Rhaglen Gyflwyno i Reolwyr

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i sicrhau fod bob rheolwr newydd yn cael yr adnoddau cywir i wneud y swydd, pa un ai eich bod yn rheolwr newydd, yn rheolwr newydd yn Sir Ddinbych neu’r ddau. Mae’r adnoddau hyn isod yn ffurfio rhan o’r Rhaglen Gyflwyno i Reolwyr newydd a fydd yn mynd a chi trwy eich chwe mis cyntaf mewn swydd a bydd yn gysylltiedig â’ch cyfnod prawf. Bydd manylion mewngofnodi/cyfrineiriau a gwybodaeth am sut i ddefnyddio’r llwyfan E-ddysgu yn cael eu cynnwys gyda’ch contract cyflogaeth.

Yn ogystal â’r Rhaglen Gyflwyno i Reolwyr, bydd angen i chi gwblhau’r Modiwlau E-ddysgu gorfodol fel rhan o’r Cyflwyniad Corfforaethol.

Cyflwyniad Corfforaethol: Modiwlau E-ddysgu Gorfodol.

Gweithgareddau gofynnol i reolwyr

Modiwlau E-ddysgu Cyflwyniad a Datblygiad i Reolwyr

E-ddysgu

I ddilyn y modiwlau e-ddysgu canlynol:

  • Cliciwch ar y ddolen i safle allanol Learning@Wales isod.
  • Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair.
  • I ddilyn y modiwlau Rheolwyr; cliciwch ar 'Awdurdodau Lleol' a dewiswch 'Sir Ddinbych', yna dewiswch 'Rheolwr'.

Learning@Wales (gwefan allanol)

Tudalen E-ddysgu


Modiwl Cyflwyniad i Reolwyr

  • Hyd: 30 munud
  • Gorfodol / Dewisol: Gorfodol

Fideos Grŵp 6 Gofyn a Gweithredu

  • Hyd: 2 awr
  • Gorfodol / Dewisol: Gorfodol

Rheoli Presenoldeb

  • Hyd: 10 munud
  • Gorfodol / Dewisol: Gorfodol

Rheoli Newid

  • Hyd: 30 munud
  • Gorfodol / Dewisol: Gorfodol

Sgiliau Hyfforddi

  • Hyd: 30 munud
  • Gorfodol / Dewisol: Gorfodol

Dirprwyaeth

  • Hyd: 10 munud
  • Gorfodol / Dewisol: Gorfodol

Rhoi a Chael Adborth

  • Hyd: 10 munud
  • Gorfodol / Dewisol: Gorfodol

Rheoli Sgyrsiau Anodd

  • Hyd: 15 munud
  • Gorfodol / Dewisol: Gorfodol

Caethwasiaeth Fodern

  • Hyd: 20 munud
  • Gorfodol / Dewisol: Gorfodol

Cyfarfodydd Un i Un

  • Hyd: 10 munud
  • Gorfodol / Dewisol: Gorfodol

Llunio rhestr fer

  • Hyd: 10 munud
  • Gorfodol / Dewisol: Gorfodol

Deallusrwydd Emosiynol

  • Hyd: 20 munud
  • Gorfodol / Dewisol: Dewisol

Sgiliau Cyfarfod

  • Hyd: 30 munud
  • Gorfodol / Dewisol: Dewisol

Goruchwylio i Gyflawni Rhagoriaeth

  • Hyd: 30 munud
  • Gorfodol / Dewisol: Dewisol

Arwain Tîm a Gwella Perfformiad

  • Hyd: 30 munud
  • Gorfodol / Dewisol: Dewisol

Rheoli Amser

  • Hyd: 30 munud
  • Gorfodol / Dewisol: Dewisol
Hyfforddiant ar-lein

Cyflwynir bob cwrs ar-lein trwy Microsoft Teams.

I gadw lle edrychwch am y cwrs yn yr adran Ddysgu ar iTrent Employee Self Service neu cysylltwch â hrdirect@denbighshire.gov.uk.

Sesiwn AD (Rheoli Presenoldeb, Cyfarfodydd Un i Un, Iechyd Meddwl, Gofyn a Gweithredu)

  • Hyd: 2 awr
  • Gorfodol / Dewisol: Gorfodol

Hyfforddiant Rheoli Pobl (iTrent) a Vision Time

  • Hyd: 2 awr
  • Gorfodol / Dewisol: Gorfodol

Recriwtio Mwy Diogel a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

  • Hyd: 1 awr
  • Gorfodol / Dewisol: Gorfodol

Dylech ddisgwyl cwblhau’r Llwybr yn ystod y chwe mis cyntaf er mwyn datblygu a chydgrynhoi’r sgiliau sylfaenol a’r agwedd a ddisgwylir gan reolwyr yn Sir Ddinbych. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn cwrdd â’ch rheolwr atebol yn rheolaidd ar gyfer eich cyfarfodydd un i un, i drafod eich dysgu ac er mwyn iddynt hefyd ddysgu gennych chi. Bydd eich rheolwr atebol yn rhoi’r gefnogaeth rydych ei hangen, yn arbennig wrth eich helpu i ddod o hyd i’r amser ar gyfer datblygiad, gan ei fod yn rhy hawdd canolbwyntio’n llwyr ar y dasg, yn arbennig yn ystod y misoedd cyntaf. Felly mae’n hanfodol fod eich rheolwr atebol yn rhoi’r gefnogaeth hon ac yn annog amser i adlewyrchu a dysgu o’ch ymdrechion cychwynnol.

Dogfennau cysylltiedig