Gweithio gyda ni: Gweithwyr Cymdeithasol a Therapyddion Galwedigaethol 


Rydym yn angerddol am arfer gwaith cymdeithasol o ansawdd uchel, sy’n seiliedig ar berthnasoedd ystyrlon gyda’n plant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu ein Gweithwyr Cymdeithasol a’n Therapyddion Galwedigaethol yn eu gyrfaoedd, yn gwasanaethu o fewn Sir Ddinbych a’u helpu i gyflawni cydbwysedd rhagorol rhwng gwaith a bywyd.

Drwy ymuno â ni, byddwch yn dod yn rhan o dîm sy’n cydnabod staff fel ei ased bwysicaf, ac sy’n ymroi i gynnig cefnogaeth gynhwysfawr, cyfleoedd datblygu, a chyfle i lewyrchu yn eich galwedigaeth. Fe gewch fuddion hael drwy’r cynllun gwobrau staff, a threfniadau gweithio hyblyg sydd wedi’u cynllunio i wneud y gorau o’ch cydbwysedd bywyd a gwaith. Byddwch yn elwa o oruchwyliaeth fyfyriol a chymorth rheolwyr, cyfleoedd hyfforddiant rhagorol a rhaglen datblygiad proffesiynol parhaus lwyddiannus.


Gwasanaethau Plant

Ein gwasanaeth wedi ymrwymo i wella cyfleoedd bywyd plant, pobl ifanc a theuluoedd mwyaf diamddiffyn Sir Ddinbych a, ble bynnag bosibl, galluogi plant, pobl ifanc a theuluoedd i fyw’n ddiogel yn eu cymunedau.

Ein nod yw sicrhau’r cydbwysedd cywir o staff, adnoddau a gwasanaethau er mwyn darparu profiadau cadarnhaol, diwallu anghenion yn effeithlon a hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd rŵan ac yn y dyfodol.

Mae gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd, asiantaethau partner a mudiadau cymunedol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd gyfannol a chydlynol sy’n diwallu anghenion plant, pobl ifanc a theuluoedd yn effeithiol.

 

Gwasanaethau Plant

Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd

Mae’r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd yn faes gwasanaeth amrywiol sydd â bwriad cyffredin o gefnogi unigolion i feithrin hyder i gynnal neu adennill eu gallu i reoli eu gofal cymdeithasol, eu hiechyd a’u hanghenion o ran cymorth tai eu hunain, gan ddefnyddio eu rhwydweithiau cymdeithasol, eu hadnoddau a’u cymunedau eu hunain pan fo'n bosibl.

Mae mwy a mwy o ffocws ar atal ac ymyrryd yn fuan. Mae ein staff yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, eu teuluoedd ac asiantaethau eraill er mwyn ceisio cyflawni hyn.

Ein gweledigaeth yw cefnogi unigolion i gynnal neu adfer eu hannibyniaeth drwy ddarparu gwasanaeth ymyrraeth gynnar ac atal sydd hefyd yn cynorthwyo unigolion a chymunedau i feithrin gwytnwch fel nad ydynt yn dibynnu ar wasanaethau gofal ffurfiol.

Cyflawnir y weledigaeth hon drwy weithio mewn partneriaeth â chymunedau lleol, iechyd, y 3ydd sector ac eraill i ddarparu gwasanaethau prif ffrwd a rhai wedi'u targedu sy'n hyrwyddo annibyniaeth a gwytnwch.

 

Ymweliad cartref darparwr gofal

Gwybodaeth am Sir Ddinbych

Mae Sir Ddinbych yn lle gwych i fyw a gweithio.

Mae Sir Ddinbych yn ymestyn o gyrchfannau arfordirol y Rhyl a Phrestatyn yn y gogledd, trwy Ddyffryn Clwyd a thros Fwlch yr Oernant iharddwch Dyffryn Dyfrdwy. Mae tref brysur Llangollen yn gartref i’r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol a gynhelir yn flynyddol ac ar gyrion camlas Llangollen a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte a ddynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd yn ddiweddar.

Nid yn unig ein bod ni’n ddigon ffodus o fod wedi ein lleoli mewn rhan brydferth o’r Deyrnas Unedig, mae gennym ni hefydgysylltiadau cludiant ardderchog. Tua’r dwyrain ar hyd yr A55, mae Lerpwl a Chaer yn daith awr yn y car, a Chaergybi a Manceinion ond 20 munud ymhellach.

Fel Cyngor Sir, rydym yn sefydliad uchelgeisiol, hyblyg sy'n rhoi gweithwyr a chymunedau yn ganolog i'n penderfyniadau. Rydym eisiau i Sir Ddinbych fod y gorau y gall fod i'n cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol.

Sir Ddinbych

Ddim yn byw yn Sir Ddinbych? Rydym yn cynnig pecyn adleoli hael i weithwyr cymdeithasol cymwys i blant sy’n adleoli i weithio i ni.

Ein Gweledigaeth, ein Gwerthoedd a’n Hegwyddorion

Ein Gweledigaeth yw creu diwylliant 'Un Cyngor', gydag arweinyddiaeth gref ac amlwg, er mwyn sicrhau lefelau uchel o wasanaeth cwsmer i'n cymunedau.

Os ydych chi'n dymuno gwneud gwahaniaeth gwirioneddol I breswylwyr Sir Ddinbych ac yn chwilio am gyflogwr gwerth chweil sy'n eich gwerthfawrogi, yna dyma'r lle i chi.

Darllenwch fwy am ein Gweledigaeth, ein Gwerthoedd a’n Hegwyddorion

 

Ein Gweledigaeth, ein Gwerthoedd a’n Hegwyddorion

Beth rydym ni’n ei gynnig

Gwyliau Blynyddol

Mae gennym hawl gwyliau blynyddol hael sy'n dechrau ar 26 diwrnod (yn ogystal â gwyliau banc) yn codi gyda hyd y gwasanaeth i gyfanswm o 32 diwrnod, felly po hiraf y byddwch yn gweithio i ni, y mwyaf o wyliau blynyddol a ddyrennir i chi. Rydym hefyd yn cynnig cyfle i weithwyr brynu hyd at 40 diwrnod gwaith o wyliau blynyddol ychwanegol y flwyddyn.

Trefniadau Gweithio Hyblyg

Mae ein trefniadau gweithio yn cynnwys gweithio gartref, gweithio mewn swyddfa/safle a rhwydwaith o leoedd ar gyfer cydweithio mewn tîm.

Mae gennym ni hefyd gynllun oriau hyblyg yn ogystal â’r cyfle i rannu swyddi a gweithio’n rhan-amser. Yn ogystal, mae amrywiaeth o bolisïau eraill i gefnogi hyblygrwydd wrth weithio.

Beth rydym ni’n ei gynnig

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)

Bydd ein gweithwyr yn ymuno'n awtomatig â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LPGS), oni bai eu bod yn penderfynu optio allan. Mae gan bob aelod sydd â mwy na 2 flynedd o aelodaeth hawl i fudd-daliadau pensiwn.

Rhaglen Cymorth i Weithwyr (EAP)

Mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol a reolir yn annibynnol ar gyfer gweithwyr a'u teuluoedd sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae'r rhaglen yn darparu cyngor a chwnsela arbenigol mewn meysydd fel cyllid, problemau teuluol a phersonol, materion gwaith, problemau sy'n gysylltiedig ag iechyd, gofal plant a hawliau defnyddwyr.

Arbedion Ffordd o Fyw trwy DCC Rewards Direct

Mae rhaglen unigryw DCC Rewards Direct yn rhoi mynediad i’n gweithwyr i ystod wych o Arbedion Ffordd o Fyw sydd ar gael ar-lein neu ar y stryd fawr, ledled y wlad ac yn eich ardal leol ar eich nwyddau, gwyliau, bwyta allan, DIY, nwyddau trydanol, yswiriant, moduro a mwy.

Darllenwch fwy am yr hyn rydym yn ei gynnig.


Os ydych chi’n awyddus i weithio i gyflogwr sy’n gwneud i chi deimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, ond yn anad dim, sy’n glir am bwysigrwydd cael diwylliant a sylfaen werthoedd cywir a chefnogi ein gweithlu i wneud y peth iawn, gwnewch gais heddiw.




Y prif swyddi gwag