Cyrsiau a chymwysterau

Gall hyfforddiant fod ar sawl ffurf, o hyfforddiant ffurfiol yn y dosbarth, hyfforddiant ar-lein, seminarau a chynadleddau i gyfleoedd cysgodi gwaith a secondiad.

Cyfrif Dysgu Personol

Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu hawl dysgu hyblyg sy’n cael ei ariannu’n llawn i gefnogi unigolion cyflogedig sy’n ennill llai na’r incwm canolrifol, sef £30,596, yn ogystal a’r rheiny y mae eu swyddi mewn perygl. Mae’r cyrsiau ar gael ledled Cymru drwy 13 o golegau yng Nghymru ac maen nhw wedi’u cynllunio’n benodol i fynd i’r afael a hyfforddiant galwedigaethol mewn sectorau lle mae prinder sgiliau er mwyn sicrhau bod anghenion yr economi yn y dyfodol yn cael eu diwallu.  Gallwch wneud cais am yr arian hwn yn uniongyrchol gyda'r coleg.  Os oes angen unrhyw gyngor pellach arnoch, anfonwch e-bost at hrdirect@denbighshire.gov.uk neu laura.temple@sirddinbych.gov.uk.

Pwy sy’n gymwys?

Bydd trigolion Cymru sy’n 19 oed neu’n hŷn ac sy’n dymuno ennill sgiliau a chymwysterau mewn sectorau blaenoriaeth yn gymwys ar gyfer y cyrsiau ar yr amod eu bod yn bodloni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

  • maen nhw’n gyflogedig (gan gynnwys hunangyflogedig) ac yn ennill llai na £30,596 y flwyddyn
  • maen nhw’n gweithio ar gontractau dim oriau neu maen nhw’n staff asiantaeth
  • maen nhw mewn perygl o gael eu gwneud yn ddi-waith
  • yn droseddwr sy’n cael ei ryddhau yn ystod y dydd ar hyn o bryd

Gweler isod gwybodaeth defnyddiol ar wahanol gymwysterau a chyrsiau sydd ar gael i'n gweithwyr fanteisio arnynt.

Cyrsiau Hyfforddi 2023 / 2024

Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â'r holl brif undebau llafur (GMB, UNITE ac UNSAIN) yn ystod y 12 mis diwethaf i gael cyllid drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF), sy'n canolbwyntio ar wella dysgu a sgiliau gweithwyr.  Drwy weithio gydag undebau llafur i ddatblygu dysgu a sgiliau, byddwn yn gallu annog cyfranogiad ehangach mewn hyfforddiant, cefnogi hyfforddiant pwrpasol yn y gweithle a pharhau i ddatblygu ein gweithwyr.

Cymerwch olwg ar ein rhaglen amrywiol ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond sylwch hefyd y gallwn ychwanegu unrhyw bynciau ychwanegol drwy gydol y flwyddyn. Mae cyrsiau wedi'u trefnu hefyd gan ddarparwyr eraill ar wahân i WULF.

Nid oes rhaid i chi fod yn aelod o undeb benodol i fanteisio ar yr hyfforddiant hwn. Caiff yr holl gyrsiau eu darparu yn rhithiol drwy un ai Microsoft Teams neu Zoom, ac os hoffech archebu lle chwiliwch am y cwrs yn yr adran Ddysgu ar Hunan Wasanaeth iTrent neu cysylltwch â hrdirect@denbighshire.gov.uk.

Mawrth 2024

Mawrth 2024

Cwrs rheolwr uchelgeisiol

  • 4 Mawrth: 9:15pm i 12pm (hanner dydd)
  • 11 Mawrth: 9:30pm i 12pm (hanner dydd)
  • 18 Mawrth: 9:30pm i 12pm (hanner dydd)

I gyflogeion nad ydynt eto wedi ymgymryd â'u rôl rheoli cyntaf ond sy'n dymuno paratoi eu hunain ar gyfer datblygu eu gyrfa i'r cyfeiriad hwn. Cwrs o 3 sesiwn sy’n ymdrin â’r prif gamau sydd angen i chi eu hystyried yn eich taith o ran datblygiad i allu anelu at y lefel newydd o reoli pobl.

Rhaid i chi allu mynychu pob un o'r 3 modiwl a sicrhau eich bod yn archebu pob un o'r 3 dyddiad yn iTrent.


Gofyn a Gweithredu - grwp 2

5 Mawrth: 9:30am i 12:30pm

Cwrs hanner diwrnod i; cynyddu hyder a dealltwriaeth o nodi'n gynnar, gwneud ymholiad wedi'i dargedu a gwybod llwybrau atgyfeirio. Mae hwn yn gwrs gorfodol i unrhyw un sy'n gweithio mewn rôl sy'n wynebu'r ffrynt.

Nodau ac amcanion:

  • adnabod arwyddion a symptomau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • deall pwrpas a dangos y gallu i ymgymryd ag ymholiad wedi'i dargedu
  • dangos gwybodaeth am ddiogelu data a'r ddyletswydd cyfrinachedd
  • deall diben adnabod risg mewn perthynas â rhai mathau o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • gallu gweithredu'r llwybr gofal ymholiadau wedi'i dargedu
Ebrill 2024

Ebrill 2024

Iechyd gwell i mi

11 Ebrill: 9:30am i 10:30am

Sesiwn ar-lein un awr gyda gwybodaeth ar sut i wella eich iechyd a’ch lles. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer bob gweithiwr.

Nodau ac amcanion:

  • dysgu am y triongl iechyd
  • pwysigrwydd iechyd corfforol ac ymarfer corff.
  • dysgu am iechyd cymdeithasol a sut i wella eich lles cymdeithasol
  • pwysigrwydd diet iach a sefydlu arferion iach

Eich lles ariannol

17 Ebrill: 10am i 11:30am

Mae’r cwrs wedi’i lunio i helpu gweithwyr adnabod yn glir y 4 cam tuag at ddod yn dda yn ariannol, a all gefnogi gweithwyr drwy fywyd gwaith a thu hwnt. Darparu gwybodaeth i helpu cefnogi gweithwyr i wneud penderfyniadau ariannol deallus.

Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu:

  • trethu personol, lwfansau a budd-daliadau (eich cyflog ar ôl didyniadau)
  • deall eich arian
  • adolygu eich benthyciad
  • cynilion a buddsoddiadau
  • gwerth eich pensiynau

Archebu lle ar y cwrs eich lles ariannol (gwefan allanol)

Gweler fideo gyda rhagor o wybodaeth am y cwrs eich lles ariannol (gwefan allanol)


Cynllunio ar gyfer ymddeoliad cadarnhaol (sesiynau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a sesiynau Cynllun Pensiwn Athrawon)

18 Ebrill: 9:30am i 12pm (hanner dydd) (Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol)

Efallai y bydd ymddeoliad hyd at 10 mlynedd i ffwrdd ond nid yw byth yn rhy fuan i ddechrau cynllunio. Mae'r cwrs hwn yn berffaith i unrhyw un sy'n ystyried ymddeol neu sydd eisoes ar y camau cynllunio.

Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu sut i:

  • eich helpu i gynllunio ar gyfer y newidiadau i'r ffordd o fyw sydd o'ch blaen
  • manteisio i'r eithaf ar eich pensiynau Gwladol a'ch gweithle
  • gwnewch y gorau o'ch arian parod di-dreth
  • deall yr opsiynau incwm sydd ar gael o'ch pensiwn
  • cyflawni eich nodau ymddeol

Archebu lle ar y cwrs ymddeol (gwefan allanol)

Gweler fideo gyda rhagor o wybodaeth am y cwrs ymddeol (gwefan allanol)

Mehefin 2024

Mehefin 2024


Cynllunio ar gyfer ymddeoliad cadarnhaol (sesiynau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a sesiynau Cynllun Pensiwn Athrawon)

3 Mehefin: 4:30pam i 7pm (Cynllun Pensiwn Athrawon)

Efallai y bydd ymddeoliad hyd at 10 mlynedd i ffwrdd ond nid yw byth yn rhy fuan i ddechrau cynllunio. Mae'r cwrs hwn yn berffaith i unrhyw un sy'n ystyried ymddeol neu sydd eisoes ar y camau cynllunio.

Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu sut i:

  • eich helpu i gynllunio ar gyfer y newidiadau i'r ffordd o fyw sydd o'ch blaen
  • manteisio i'r eithaf ar eich pensiynau Gwladol a'ch gweithle
  • gwnewch y gorau o'ch arian parod di-dreth
  • deall yr opsiynau incwm sydd ar gael o'ch pensiwn
  • cyflawni eich nodau ymddeol

Archebu lle ar y cwrs ymddeol (gwefan allanol)

Gweler fideo gyda rhagor o wybodaeth am y cwrs ymddeol (gwefan allanol)


Medi 2024

Medi 2024

Cynllunio ar gyfer ymddeoliad cadarnhaol (sesiynau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a sesiynau Cynllun Pensiwn Athrawon)

12 Medi: 9:30am i 12pm (hanner dydd) (Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol)

Efallai y bydd ymddeoliad hyd at 10 mlynedd i ffwrdd ond nid yw byth yn rhy fuan i ddechrau cynllunio. Mae'r cwrs hwn yn berffaith i unrhyw un sy'n ystyried ymddeol neu sydd eisoes ar y camau cynllunio.

Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu sut i:

  • eich helpu i gynllunio ar gyfer y newidiadau i'r ffordd o fyw sydd o'ch blaen
  • manteisio i'r eithaf ar eich pensiynau Gwladol a'ch gweithle
  • gwnewch y gorau o'ch arian parod di-dreth
  • deall yr opsiynau incwm sydd ar gael o'ch pensiwn
  • cyflawni eich nodau ymddeol

Archebu lle ar y cwrs ymddeol (gwefan allanol)

Gweler fideo gyda rhagor o wybodaeth am y cwrs ymddeol (gwefan allanol)

Hydref 2024

Hydref 2024

Eich lles ariannol

4 Hydref: 1pm i 2:30pm

Mae’r cwrs wedi’i lunio i helpu gweithwyr adnabod yn glir y 4 cam tuag at ddod yn dda yn ariannol, a all gefnogi gweithwyr drwy fywyd gwaith a thu hwnt. Darparu gwybodaeth i helpu cefnogi gweithwyr i wneud penderfyniadau ariannol deallus.

Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu:

  • trethu personol, lwfansau a budd-daliadau (eich cyflog ar ôl didyniadau)
  • deall eich arian
  • adolygu eich benthyciad
  • cynilion a buddsoddiadau
  • gwerth eich pensiynau

Archebu lle ar y cwrs eich lles ariannol (gwefan allanol)

Gweler fideo gyda rhagor o wybodaeth am y cwrs eich lles ariannol (gwefan allanol)

Tachwedd 2024

Tachwedd 2024

Cynllunio ar gyfer ymddeoliad cadarnhaol (sesiynau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a sesiynau Cynllun Pensiwn Athrawon)

7 Tachwedd: 1pm i 3:30pm (Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol)

Efallai y bydd ymddeoliad hyd at 10 mlynedd i ffwrdd ond nid yw byth yn rhy fuan i ddechrau cynllunio. Mae'r cwrs hwn yn berffaith i unrhyw un sy'n ystyried ymddeol neu sydd eisoes ar y camau cynllunio.

Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu sut i:

  • eich helpu i gynllunio ar gyfer y newidiadau i'r ffordd o fyw sydd o'ch blaen
  • manteisio i'r eithaf ar eich pensiynau Gwladol a'ch gweithle
  • gwnewch y gorau o'ch arian parod di-dreth
  • deall yr opsiynau incwm sydd ar gael o'ch pensiwn
  • cyflawni eich nodau ymddeol

Archebu lle ar y cwrs ymddeol (gwefan allanol)

Gweler fideo gyda rhagor o wybodaeth am y cwrs ymddeol (gwefan allanol)

E-ddysgu

Mae gennym amryw o gyrsiau sy'n cael eu cyflwyno trwy E-ddysgu a gellir dod o hyd i'r rhain ar y dudalen E-ddysgu, gall y rhain fod yn benodol i Sir Ddinbych ond mae amryw o gyrsiau eraill ar gael hefyd gan Academi Cymru Gyfan.

Academi Wales

Fel gweithiwr llywodraeth lleol byddwch yn dod yn aelod o Academi Wales (gwefan allanol), sy'n darparu llawer iawn o hyfforddiant ac adnoddau y gallwch fanteisio arnynt. Mae'r rhain i gyd yn rhad ac am ddim ac mae rhai o'r cyrsiau yn ffyrdd gwych o ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad a chyfle i rwydweithio.

Cymwysterau

Rydym yn gweithio'n agos gyda Cholegau a Phrifysgolion lleol i gyflwyno cymwysterau a chyrsiau hyfforddi cydnabyddedig i'n gweithwyr. Gall rhai gael eu hariannu drwy'r ardoll brentisiaeth, yr adran trwy ddulliau eraill.

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld gweithwyr yn dechrau ac yn cwblhau’n llwyddiannus gymwysterau rheoli mewn Arweinyddiaeth a Rheoli ILM Lefel 2 a 3, ILM Hyfforddi a Mentora Lefel 3 a 5, Diploma Rheoli Prosiect Lefel 4 a Rheoli Adnoddau Dynol i enwi ond ychydig.

Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw gyrsiau neu gymwysterau bydd angen i chi siarad â'ch rheolwr yn y lle cyntaf, a all wedyn siarad â'r tîm Datblygu Sefydliadol i drefnu trafodaeth gyda'r darparwr. Efallai y gwelwch amryw o sesiynau ymwybyddiaeth yn cael eu hysbysebu a'u cynnal trwy gydol y flwyddyn a allai fod o ddiddordeb i chi.

Mae yna hefyd ddewis o hyfforddiant a chymwysterau adrannol eraill y gall ein gweithwyr eu cyflawni ac rydym yn gweithio'n barhaus i ddatblygu'r cynnig i'n gweithwyr, mae'r rhain yn cynnwys hyfforddiant Iechyd a Diogelwch, Gofal Cymdeithasol, Cyngor ac Arweiniad, TGCh a Chyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol.

Hyfforddiant mewnol neu hyffordiant arbennig

Gallwn hefyd gynnig hyfforddiant pwrpasol ar gyfer adrannau pan fo prosiect/angen penodol a gallwn deilwra'r hyfforddiant i ddiwallu anghenion gwasanaeth penodol. Cadwch lygad am gyfleoedd hyfforddiant amrywiol ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu ddiddordeb mewn unrhyw gymwysterau a hyfforddiant cysylltwch â Laura Temple, Arbenigwr Datblygu Sefydiadol – Dysgu a Datblygu - laura.temple@sirddinbych.gov.uk.

Cyfleoedd dysgu undebau pwrpasol

Os ydych yn aelod o'r undeb efallai y byddwch yn dod o hyd i ragor o gymhwysterau a chyrsiau y gallech fynychu neu allu gwneud cais amdanynt.   Gweler eu tudalennau dysgu pwrpasol islaw:


GMB Union Unison Unite the Union