Gofalwyr sy’n Oedolion

Yr wybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr sy’n oedolion.

Beth yw gofalwr sy’n oedolyn?

Mae gofalwyr sy’n oedolion yn bobl hŷn na 18 oed sy’n darparu gofal di-dâl i unrhyw un ag anghenion iechyd neu ofal cymdeithasol, gan gynnwys

  • salwch
  • bod yn fregus
  • anabledd
  • anawsterau iechyd meddwl
  • problemau camddefnyddio sylweddau. 

Mae gofalwyr o dan 18 oed yn cael eu cyfrif fel gofalwyr ifanc. Dysgwch fwy am ofalwyr ifanc.

Rhowch wybod i’ch meddyg teulu a’ch cyflogwr

Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i’ch meddyg teulu a’ch cyflogwr eich bod yn ofalwr, a gofyn iddynt wneud nodyn o hynny yn eu cofnodion. Mae hyn yn bwysig rhag ofn y bydd argyfwng yn codi. Dysgwch fwy am gynllunio ar gyfer argyfwng (gwefan allanol)

Cefnogaeth 

Mae gofalwyr sy’n oedolion yn medru cael cefnogaeth ariannol a chymorth i gael seibiant oddi wrth ofalu.

Lwfans Gofalwr a chymorth ariannol

Mae’r cymorth ariannol sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o bethau.

Dysgwch fwy am y Lwfans Gofalwr a'r cymorth ariannol sydd ar gael (gwefan allanol)

Asesiad o Anghenion Gofalwr

Gallwch gael asesiad o anghenion gofalwr i ganfod beth yw eich anghenion a pha wasanaethau y gellid eu darparu i’ch cefnogi.

Dysgwch sut i gael asesiad o anghenion gofalwr

Cydbwysedd rhwng gwaith a gofalu

Os ydych chi’n gweithio, gall fod yn anodd cadw cydbwysedd rhwng eich swydd a’ch cyfrifoldebau gofalu.

Dysgwch fwy am gadw cydbwysedd rhwng gwaith a gofalu (gwefan allanol)

Offer Teleofal

Mae offer Teleofal yn helpu pobl i alw am gymorth pan nad yw eu gofalwyr ar gael. 

Dysgwch fwy am offer Teleofal