Pwyllgor Cynllunio

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych yn penderfynu tua 25% o'r ceisiadau cynllunio a ddaw i law gan y Cyngor Sir bob blwyddyn. Mae'r Pwyllgor Cynllunio yn cynnwys aelodau o wahanol ardaloedd ar draws y Sir. Mae'r Pwyllgor yn cynnwys Aelodau o grwpiau gwleidyddol gwahanol ac yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.

Mae gan y Pwyllgor Cynllunio Gadeirydd ac Is-gadeirydd. 

Gweld rhestr lawn o aelodau cyfredol y Pwyllgor Cynllunio ar gael ar wefan y Cyngor

Pa geisiadau bydd y Pwyllgor Cynllunio yn delio â nhw?

Mae'r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio a ddaw i law gan y Cyngor yn cael eu trin gan y Swyddogion Cynllunio proffesiynol dan "bwerau wedi’u dirprwyo iddynt". Mae hyn yn caniatáu Swyddogion i ddelio â’r ceisiadau syml, di-ddadleuol yn effeithlon, gan ganiatáu Pwyllgor i ganolbwyntio ar y penderfyniadau mawr neu fwy dadleuol.

Mae ein Cynllun Dirprwyo a fabwysiadwyd yn nodi'r mathau o geisiadau sy’n cael eu trin gan Swyddogion a'r Pwyllgor. 

Pryd fydd y Pwyllgor Cynllunio yn cyfarfod?

Mae'r Pwyllgor Cynllunio yn cyfarfod bob 4 wythnos neu tua hynny yn Siambr y Cyngor, Ffordd Wynnstay, Rhuthun. 

Darganfod dyddiadau’r Pwyllgorau Cynllunio ar gael ar wefan y Cyngor

O leiaf 3 diwrnod gwaith cyn y Pwyllgor Cynllunio, mae adroddiadau ar y ceisiadau sydd i fod i gael eu clywed yn y Pwyllgor yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor.

Mae'r adroddiadau amrywiol i'w hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio yn cynnwys manylion yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad a’r cyhoeddusrwydd a ddaeth i law pan gwblhawyd yr adroddiad.

A yw Aelodau'r Pwyllgor yn ymweld â safle'r cais?

Gall panel o Aelodau ddewis, ar eu cais, ymweld â safle'r cais cyn iddo gael ei glywed yn y Pwyllgor. Mae’r panel o Aelodau fel arfer yn wleidyddol gytbwys a bydd hefyd yn cynnwys swyddogion arbenigol perthnasol. Ceir gweithdrefnau cytûn ar gyfer paneli safle. Mae ffotograffau o safleoedd y cais ac o'u cwmpas bob amser yn cael eu dangos yn y Pwyllgor.

A allaf annerch y Pwyllgor Cynllunio?

Gallwch, rydym yn caniatáu Siarad Cyhoeddus yn ein Pwyllgor Cynllunio. Am ragor o wybodaeth am sut i wneud hyn, gweler dweud eich dweud am gais cynllunio.

Dylech fod yn ymwybodol bod y Pwyllgor Cynllunio yn cael ei weddarlledu (gwefan allanol). Mae yna reolau a gweithdrefnau sy'n rhaid eu dilyn yn y Pwyllgor, a dylai siaradwyr ganolbwyntio ar y materion cynllunio perthnasol yn unig, mewn unrhyw achos penodol.

Beth sy'n digwydd ar ôl y Pwyllgor Cynllunio?

Fel arfer, bydd swyddogion yn cyhoeddi tystysgrifau perthnasol o benderfyniad ar y ceisiadau hynny a benderfynir gan y Pwyllgor Cynllunio, 2 neu 3 diwrnod ar ôl y Pwyllgor.

Os byddai Pwyllgor yn dewis gohirio gwneud penderfyniad ar gais penodol h.y. i geisio gwybodaeth bellach), bydd ymgeiswyr yn cael gwybod yn fuan ar ôl y cyfarfod.