Etholiadau cyngor sir (etholiadau lleol)

Hysbysiad o Etholiad

Dyddiad yr Etholiad: Dydd Iau 17 Gorffennaf 2025

Cyngor Sir Ddinbych - Ward Canol Prestatyn

Cyngor Tref - Ward Canol Prestatyn

Hysbysiad o Etholiad, 17 Gorffennaf 2025: Cyngor Sir Ddinbych / Cyngor Tref Prestatyn - Ward Canol Prestatyn (PDF, 167KB)

Rhybudd penodi asiantwyr etholiad ar gyfer Etholiadau'r Cyngor Sir, Prestatyn Canol (PDF, 83KB)


Ward Etholiadol Prestatyn Canol: Sedd Wag Achlysurol

Mae un sedd wag achlysurol yn bodoli fel Cynghorydd Sir dros Ward Etholiadol Prestatyn Canol ar Gyngor Sir Ddinbych.

Mae gan Sir Ddinbych 48 cynghorydd sir yn cynrychioli 29 ward etholiadol. Caiff cynghorwyr sir eu hethol yn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhelir bob pum mlynedd.

Dod o hyd i’ch Cynghorydd Sir

Cynhaliwyd etholiadau cynghorydd sir blaenorol ddydd Iau 5 Mai 2022.

Edrychwch ar ganlyniadau’r etholiad cyngor sir

Pleidleisio

Er mwyn pleidleisio mewn etholiad cyngor lleol yng Nghymru, mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru i bleidleisio, yn 16 oed neu hŷn ar ddiwrnod y bleidlais, ac un o’r canlynol:

  • yn ddinesydd Prydeinig
  • yn Ddinesydd Gwyddelig neu Ddinesydd yr UE sy’n byw yn y DU
  • yn ddinesydd o'r Gymanwlad sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yno, neu nad oes angen caniatâd arnoch
  • yn ddinesydd gwlad arall sy’n byw yng Nghymru neu’r Alban, sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu aros yno, neu nad oes angen caniatâd arnoch; ac
  • ddim yn destun anghymhwyster cyfreithiol i bleidleisio

Dod o hyd i orsaf bleidleisio