Mapiau tref a dinas

Corwen

Ystyr Corwen yw ‘Côr Gwyn’ neu’r ‘Eglwys Wen’ ac mae ei wreiddiau’n dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif, pan y tyfodd o gwmpas cymuned grefyddol a sefydlwyd gan seintiau o dras Llydewig a Chymreig, sef Mael a Sulien.

Map tref: Corwen (PDF, 2.23MB)

Dinbych

Tref fach ar y ffin oedd Dinbych (yr ystyr yw ‘caer fechan’) yn ôl cofnod o'r
11eg Ganrif a thyfodd yn ystod y 200 mlynedd wedi hynny yn llys brenhinol ar gyfer tywysogion Cymru ac yn ganolfan rymus yng Ngogledd Cymru.

Map tref: Dinbych (PDF, 3.01MB)

Dyserth

Mae pentref Dyserth yn gorwedd islaw llethrau Moel Hiraddug – sydd wedi’i dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ers 1985.

Map tref: Dyserth (PDF, 1.23MB)

Llangollen

Saif Llangollen mewn man prydferth gerllaw Afon Dyfrdwy, dan gysgod Mynyddoedd y Berwyn i’r de a Mynydd Rhiwabon i’r gogledd, gyda Chastell Dinas Brân yn edrych dros y dref.

Map tref: Llangollen (PDF, 2.89MB)

Prestatyn

Mae Prestatyn yn un o ddim ond deuddeg tref yn y DU sydd â’r statws swyddogol ‘Walkers are welcome’. O gerdded Llwybr Arfordir Cymru i archwilio bywyd gwyllt prin yn Nhwyni Gronant, byddwch yn sicr o gael croeso cynnes iawn.

Map tref: Prestatyn (PDF, 4.01MB)

Rhuddlan

Mae gan Rhuddlan hanes hir a nodedig, yn ymestyn yn ôl i'r cyfnod
Mesolithig, oddeutu 7,000 CC. Oherwydd safle allweddol Rhuddlan ger man croesi hynafol afon Clwyd, adlewyrchai'r berthynas rhwng y Cymry a'r Saeson; pwy bynnag oedd yn rheoli'r rhyd oedd hefyd yn rheoli'r llwybr hawsaf i ymosod ar berfeddwlad Gogledd Cymru, neu i ymosod o'r cyfeiriad hwnnw.

Map tref: Rhuddlan (PDF, 1.53MB)

Y Rhyl

Mae’r Rhyl yn dref glan y môr bywiog a chyffrous lle cynhelir digwyddiadau ac atyniadau sy’n cadw’r teulu wedi’u difyrru drwy’r dydd a’r nos hefyd.

Map tref: Y Rhyl (PDF, 5MB)

Rhuthun

Yn ogystal â’i phensaernïaeth ddeniadol a phatrymau stryd canoloesol, mae gan Rhuthun amrywiaeth o siopau arbenigol o ansawdd da, a digon o leoedd i fwyta ac yfed. Mae Rhuthun wedi ei leoli wrth droed Bryniau Clwyd, felly nid yw ymwelwyr fyth ymhell o daith hwyliog neu olygfa odidog.

Map tref: Rhuthun (PDF, 3.01MB)

Dinas Llanelwy

Mae'r eglwys gadeiriol, yr honnir ei bod y lleiaf ym Mhrydain Fawr, yn edrych dros y ddinas sydd ar lannau dwy afon.

Map tref: Llanelwy (PDF, 2.48MB)