Lleoedd mewn dosbarth meithrin

Gall plant fynychu dosbarth meithrin y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. Nid yw cael lle mewn dosbarth meithrin mewn ysgol benodol yn gwarantu lle i’ch plentyn mewn dosbarth derbyn yn yr ysgol honno. Bydd angen i chi wneud cais newydd ar gyfer lle mewn dosbarth derbyn.

Addysg cyfrwng Cymraeg

Nid oes gwell amser erioed wedi bod i ddysgu Cymraeg. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor i weld y Gymraeg yn ffynnu gyda miliwn o bobl yn gallu ei siarad erbyn 2050.

Mae dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn cynnig mantais yn addysgol, diwylliannol ac mewn cyflogaeth.

Darganfyddwch mwy am addysg cyfrwng Cymraeg

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin ar gyfer plant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021 oedd 16 Chwefror 2024.

Os ydych wedi gwneud cais yn barod, byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniad eich cais erbyn 7 Mai 2024.

Gwneud cais ar ôl y dyddiad cau 

Os ydych yn ymgeisio ar ôl y dyddiad cau, bydd eich cais yn cael ei brosesu ar ôl trin â'r holl geisiadau a ddaeth i law ar amser. Mae hyn yn golygu y gall eich ysgol ddewisol fod yn llawn erbyn yr amser y byddwn yn prosesu'ch cais, ac am y rheswm hwn, rydym yn argymell eich bod yn nodi mwy nag un dewis wrth ymgeisio.

Bydd ceisiadau hwyr a ddaw i law yn cael eu hystyried gyda’i gilydd, waeth beth oedd y dyddiad y daethant i law, yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio yng nghanllaw Ysgolion Sir Ddinbych.

Os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i gais oedd ar amser ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn ystyried hwn fel cais newydd a fydd yn cymryd lle unrhyw beth a gafwyd yn flaenorol a bydd yn cael ei gofnodi fel cais hwyr.

Gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin ar ôl y dyddiad cau

Llenwch y ffurflen gais os cafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021.

Os oes arnoch chi eisiau symud eich plentyn o un ysgol i ysgol arall, llenwch y ffurflen gais ar gyfer trosglwyddiadau ysgol.

Canllawiau gwybodaeth ysgolion