Gwasanaethau cefnogi atal digartrefedd a chysylltiedig â thai

Mae cyngor a chymorth ar gael i ddinasyddion Sir Ddinbych sy’n ddigartref neu mewn perygl o ddigartrefedd.  Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid o dan y Grant Cymorth Tai i gefnogi prosiectau ar gyfer dinasyddion sy’n 16 oed a drosodd.

Yn Sir Ddinbych mae gennym ystod o brosiectau, gan gynnwys tai â chymorth safle sefydlog a chymorth fel y bo'r angen (lle mae gweithiwr cymorth wedi'i leoli yn y gymuned), sy'n cefnogi dros 1,000 o bobl ar unrhyw un adeg.

Mae prosiectau cefnogi sy’n ymwneud â thai yn Sir Ddinbych wedi eu halinio gyda dyletswyddau digartrefedd statudol.  Mae Tîm Atal Digartrefedd Sir Ddinbych yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth ynglŷn â deddfwriaeth digartrefedd.

Mae digartrefedd yn golygu bod heb le diogel i fyw ynddo. Mae hyn yn cynnwys pethau fel ‘syrffio soffas’, byw mewn llety anaddas, defnyddio gwelyau brys a chysgu allan. Gall olygu wynebu nifer o brofiadau anodd a thrawmatig. Gall digartrefedd neu risg o ddigartrefedd ddigwydd, a pharhau, am lawer o wahanol resymau, gan gynnwys troi allan (nid o reidrwydd oherwydd unrhyw fai ar y tenant), perthynas/teulu yn chwalu, methu ag ymdopi oherwydd dioddef trawma neu anghenion cymorth eraill, a phobl heb fod â digon o arian i gadw eu cartref, efallai oherwydd colli swydd neu newidiadau i fudd-daliadau.

Mae ein gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai ar gyfer pobl 16+ sy'n byw yn Sir Ddinbych ac sy'n ddigartref neu mewn perygl o golli eu cartref. Ein nod yw atal digartrefedd lle bynnag y bo modd, gan weithio gyda'r gymuned a'n partneriaid i nodi a mynd i'r afael â'i achosion, a grymuso pobl i fyw mor annibynnol â phosibl.

Gallwch wneud atgyfeiriad ar gyfer y gwasanaethau hyn trwy lenwi'r ffurflen atgyfeirio, a'i hanfon at spoa@denbighshire.gov.uk.

Sut i gael help

I gael help a chyngor, ac i drafod eich opsiynau, gallwch:

Helpwch eich hun gyda'n canllaw atal digartrefedd.

Tu Allan i Oriau Swyddfa

Os byddwch yn dod yn ddigartref y tu allan i oriau gwaith, ac nad oes gennych unrhyw le diogel i gysgu gallwch ffonio ein gwasanaeth y tu allan i oriau ar 0300 123 30 68.

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn siarad gyda chi am eich sefyllfa ac yn asesu eich anghenion fel y gallwn ddod o hyd i’r ffordd mwyaf addas i’ch cefnogi chi. 

Os byddwch yn dymuno atgyfeirio i brosiect cefnogi, a fyddech cystal â llenwi a dychwelyd y ffurflen atgyfeirio hon.

Gallwch ddod o hyd i fanylion y sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw yn y cyfeiriadur gwasanaethau cefnogi sy’n ymwneud â thai.

Cyfeirlyfr gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai 2020 i 2021 (PDF, 407KB)

Gallwch wybod mwy am ein Cefnogaeth sy’n ymwneud â Thai drwy ddarllen ein Cynllun Comisiynu Lleol ar gyfer 2019-22.

Cefnogi Pobl / Atal Digartrefedd cynllun comisiynu 2019 i 2022 (PDF, 1001KB)

Dogfennau cysylltiedig

Dull Llwybr Atal Digartrefedd (PDF, 468KB)