Digartrefedd: oes gen i gysylltiad lleol?

Wrth benderfynu a oes gennych gysylltiad lleol â'r ardal, byddwn yn edrych a ydych chi (neu unrhyw un yn eich cartref):

Yn byw yn yr ardal

  • Bydd y Cyngor fel arfer yn ystyried bod gennych gysylltiad lleol os ydych wedi byw yn yr ardal am gyfanswm o 6 mis allan o'r 12 mis diwethaf, neu 3 blynedd allan o'r 5 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, nid oes unrhyw gyfnod penodol a hyd yn oed os nad ydych wedi byw yn yr ardal am y cyfnodau hynny, efallai y bydd y cyngor yn dal i ystyried bod gennych gysylltiad lleol os ydych yn amlwg wedi setlo yn yr ardal.
  • Mae'n rhaid eich bod wedi byw yn yr ardal trwy ddewis er mwyn cael cysylltiad lleol.
  • Fe'ch postiwyd mewn llety'r lluoedd arfog (gwefan allanol) yn yr ardal
  • Rydych chi'n gadael gofal (gwefan allanol) ac fe'ch gosodwyd mewn llety yn yr ardal. Dylai fod gennych chi gysylltiad lleol hefyd â'r ardal yr oeddech chi'n byw ynddi yn wreiddiol pe byddech chi eisiau dychwelyd yno, waeth pa mor hir rydych chi wedi bod i ffwrdd
  • Rydych chi'n gyn-geisiwr lloches (gwefan allanol) ac fe'ch gosodwyd mewn llety yn yr ardal o dan gymorth lloches (gwefan allanol) a ddarperir gan Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI), (nid canolfannau llety).

Bod â chysylltiadau teuluol yn yr ardal

Bydd y Cyngor fel arfer yn ystyried bod gennych gysylltiad lleol â'r ardal os oes gennych deulu agos sydd wedi byw yn yr ardal am o leiaf bum mlynedd. Mae teulu agos yn cynnwys rhieni, plant, brodyr neu chwiorydd. Gall hefyd gynnwys aelodau eraill o'r teulu os oes gennych berthynas agos iawn (er enghraifft os cawsoch eich magu gan fodryb, ewythr neu nain neu daid).

Gweithio yn yr ardal

Os ydych chi'n gweithio yn yr ardal dylid ystyried bod gennych chi gysylltiad lleol â'r ardal. Fodd bynnag, os yw eich cyflogaeth o natur achlysurol, efallai na fydd yn ddigon i sefydlu cysylltiad lleol. Nid oes rhaid i gyflogaeth fod yn llawn amser a gall pobl hunangyflogedig fod â chysylltiad lleol os ydyn nhw'n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol yn bennaf.

Bod â chysylltiad â'r ardal oherwydd amgylchiadau arbennig

Efallai y gallwch ddangos bod gennych gysylltiad lleol oherwydd bod gennych amgylchiadau arbennig. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi fyw yn yr ardal i dderbyn gofal iechyd arbenigol, neu am resymau crefyddol, neu efallai bod rhesymau cryf pam bod angen i chi ddychwelyd i'r ardal lle cawsoch eich magu.

Dim ond i un categori y mae angen i chi ffitio i mewn er mwyn cael cysylltiad lleol.

Os na allwn sefydlu bod gennych gysylltiad lleol â'r ardal hon, ond y gallwn wneud cysylltiad ag ardal awdurdod lleol arall, yna byddwn yn eich cyfeirio at yr awdurdod lleol hwnnw. Nid oes rhaid i chi gael cysylltiad lleol i ni eich cynorthwyo rhag dod yn ddigartref. Os ydych chi'n gymwys, yn ddigartref ac mewn angen blaenoriaeth, byddwn yn ystyried eich cysylltiad lleol os yw'r holl ymdrechion i atal a lleddfu digartrefedd wedi'u trio neu wedi methu.

Sut i gael help

I gael help a chyngor, ac i drafod eich opsiynau, gallwch:

Helpwch eich hun gyda'n canllaw atal digartrefedd.

Tu Allan i Oriau Swyddfa

Os byddwch yn dod yn ddigartref y tu allan i oriau gwaith, ac nad oes gennych unrhyw le diogel i gysgu gallwch ffonio ein gwasanaeth y tu allan i oriau ar 0300 123 30 68.