Pwrpas yr hyfforddiant ymsefydlu
Mae'r broses ymsefydlu yn rhoi cyfle i:
- fagu hyder gweithwyr newydd yng Nghyngor Sir Ddinbych er mwyn eu galluogi i wneud yr argraff fwyaf posib
- croesawu gweithwyr newydd i’r cyngor mewn dull cefnogol a phositif, a'u cynorthwyo i setlo i’w hamgylchedd gweithio newydd
- sicrhau fod gweithwyr newydd yn deall sut mae eu rôl yn cyfrannu tuag at gyflawni gweledigaeth y cyngor
- pwysleisio ac ategu egwyddorion, gwerthoedd a diwylliant y Cyngor
- rhoi gwybod i weithwyr newydd am strwythur, polisïau ac arferion y Cyngor
- sicrhau fod pob gweithiwr newydd yn cael y wybodaeth angenrheidiol er mwyn gweithredu o fewn y ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r cyngor
Gwefan i Weithwyr Newydd
Y Rhaglen Ymsefydlu
Cyfrifoldeb y rheolwr llinell yw sicrhau bod pob cyflogai wedi cwblhau'r Pecyn E-Ddysgu Sefydlu, sy'n cynnwys y rhestr wirio ymsefydlu corfforaethol:
a'r modiwlau E-ddysgu canlynol:
Modiwlau E-ddysgu gorfodol:
- Aflonyddu rhywiol
- Chwythu’r chwiban
- Côd ymddygiad
- Cydraddoldeb
- Diogelu data
- Trais yn erbyn menywod
- Ymsefydlu corfforaethol
- Ymwybyddiaeth o ddiogelu plant ac oedolion
- Ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg
- Ymwybyddiaeth i ofalwyr
- Ymwybyddiaeth iechyd meddwl
Sut i gael mynediad i'r wefan
Ewch i'r wefan E-Ddysgu (learning.wales.nhs.uk) (gwefan allanol)
Canllaw: E-ddysgu (PDF, 1.5MB)
Cysylltwch ag Adnoddau Dynol os hoffech gymorth gydag E-Ddysgu.
Cysylltu â ni
Gweler hefyd:
Rhaglen Gyflwyno i Reolwyr
Dogfennau cysylltiedig