Dweud eich dweud am gais cynllunio

Ewch yn syth i:

Cyflwyniad

Mae sawl ffordd o ddweud eich dweud am gais cynllunio.

Gallwch wneud sylwadau uniongyrchol ar-lein neu drwy anfon e-bost neu ysgrifennu at yr adain Rheoli Datblygu (Cynllunio). Mae modd dysgu mwy yn yr adran ‘gwrthwynebu, cefnogi neu roi sylwadau ar gais cynllunio’ ar dudalen we chwilio am geisiadau cynllunio a gadael sylwadau. Mae'n bwysig eich bod yn gwneud hyn cyn y dyddiad cau ar gyfer sylwadau, a fydd yn cael ei amlinellu yn yr hysbysiad am y cais.

Mae modd gofyn i'ch cynghorydd sir lleol ysgrifennu neu siarad ar eich rhan. Gallwch ddod o hyd i bwy yw eich cynghorydd lleol ar-lein neu yn ein swyddfeydd, llyfrgelloedd neu drwy ffonio 01824 706727.

Mae 21 o’n 48 cynghorydd yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio. Cofiwch na all aelodau’r Pwyllgor Cynllunio ddatgan eu safbwynt yn gyhoeddus ar gais cynllunio cyn iddo gael ei ystyried gan y pwyllgor, gan na fyddent yn gallu siarad neu bleidleisio ar y cais.

Mae gennym gynllun i ganiatáu i rai sydd â diddordeb mewn cais, yn cynnwys gwrthwynebwyr, cefnogwyr, cynghorau tref a chymuned, ymgeiswyr ac asiantaethau, siarad yn y Pwyllgor Cynllunio gan ddilyn y canllawiau isod.

Yn ôl i frig y dudalen.

Gwe-ddarlledu / darlledu cyfarfodydd

Mae'r Cyngor wedi cytuno y dylai cyfarfodydd penodol o’r Pwyllgor Cynllunio gael eu darlledu’n fyw dros y we ('gweddarlledu') (gwefan allanol), neu eu recordio ar gyfer eu darlledu wedyn. Mae camerâu yn siambr y cyngor at y diben hwn. Wrth wneud hynny, bydd y Cyngor yn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Hawliau Dynol 1998.

Bydd hysbysiad ar y rhaglen a Chadeirydd y cyfarfod yn ei gwneud yn glir, er yn gyffredinol nad yw ardaloedd seddau cyhoeddus yn cael eu ffilmio; drwy fynd i mewn i'r ystafell gyfarfod a defnyddio'r ardal seddau cyhoeddus, mae aelodau'r cyhoedd yn cydsynio i gael eu ffilmio ac i’r delweddau hynny a recordiadau sain gael eu defnyddio ar gyfer gweddarlledu a/neu ddibenion hyfforddi. Bydd y rhai y disgwylir iddynt siarad yn gyhoeddus yn derbyn eglurhad o’r broses.

Yn ôl i frig y dudalen.

Beth i’w wneud os byddwch eisiau siarad yn y pwyllgor cynllunio

Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio fydd yn estyn gwahoddiad i siarad ac yn penderfynu sut mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal, yn amodol ar y canllawiau isod. 

Dim ond os yw’r cais cynllunio ar raglen y pwyllgor y gallwch siarad. Mae amryw o geisiadau’n cael eu penderfynu gan swyddogion dan bwerau wedi’u dirprwyo er y bydd unrhyw sylwadau a wnaed ar gais yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniad.

Dim ond un aelod o’r cyhoedd all siarad o blaid cais cynllunio a dim ond un yn erbyn. Gall Cadeirydd y pwyllgor benderfynu caniatáu ail siaradwr, ond dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, pan fydd cais mawr yn arwain at lawer o wahanol safbwyntiau er enghraifft.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r adain gynllunio eich bod eisiau gwneud cais i siarad cyn gynted â phosibl cyn y cyfarfod, ond o leiaf cyn 4.30pm ar y dydd Llun cyn y dydd Mercher y bydd y Pwyllgor Cynllunio’n cael ei gynnal. Rhaid i chi adael rhif ffôn yn ystod y dydd er mwyn i ni gysylltu â chi.

Cysylltu â Rheoli Datblygu (Cynllunio)

E-bost: lisa.evans@sirddinbych.gov.uk

Rhif ffôn: 01824 706727

Post:

Lisa Evans
Rheolwr Tîm Cefnogi
Rheoli Datblygu (Cynllunio)
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ

Fel arall, mae modd cysylltu ag aelod arall o staff yn yr Adain Gynllunio ar 01824 706727 neu drwy anfon e-bost at cynllunio@sirddinbych.gov.uk.

Yn ôl i frig y dudalen.

Beth os oes mwy nag un person yn dymuno siarad?

Os oes nifer o bobl yn dymuno siarad o blaid cais, gan gynnwys yr ymgeisydd, dim ond yr ymgeisydd fydd yn cael siarad. Fodd bynnag, os nad yw'r ymgeisydd yn dymuno siarad, yna dylid dewis llefarydd fel yr amlinellwyd isod.

Os oes nifer o bobl yn dymuno siarad o blaid neu yn erbyn cais, dylent benderfynu ymlaen llaw pwy fydd yn gweithredu fel llefarydd, a rhoi gwybod wedyn i'r adain Gynllunio. Os ydych chi’n rhoi caniatâd i ni rannu eich manylion cyswllt gydag eraill (gyda’r un safbwynt) sy’n gwneud cais i siarad, bydd yn gymorth i chi ddewis un llefarydd. Gall hyn fod yn gynrychiolydd cyngor tref neu gymuned a fyddai’n gallu cyfleu safbwyntiau’r rhai sydd â diddordeb orau efallai. Os nad ydych yn cytuno ar lefarydd, dim ond yr unigolyn cyntaf i roi gwybod i’r cyngor sir (fel y disgrifir uchod) fydd yn cael siarad.

Cofiwch fod rhai cynghorwyr tref a chymuned hefyd yn gynghorwyr sir, ac mae ganddynt eisoes yr hawl i siarad yn y Pwyllgor Cynllunio yn unol â Rheolau Sefydlog y Cyngor.

Byddwn yn cysylltu â’r rhai sy’n gofyAt n am gael siarad i gadarnhau y bydd y cais yn cael ei ystyried yn y Pwyllgor penodol. Bydd hyn dros y ffôn, yn ysgrifenedig neu dros e-bost cyn y cyfarfod.

Yn ôl i frig y dudalen.

Rhannu dogfennau a gohebiaeth

Mae gennych hawl i gysylltu â chynghorwyr yn ysgrifenedig cyn diwrnod y cyfarfod a byddai’n ddefnyddiol anfon copïau o unrhyw ohebiaeth at Lisa Evans (gweler y manylion cyswllt uchod) yr un pryd. Ni fyddwch yn cael rhannu dogfennau na gohebiaeth yn y cyfarfod ei hun, gan fod hynny’n rhy hwyr i’w hystyried.

Yn ôl i frig y dudalen.

Beth fydd yn digwydd ar y diwrnod?

Rhaid i bob siaradwr ddod i gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio (a gynhelir fel arfer yn Swyddfeydd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun) a chyflwyno eu hunain i'r swyddogion wrth y dderbynfa cyn 9:15am. Mae’r cyfarfodydd yn dechrau am 9:30am ar ddydd Mercher bob pedair wythnos.

Mae dyddiadau a lleoliadau’r Pwyllgor Cynllunio ar gael ar dudalen ‘cyfarfodydd’ y Pwyllgor Cynllunio neu drwy gysylltu â’r Swyddfa Gynllunio. Bydd trefn y rhaglen a gyhoeddir yn cael ei newid i ganiatáu i geisiadau sy’n cynnwys siaradwr cyhoeddus i gael eu hystyried ar ddechrau’r cyfarfod.

Fel arfer, bydd y sawl (rhai) sy’n siarad yn erbyn y cais yn mynd yn gyntaf, a’r rhai o blaid yn ail. Pan gewch eich gwahodd gan Gadeirydd y Pwyllgor, cewch siarad unwaith yn unig am hyd at dri munud ar yr eitem sydd o ddiddordeb i chi. Cedwir yn gaeth at y cyfnod o dri munud.

Yn ôl i frig y dudalen.

Beth y dylech ei drafod?

Rydym yn eich cynghori i ganolbwyntio ar y pwyntiau allweddol sy’n peri pryder i chi, gan y bydd pwyntiau a godwyd yn yr ohebiaeth eisoes wedi cael eu crynhoi yn yr adroddiad pwyllgor neu daflenni gwybodaeth hwyr. Dylech ganolbwyntio ar faterion cynllunio perthnasol, a allai gynnwys:

  • polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol
  • golwg a chymeriad y datblygiad, cynllun a dwysedd
  • creu traffig, diogelwch y briffordd a pharcio/gwasanaethu
  • gor-gysgodi, edrych drosodd, aflonyddwch sŵn, arogleuon neu golli amwynderau eraill.

Dylai siaradwyr osgoi cyfeirio at faterion y tu allan i gylch gorchwyl y Pwyllgor Cynllunio, megis:

  • dadleuon am ffiniau, cyfamodau a hawliau eiddo eraill
  • sylwadau personol, yn cynnwys rhai am gymhelliad rhywun arall, ei weithredoedd hyd yma, cefndir teuluol, ethnigrwydd ac ati.
  • hawl i olygfeydd neu ddibrisio eiddo.

Gall y Cadeirydd ymyrryd a gofyn i chi stopio siarad os byddwch yn dweud rhywbeth sy’n amhriodol, neu sy’n cael ei ystyried yn amhriodol, athrodus neu’n groes i ddeddfwriaeth cydraddoldeb.

Pan fyddwch wedi siarad, gofynnir i chi adael y gadair sydd wedi’i dynodi ar gyfer siarad yn gyhoeddus. Ni fydd unrhyw un yn gofyn cwestiynau i chi ac ni allwch chi ofyn cwestiwn i’r pwyllgor na’r swyddogion. Yna, mae’n rhaid i chi adael i’r Pwyllgor Cynllunio drafod y materion a pheidio ag ymuno yn y drafodaeth.

Sylwer na ellir tynnu lluniau yn ystod trafodaeth yn siambrau’r cyngor, a gofynnir i unrhyw un sy’n anwybyddu’r cais hwn adael y siambr. Rhaid hefyd diffodd pob ffôn symudol unwaith y byddwch yn mynd i mewn i’r siambr gan eu bod yn amharu ar ein hoffer cyfieithu.

Dylech wybod hefyd bod y Pwyllgor Cynllunio yn cael ei ffilmio a’i ffrydio’n fyw (gwefan allanol).

Yn ôl i frig y dudalen.