o’r Cyngor ar gael i’ch cefnogi a’ch cynghori ag unrhyw gwestiynau neu broblemau sydd gennych, neu a all godi yn eich ward.

Pa gyfleusterau a chefnogaeth sydd ar gael i gynghorwyr?

Pa gyfleusterau a chefnogaeth sydd ar gael i gynghorwyr?

Mae staff o adran Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor ar gael i ateb unrhyw gwestiynau am gyfarfodydd y Cyngor a swyddogaethau’r pwyllgorau amrywiol wrth wneud penderfyniadau.

Cyfrifiadur / TG / darpariaeth gyfathrebu

Y dyddiau hyn, caiff gwaith y Cyngor ei wneud yn electronig lle bo hynny’n bosibl. O ganlyniad, mae defnyddio Technoleg Gwybodaeth (TG) yn rhan allweddol o waith y cynghorydd o ddydd i ddydd wrth ddelio â busnes y Cyngor. Byddwn yn darparu cyfarpar cyfrifiadurol, ffôn symudol a chyfeiriad e-bost Cyngor, i’w defnyddio wrth ymgymryd â gwaith y Cyngor. Cynigir hyfforddiant ar bob agwedd o ran TG (gan gynnwys sesiynau hyfforddiant un-i-un), i bob cynghorydd, ar sut i ddefnyddio’r cyfarpar a ddarperir. Yn ychwanegol, mae’r Ddesg Gymorth TGCh ar gael bob amser i unrhyw gynghorydd sydd angen cefnogaeth dechnegol.

Cyfarfodydd

Caiff cyfarfodydd cyhoeddus Cyngor Sir Ddinbych a’r prif bwyllgorau, gan gynnwys y Cabinet, y Pwyllgorau Craffu a’r Pwyllgor Cynllunio fel arfer eu gweddarlledu’n fyw (gwefan allanol) ar wefan y Cyngor. Gall unrhyw un sy’n siarad yn y cyfarfodydd hyn wneud hynny naill ai yn Gymraeg neu’n Saesneg. Er budd y di-Gymraeg, mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael i gyfieithu unrhyw anerchiadau a gyflwynir yn Gymraeg. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn yr ystafell gyfarfod ei hun ac ar gyfer y rhai sy’n ymuno o bell neu’n gwylio’r cyfarfod trwy gyfrwng gweddarllediad.

Cynhelir cyfarfodydd mewn gwahanol ffyrdd: wyneb yn wyneb, o bell trwy gyfrwng cynhadledd fideo neu gyfuniad o’r ddau ddull (cyfarfodydd hybrid).

Cofnodir presenoldeb cynghorwyr ym mhob cyfarfod, p'un a yw’r cyfarfod yn cael ei gynnal yn bersonol neu o bell, a chaiff ei nodi ar wefan y Cyngor fel cofnod cyhoeddus. Bydd y wefan hefyd yn cynnwys enwau’r holl gynghorwyr sir, eu manylion cyswllt, a llun ohonynt.

Darpariaeth ar gyfer cynghorwyr anabl

Mae adeiladau’r Cyngor yn addas ar gyfer pobl anabl, gyda gofodau parcio ar gyfer pobl anabl wedi’u lleoli ger y mynedfeydd. Mae lifftiau ar gael ym mhrif adeiladau’r Cyngor i gael mynediad at ystafelloedd cyfarfod ac mae darpariaethau argyfwng ar waith os oes angen gwacáu adeilad.

Cyflog a lwfansau

Mae gan bob cynghorydd yr hawl i dderbyn cyflog blynyddol sylfaenol am eu gwaith. Caiff y cyflog ei dalu’n uniongyrchol gan Wasanaethau Clirio Awtomataidd y Banciau (BACS) ar y 28ain o bob mis. Mae cynghorwyr sydd â chyfrifoldebau ychwanegol, megis Aelodau o’r Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgorau yn derbyn cyflogau uwch. Caiff treuliau rhesymol, gan gynnwys treuliau teithio i fynychu cyfarfodydd, hefyd eu talu.

Gall cynghorwyr hefyd hawlio ad-daliad o gostau gofal i ddarparu gofal ar gyfer dibynyddion pan maent yn ymgymryd â dyletswyddau sy’n ymwneud â’r Cyngor. Gallent hefyd fod â hawl i dâl mamolaeth. Caiff costau gofal eu had-dalu i gynghorwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu am blant, oedolyn dibynnol neu ofynion gofal personol. Ceir mwy o wybodaeth am daliadau sydd ar gael i aelodau etholedig ar wefan Llywodraeth Cymru ar y dudalen taliadau i Aelodau Etholedig (gwefan allanol).

Mae cynnig hefyd i gynghorwyr i ymuno a chyfrannu at y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol(gwefan allanol).