Cyrsiau hyfforddi i weithwyr y Cyngor

Cyrsiau hyfforddi i weithwyr y Cyngor Cyrsiau ar gael i staff yn 2025 i 2026. cyrsiau-hyfforddi

Cyrsiau Hyfforddi 2025 / 2026

Cymerwch olwg ar ein rhaglen amrywiol am y flwyddyn i ddod, ond cofiwch efallai y byddwn ychwanegu mwy o gyrsiau yn ystod y flwyddyn. Os oes arnoch angen cymorth i archebu lle ar y cyrsiau hyn, cysylltwch â  hrdirect@denbighshire.gov.uk.

Ymunom â GMB, UNITE ac UNSAIN wrth sicrhau cyllid gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru er mwyn hybu dysg a sgiliau ein gweithwyr. Drwy gydweithio fel hyn gallwn ehangu cyfranogiad mewn cyrsiau hyfforddiant, addasu hyfforddiant ar gyfer gweithleoedd penodol a chynnig y cyrsiau i bawb, p’un a ydynt yn perthyn i undeb neu beidio.

Hyfforddiant mewnol neu hyffordiant arbennig

Gallwn hefyd gynnig hyfforddiant pwrpasol ar gyfer adrannau pan fo prosiect/angen penodol a gallwn deilwra'r hyfforddiant i ddiwallu anghenion gwasanaeth penodol. Cadwch lygad am gyfleoedd hyfforddiant amrywiol ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu ddiddordeb mewn unrhyw gymwysterau a hyfforddiant cysylltwch â HRdirect@denbighshire.gov.uk.

Cyfleoedd dysgu undebau pwrpasol

Os ydych yn aelod o'r undeb efallai y byddwch yn dod o hyd i ragor o gymhwysterau a chyrsiau y gallech fynychu neu allu gwneud cais amdanynt.   Gweler eu tudalennau dysgu pwrpasol islaw:


GMB Union Unison Unite the Union