Sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan yn ystod tymor yr ysgol
Pwrpas sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan yw bod plant yn cael chwarae, gwneud ffrindiau, a gwneud llanast. Mae’r sesiynau’n rhai ‘mynediad agored’, sy’n golygu bod rhyddid i blant gael mynd a dod.
Mae’r sesiynau hyn yn cael eu harwain gan blant, felly maen nhw’n dewis beth maen nhw eisiau ei wneud, neu pa offer maen nhw’n ei ddefnyddio.
Gadewch i ni Chwarae Allan: Sesiynau Tymor ysgol yn Gallt Melyd
Mae'r sesiwn tymor ysgol Gadewch i ni Chwarae Allan yn Gallt Melyd ar gyfer dydd Gwener 26 Mehefin 2026 wedi'i ganslo oherwydd y rhybudd gwres eithafol.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Ar gyfer pwy mae'r sesiynau?
Mae Sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan yn Dinbych, Dyserth, Gallt Melyd, Prestatyn a Rhyl ar gyfer plant rhwng 6 a 13 oed.
Mae croeso i blant dan 6 oed, ond mae’n rhaid iddyn nhw fod gydag oedolyn.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?
Dewiswch un o’r ardaloedd canlynol i weld pryd a lle mae’r sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan yn digwydd:
Corwen
Sesiwn dydd Mercher 24 Mehefin 2026 wedi ei chanslo
Oherwydd y rhybudd tywydd, mae’r sesiwn yng Nghorwen ar 24 Mehefin wedi ei chanslo.
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan Corwen yn digwydd bob dydd Mercher yn ystod tymor yr ysgol, o 3:15pm i 4:45pm yn Maes Chwarae Clawdd Poncen.
Gwybodaeth am y Lleoliad
Nid oes cyfleusterau toiled ar gael yn y lleoliad hwn.
Cyfeiriad
Cyfeiriad Maes Chwarae Clawdd Poncen yw:
46 Clawdd Poncen
Corwen
LL21 9RT
Dinbych
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan Dinbych yn digwydd bob dydd Llun yn ystod tymor yr ysgol, o 3:15pm i 4:45pm yn Cae Hywel.
Gwybodaeth am y Lleoliad
Cyfeiriad Cae Hywel yw
Maes Y Goron
Dinbych
LL16 3PY
Parcio
Gallwch barcio yn maes parcio Mount Pleasant
Dyserth
Sesiwn dydd Iau 25 Mehefin 2026 wedi ei chanslo
Oherwydd y rhybudd tywydd, mae’r sesiwn yn Nyserth ar 25 Mehefin wedi ei chanslo.
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan Dyserth yn digwydd bob dydd Iau yn ystod tymor yr ysgol, o 3:15pm i 4:45pm yn Llecyn Gemau Amlddefnydd (MUGA) Dyserth.
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan Dyserth yn cael eu darparu mewn partneriaeth gyda Chyngor Cymuned Dyserth.
Gwybodaeth am y lleoliad
Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.
Cyfeiriad
Cyfeiriad Llecyn Gemau Amlddefnydd Dyserth yw:
Rhodfa Thomas
Dyserth
LL18 6AN
Parcio
Mae’r lleoedd parcio’n brin ger Llecyn Gemau Amlddefnydd Dyserth.
Gallt Melyd
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan Gallt Melyd yn digwydd bob dydd Gwener yn ystod tymor yr ysgol, o 3:15pm i 4:45pm yn clwb pêl-droed a Llecyn Gemau Amlddefnydd (MUGA) Gallt Melyd.
Gwybodaeth am y Lleoliad
Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.
Cyfeiriad Gerddi Coffa yw
The Mine Ysgol Melyd
Ffordd Pennant
Gallt Melyd
LL19 8PE
Parcio
Mae parcio wedi'i gyfyngu mewn Clwb pêl-droed a Llecyn Gemau Amlddefnydd (MUGA).
Llangollen
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan Llangollen yn digwydd bob dydd Llun yn ystod tymor yr ysgol, o 3:15pm i 4:45pm ym Mharc Pengwern.
Gwybodaeth am y Lleoliad
Cyfeiriad
Cyfeiriad Parc Pengwern yw:
Parc Pengwern
Stryd y Nant
Llangollen
Prestatyn
Sesiwn dydd Mercher 24 Mehefin 2026 wedi ei chanslo
Oherwydd y rhybudd tywydd, mae’r sesiwn ym Mhrestatyn ar 24 Mehefin wedi ei chanslo.
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan Prestatyn yn digwydd bob dydd Mercher yn ystod tymor yr ysgol, o 3:15pm i 4:45pm ym Maes Chwarae Y Morfas.
Cyfeiriad
Cyfeiriad Maes Chwarae Y Morfas YW:
Lon Goed
Prestatyn
LL19 8EJ
Parcio
Gallwch barcio yn Maes Chwarae Y Morfas.
Rhuddlan
Sesiwn dydd Iau 25 Mehefin 2026 wedi ei chanslo
Oherwydd y rhybudd tywydd, mae’r sesiwn yn Rhuddlan ar 25 Mehefin wedi ei chanslo.
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan Rhuddlan yn digwydd bob dydd Iau yn ystod tymor yr ysgol, o 3:15pm i 4:45pm yn Caeau Chwarae Admiral.
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae cyfleusterau toiled ar gael yn y lleoliad hwn.
Sut i gyrraedd Caeau Chwarae Admiral (LL18 2UJ).
Parcio
Gallwch barcio yn Stryd y Senedd.
Y Rhyl
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan y Rhyl yn digwydd bob dydd Mawrth yn ystod tymor yr ysgol yn Ysgol Christchurch:
- Blwyddyn 5 ac iau: 3pm tan 4pm
- Blwyddyn 6 ac yn hŷn: 4pm tan 5pm
Gwybodaeth am y lleoliad
Cyfeiriad
Cyfeiriad Ysgol Christchurch yw:
Ernest Street
Y Rhyl
LL18 2DS
Parcio
Ar hyn o bryd nid oes lle i barcio ger Ysgol Christchurch.
Sut i gymryd rhan
Bydd angen i rieni neu warcheidwaid plant chwe blwydd oed a hŷn gofrestru eu plant ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae.
Os yw’ch plentyn yn iau na chwe blwydd oed, nid oes angen ichi gofrestru. Siaradwch ag aelod o’r tîm wrth gyrraedd i roi gwybod y bydd eich plentyn yn cymryd rhan a sôn am unrhyw anghenion y dylent wybod amdanynt.
Sesiynau Cwbl Gynhwysol
Mae ein holl sesiynau’n gwbl gynhwysol a gallwch roi gwybod inni am unrhyw anghenion wrth gofrestru’ch plentyn ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae.
Cofrestru’ch plentyn
Gallwch gofrestru’ch plentyn ar-lein ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae a byddant yn gallu dod i unrhyw un o’n sesiynau wedyn.
Dim ond unwaith y mae angen ichi gofrestru’ch plentyn, a byddant yn cael dod i unrhyw un o’n sesiynau Ceidwad Chwarae nes byddant yn rhy hen.
Cofrestrwch eich plentyn ar-lein ar gyfer y gwasanaeth Ceidwad Chwarae
Mwy o wybodaeth
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am y sesiwn yma, gellwch gysylltu â’r Gwasanaeth Ceidwaid Chwarae.