Y Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn nodi’r cynigion a’r polisïau ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn Sir Ddinbych yn y dyfodol. Cafodd ein CDLl ni ei fabwysiadu ym mis Mehefin 2013.

Mapiau

Ers mabwysiadu CDLl Sir Ddinbych yn 2006-2021 mae Ardal Gadwraeth y Rhyl wedi’i hadolygu a’i diwygio. Mae Ardal Gadwraeth y Rhyl bellach yn wahanol i’r hyn a ddangosir ar fapiau cynigion y CDLl a’r map rhyngweithiol.

Ardal Gadwraeth ddiwygiedig y Rhyl (PDF, 5.37MB)

Map: Y Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig

Mapiau Cynigion Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych 2006–2021 (Pentrefi)
Mapiau Cynigion Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych 2006–2021 (Pentrefannau)

Canllawiau i Ddatblygwyr

Ar hyn o bryd, nid yw’r Cyngor yn gallu dangos bod 5 mlynedd o gyflenwad tir ar gyfer tai ar gael fel sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru.

Mae hyn wedi arwain at nifer o geisiadau ac ymholiadau cynllunio ar gyfer datblygu tai ar safleoedd y tu allan i ffiniau datblygu fel maent wedi’u nodi yn y CDLl mabwysiedig.

Mae’r Cyngor felly wedi drafftio Canllaw i Ddatblygwyr a gafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio ar 11 Tachwedd 2015. Pwrpas y Canllaw yw rhoi arweiniad i ddarpar ymgeiswyr ar ddarparu tystiolaeth gynhwysfawr i ddangos bod y datblygiad arfaethedig yn gynaliadwy a'i fod yn ymarferol ac yn gyflawnadwy er mwyn iddo wneud cyfraniad gwirioneddol a chynnar at y cyflenwad tir ar gyfer tai ac adeiladu ar y safle.

Canllaw i Ddatblygwyr – Cynigion Datblygu Tai y Tu Allan i'r Cynllun Datblygu Lleol (PDF, 231KB) 

Prosbectws Tir ar gyfer Tai

Diben y ddogfen hon yw darparu rhestr o gyfleoedd datblygu tai yn Sir Ddinbych i ddatblygwyr a buddsoddwyr. Bwriad y prosbectws hwn yw crynhoi ystyriaethau datblygu hysbys ar gyfer pob safle tai. Mae un safle ar bob tudalen yn galluogi dosbarthu’r holl wybodaeth gefndir berthnasol yn hawdd yn ystod y cam cyn gwneud cais.

Mae'r Prosbectws Tai yn rhestru tua 60 o safleoedd sydd ar gael ar gyfer datblygiadau preswyl yn Sir Ddinbych. Mae'n amlinellu nodweddion y safle a pholisïau lleol sy'n berthnasol i unrhyw geisiadau cynllunio yn y dyfodol yn fras. Rydym yn hapus i ddarparu gwasanaeth llawn cyn gwneud cais.

Mae'r tîm Cynllunio Strategol a Thai yn hapus i helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Astudiaeth Deiliadaeth Tai Newydd (PDF, 692KB)

Cysylltu â ni