Tir llygredig

Gall tir llygredig achosi niwed sylweddol neu beri risg o niwed sylweddol oherwydd sylweddau peryglus mewn, ar neu o dan y tir hwnnw. Gall tir ddod yn llygredig o ganlyniad i gael gwared â gweddillion diwydiannol neu golli sylweddau.

Cyfrifoldebau’r perchennog / datblygwr

Os ydych chi’n berchennog ar safle neu’n ddatblygwr, mae’n gyfrifoldeb arnoch chi i archwilio’r tir am lygredd ac i wneud yn siŵr bod y safle yn ddiogel ac yn addas i’w ddatblygu.

Rydym ni’n argymell yn gryf eich bod yn penodi ymgynghorwyr amgylcheddol cymwys a phrofiadol i archwilio tir i weld a yw’n llygredig ac i ddarparu cyngor i chi ar eich goblygiadau cyfreithiol.

Derbyn cyngor ar dir llygredig gan Asiantaeth yr Amgylchedd (gwefan allanol).

Prynu neu werthu eiddo

Os ydych chi’n prynu neu’n gwerthu tir mae’n bwysig eich bod yn gwybod a yw’r tir wedi ei lygru yn dilyn gweithgareddau ar y tir hwnnw yn y gorffennol.

Ein cyfrifoldebau ni

Rydym ni’n gwneud yn siŵr bod datblygwyr yn ymgymryd â’r archwiliadau safle angenrheidiol ac yn gwneud cynigion i ddelio â llygredd wedi ei ganfod gan eu gweithredu yn gyfrifol ac effeithiol.

Gwneud cais am wybodaeth am dir

Mae gennym ni rhywfaint o wybodaeth y gellir ei defnyddio i helpu asesu p’un ai yw tir yn llygredig ai peidio.

Gallwch dderbyn yr wybodaeth ffeithiol sydd gennym ni drwy wneud Cais am Wybodaeth Amgylcheddol, ond dim ond er dibenion ymchwil, adolygu a dibenion anfasnachol y cewch chi ddefnyddio’r wybodaeth.

Derbyn mwy o wybodaeth am Geisiadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Rhoi gwybod am fater

Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni am fater a all lygru tir, fel tanciau tanwydd gwresogi yn colli oel neu golli tanwydd.

Rydym ni’n delio â rhai materion llygredd dŵr ac mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn delio â materion eraill. Os hoffech chi roi gwybod am ddŵr llygredi, cliciwch yma i wybod gyda phwy y dylech chi gysylltu.

Derbyn cyngor ar dir llygredig gan Asiantaeth yr Amgylchedd (gwefan allanol).

Gallwch roi gwybod am dipio anghyfreithlon yma

Cofrestr tir halogedig

Cofrestr tir halogedig (PDF, 147KB)