Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu hawl dysgu hyblyg sy’n cael ei ariannu’n llawn i gefnogi unigolion cyflogedig sy’n ennill llai na’r incwm canolrifol, sef £32,371, yn ogystal a’r rheiny y mae eu swyddi mewn perygl. Mae’r cyrsiau ar gael ledled Cymru drwy 13 o golegau yng Nghymru ac maen nhw wedi’u cynllunio’n benodol i fynd i’r afael a hyfforddiant galwedigaethol mewn sectorau lle mae prinder sgiliau er mwyn sicrhau bod anghenion yr economi yn y dyfodol yn cael eu diwallu. Gallwch wneud cais am yr arian hwn yn uniongyrchol gyda'r coleg. Os oes angen unrhyw gyngor pellach arnoch, anfonwch e-bost at hrdirect@denbighshire.gov.uk.
Pwy sy’n gymwys?
Bydd trigolion Cymru sy’n 19 oed neu’n hŷn ac sy’n dymuno ennill sgiliau a chymwysterau mewn sectorau blaenoriaeth yn gymwys ar gyfer y cyrsiau ar yr amod eu bod yn bodloni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:
- maen nhw’n gyflogedig (gan gynnwys hunangyflogedig) ac yn ennill llai na £32,371 y flwyddyn
- maen nhw’n gweithio ar gontractau dim oriau neu maen nhw’n staff asiantaeth
- maen nhw mewn perygl o gael eu gwneud yn ddi-waith
- yn droseddwr sy’n cael ei ryddhau yn ystod y dydd ar hyn o bryd
Gyrfa Cymru: Cyfrifon Dysgu Personol (gwefan allanol)