Hyfforddiant a dysgu ar-lein ac allanol

E-ddysgu

Mae gennym amryw o gyrsiau sy'n cael eu cyflwyno trwy E-ddysgu a gellir dod o hyd i'r rhain ar y dudalen E-ddysgu, gall y rhain fod yn benodol i Sir Ddinbych ond mae amryw o gyrsiau eraill ar gael hefyd gan Academi Cymru Gyfan.

Academi Wales

Fel gweithiwr llywodraeth lleol byddwch yn dod yn aelod o Academi Wales (gwefan allanol), sy'n darparu llawer iawn o hyfforddiant ac adnoddau y gallwch fanteisio arnynt. Mae'r rhain i gyd yn rhad ac am ddim ac mae rhai o'r cyrsiau yn ffyrdd gwych o ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad a chyfle i rwydweithio.

Supply Chain Sustainability School

Mae’r wefan am ddim i gofrestru arni ac mae’n darparu amrywiaeth eang o fformatau hyfforddiant achrededig Datblygiad Proffesiynol Parhaus i weddu i’ch anghenion. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod gennych fynediad at y wybodaeth a’r sgiliau gofynnol i ragori mewn cynaliadwyedd.

Ewch i Supply Chain Sustainability School (gwefan allanol)