Caniatâd i hysbysebu

I arddangos hysbyseb neu arwydd yn Sir Ddinbych, efallai y bydd arnoch angen cael caniatâd oddi wrthym.

Mae 3 grŵp o hysbysebion sydd â gwahanol reolau cynllunio.

Hysbysebion sydd wedi'u heithrio rhag rheolaeth

Caniateir arddangos hysbyseb tu allan heb ganiatâd penodol yr awdurdod cynllunio os:

  • mai effaith y rheolau yw gwahardd rhag rheolaeth yn gyfan gwbl;
  • os yw’n dod o fewn darpariaethau un o’r 14 dosbarth caniatâd tybiedig wedi’i enwi yn y rheolau.

Mae 10 gwahanol ddosbarthiadau o hysbysebu sydd wedi eu gwahardd yn gyfan gwbl rhag rheolaeth os yw amodau penodol yn cael eu cyflawni.

Gweld y 10 dosbarth o hysbysebion wedi’u gwahardd rhag rheolaeth
  • Hysbysebion ar falwnau wedi’u clymu:Er nid yw hysbysebu gyda balŵn wedi'i glymu ar uchder sy’n fwy na 60 medr o lefel y ddaear yn atebol i reolaeth hysbyseb, maent yn atebol i reolaethau hedfan sifil am bob modd hysbysebu awyrol, mae’n rhaid i chi gael caniatâd Awdurdod Hedfan Sifil cyn hedfan unrhyw falŵn ar uchder sy’n fwy na 60 medr.
    Hysbyseb un balŵn wedi eithrio rhag rheolaeth os ydyw:
    • ddim mwy na 60 medr yn uwch na'r ddaear
    • heb ei arddangos am fwy na 10 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn galendr; a
    • nid mewn Ardal Rheolaeth Arbennig o Hysbysebion, Parc Cenedlaethol, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Ardal Gadwraeth neu yn y Broads.
  • Hysbysebion wedi’u harddangos ar dir caeedig: Byddai'r rhain yn cynnwys hysbysebion tu mewn blaen-gwrt gorsaf drenau, neu du mewn i orsaf fysiau neu stadiwm chwaraeon.
  • Hysbysebion wedi’u harddangos ar neu mewn unrhyw gerbyd neu long sydd yn symud fel arfer
  • Hysbysebion sydd yn rhan annatod o ddeunydd adeilad
  • Hysbysebion ar ffurf tocynnau neu farcwyr pris, enwau masnach ar nwyddau brand, neu yn cael eu harddangos ar bympiau petrol neu beiriannau gwerthu: Ni cheir goleuo’r hysbysebion hyn a ni chânt fod yn fwy na 0.1 medr sgwâr mewn arwynebedd.
  • Hysbysebion sy’n gysylltiedig ag etholiad Senedd, Senedd Ewrop, Cynulliad Cymru neu lywodraeth leol: Ni ddylai’r hysbysebion hyn gael eu harddangos 14 diwrnod ar ôl cau’r bleidlais.
  • Hysbysebion sy’n ofynnol gan unrhyw Orchymyn Seneddol, neu unrhyw ddeddfiad i’w gael eu harddangos
  • Arwyddion traffig. Unrhyw arwydd traffig (fel y diffinnir yn adran 64(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984)
  • Fflag genedlaethol unrhyw wlad: Ceir chwifio unrhyw fflag genedlaethol ar un polyn fflag fertigol, cyn belled nad oes unrhyw beth wedi ei ychwanegu at ddyluniad y fflag neu unrhyw ddeunydd hysbysebu wedi ei ychwanegu i'r polyn fflag.
  • Hysbysebion wedi’u harddangos y tu fewn i adeilad: Ni ddylid goleuo’r hysbysebion hyn, na’u harddangos mewn adeilad nas ddefnyddir yn bennaf ar gyfer arddangos hysbysebion neu arddangos o fewn 1 medr o unrhyw ffenestr neu agoriadau allanol arall, lle gellir eu gweld o du allan yr adeilad.

Hysbysebion gyda chaniatâd tybiedig

Gall hysbysebion fod â ‘chaniatâd tybiedig’, sy’n golygu nad oes angen caniatâd os ydych yn aros o fewn rheolau penodol.

Os na allwch syrthio i un o’r dosbarthiadau a restrir o fewn y rheoliadau, yna yn ôl pob tebyg bydd arnoch angen caniatâd. 

Ganfod pa hysbysebion sydd â chaniatâd tybiedig

Dosbarth 1

Hysbysebion gweithredol awdurdodau lleol, darparwyr statudol, darparwyr cludiant cyhoeddus, a hysbysebion a arddangosir gan Awdurdodau Cynllunio lleol ar dir yn eu hardaloedd.

Dosbarth 2

Hysbysebion amrywiol mewn perthynas â’r eiddo y maent yn cael eu harddangos (e.e. proffesiwn, busnesau, masnach, sefydliadau crefyddol a gwestai).

Dosbarth 3

Hysbysebion dros dro amrywiol sy’n berthnasol i werthiant neu brydlesu eiddo, gwerthu nwyddau neu anifeiliaid da byw, cyflawni gwaith adeiladu neu waith tebyg, digwyddiadau lleol, arddangos prosesau amaethyddol, ac ymweliadau syrcas neu ffair deithiol.

Dosbarth 4

Hysbysebion wedi’u goleuo ar fangre busnes.

Dosbarth 5 

Hysbysebion ar wahân i hysbysebion wedi’u goleuo ar fangre busnes.

Dosbarth 6

Hysbysebion ar blaen-gwrt mangre busnes.

Dosbarth 7 

Hysbysebion fflag yn sownd i un polyn fflag fertigol o do adeilad, neu ar safle lle caniatawyd ganiatâd cynllunio i ddatblygiad preswyl, ac o leiaf un tŷ sydd dal heb ei werthu.

Dosbarth 8 

Hysbysebion ar hysbysfyrddau.

Dosbarth 9 

Hysbysebion ar strwythurau priffyrdd.

Dosbarth 10

Hysbysebion ar gyfer gwarchod y gymdogaeth a chynlluniau tebyg.

Dosbarth 11 

Hysbysebion yn cyfarwyddo prynwyr posibl i ddatblygiad preswyl.

Dosbarth 12 

Hysbysebion tu mewn i adeiladau.

Dosbarth 13 

Safleoedd a ddefnyddir i arddangos hysbysebion heb ganiatâd datganedig ar 1 Ebrill 1974 ac sydd wedi eu defnyddio'n barhaus ers y dyddiad hwnnw.

Dosbarth 14 

Hysbysebion a arddangosir ar ôl terfyn caniatâd datganedig (oni bai bod amod i'r gwrthwyneb wedi'i osod ar y caniatâd neu gwnaethpwyd cais i adnewyddu caniatâd a chafodd ei wrthod).

Hysbysebion sydd angen caniatâd datganedig

Bydd hysbysebion heb eu heithrio rhag rheolaeth ac nad ydynt yn dod dan 'ganiatâd tybiedig' angen cais am ganiatâd, adnabyddir hyn fel caniatâd tybiedig.

Fel arfer mae angen caniatâd ar gyfer hysbysfyrddau, arwyddion wedi’u goleuo, arwyddion ffasgai ac arwyddion sy’n taflu allan neu mangre busnes sydd yn uwch na 4.6 medr uwchben lefel y ddaear, yn ogystal ag hysbysebion ar dalcenni adeiladau.

Hefyd, mae angen caniatâd am arwyddion hysbysebu nwyddau na werthir yn yr eiddo lle arddangosir yr arwydd.

Gwneud cais am ganiatâd

Gallwch wneud cais ar-lein am ganiatâd i arddangos hysbyseb trwy wefan y porth cynllunio. 

Gwneud cais ar-lein am ganiatâd i arddangos hysbyseb (gwefan allanol)

Rhagor o wybodaeth am hysbysebion

Cewch ragor o wybodaeth yn y Canllaw Cynllunio Atodol

Canllaw Cynllunio Atodol - Hysbysebion (PDF, 241KB)