Hysbysiadau cwblhau treth y cyngor

Mae hysbysiad cwblhau’n cyflwyno dyddiad ar gyfer eiddo newydd/wedi’u haddasu.   Dyma’r dyddiad y bydd treth y cyngor yn daladwy ar yr eiddo a’r dyddiad y bydd yr eiddo’n cael ei gynnwys ar y rhestr brisio.

Rydym yn cyflwyno hysbysiadau cwblhau i berchennog (unigolyn sydd â hawl i feddiant) eiddo newydd, neu eiddo sydd wedi cael ei addasu’n strwythurol a sylweddol os:

  • yw eiddo domestig wedi’i gwblhau’n strwythurol
  • gellir disgwyl yn rhesymol i weddill y gwaith gael ei gwblhau o fewn tri mis

Os nad yw gwaith ar eiddo wedi’i gwblhau, gellir cyflwyno hysbysiad cwblhau yn nodi’r diwrnod cwblhau terfynol hyd at dri mis o ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad, os disgwylir i weddill y gwaith ar yr eiddo gael ei gwblhau yn yr amser hwnnw.

Mae’r meini prawf ar gyfer eiddo wedi’i gwblhau at ddibenion treth y cyngor yn wahanol i eiddo wedi’i gwblhau at ddibenion rheoli adeiladu.  Nid oes rhaid cyflwyno tystysgrifau rheoli adeiladu er mwyn cyflwyno hysbysiad cwblhau treth y cyngor.

Sut caiff dyddiad hysbysiad cwblhau ei benderfynu?

Byddwn yn ystyried bod eiddo wedi’i gwblhau’n sylweddol os yw’r;

  • strwythur sylfaenol wedi’i gwblhau, er enghraifft, y waliau allanol a’r to wedi’u gosod
  • waliau mewnol wedi’u hadeiladu (er na fyddai disgwyl o reidrwydd iddynt fod wedi’u plastro)
  • lloriau wedi’u gosod (er na fyddai disgwyl o reidrwydd i’r scrîd neu’r haen uchaf o goncrid fod wedi’u gosod).

Nid oes rhaid i’r gwaith canlynol fod wedi’i gwblhau i gyflwyno hysbysiad cwblhau;

  • gwaith addurno mewnol yr eiddo, gan gynnwys gosod drysau mewnol
  • gwaith terfynol mewn perthynas â gosod unedau cegin ac ystafelloedd ymolchi
  • gwaith terfynol mewn perthynas â gosodiadau trydanol, pwyntiau a switsys 
  • cysylltiadau terfynol â chyflenwad dŵr, nwy a thrydan (fodd bynnag, rhaid i’r gwasanaethau hyn fod wedi’u gosod ar y safle).

Cyfraith Achosion

Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth treth y cyngor sy’n rhoi diffiniad o ‘wedi’i gwblhau’ ar gyfer eiddo newydd. Byddwn yn cyfeirio at gyfraith achosion i wneud penderfyniadau o bryd i’w gilydd.

Hyde v Suffolk Coastal CCRO

Yn achos Hyde v Suffolk Coastal CCRO, derbyniodd y tribiwnlys ddadl y swyddog cofrestru er nad oedd ystafell ymolchi yn yr eiddo, dylai fod yn destun unrhyw ffi gymunedol safonol ac aros yn y dosbarth o eiddo wedi’i ddodrefnu.

Horsford v Calderdale CCRO

Nid oedd gan yr eiddo yn Horsford v Calderdale CCRO ystafell ymolchi na thoiled y tu mewn, a roedd angen cylched trydan newydd. Roedd cyflenwad dŵr peipen plwm a dim gwres canolog, a roedd y plastr yn rhydd ar waliau a nenfwd y llawr cyntaf. Roedd y tribiwnlys yn fodlon nad oedd yr atgyweiriadau o natur strwythurol a bod yr eiddo yn destun y ffi safonol.

Aldred v Rochford CCRO ac Everitt v Rochford CCRO

Roedd yr apelwyr yn achos Aldred v Rochford CCRO a Everitt v Rochford CCRO yn dal i ddweud nad oedd yr eiddo hwn mewn cyflwr i alluogi gosod ffi safonol. Yn yr achos cyntaf, nid oedd nwy, trydan a dŵr yn yr eiddo, a roedd yr apelydd yn dal i ddweud nad oedd yn cael budd gan unrhyw wasanaethau gan y cyngor. Hefyd roedd dal yn dweud y dylai gael cyfnod o dri mis am ddim o 1 Ebrill ymlaen. Cyfeiriodd y swyddog cofrestru at S62(6) Rheoliadau Gorfodi Tâl Cymunedol 1989, a dweud nad oedd neb wedi meddiannu’r eiddo ers mis Mehefin 1988, a bod lluosydd ffi safonol o 2 yn gywir.

Yn achos Everitt, dywedodd yr apelydd nad oedd modd i neb anheddu yn yr eiddo gan fod y system ddraenio carthbwll i’r eiddo wedi cael ei ddifrodi’n ddrwg gan y stormydd ym mis Hydref 1987.

Cyflwynwyd tystiolaeth gan yr adran gwasanaethau amgylcheddol y Cyngor, yn datgan nad oedd y gwaith i’r carthbwll yn gwneud hi'n anaddas i anheddu yn yr eiddo. Yn y ddau achos, roedd y tribiwnlys yn fodlon y dylid gwrthod yr apeliadau.

Apelio yn erbyn hysbysiad cwblhau

Os ydych yn anghytuno gyda hysbysiad cwblhau, gallwch gysylltu â ni yn gyntaf i roi gwybod i ni pam eich bod yn anghytuno, er mwyn i ni fedru penderfynu a ddylid gwneud unrhyw newidiadau.  Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth a byddwn yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau fod gennych ddigon o amser i wneud apêl.  Byddwn yn cyflwyno hysbysiad cwblhau diwygiedig lle bo angen. 

Dylid gwneud apeliadau i Dribiwnlys Prisio Cymru ac mae’n rhaid iddynt gael eu gwneud o fewn 28 diwrnod o ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad cwblhau. 

Ymwelwch â gwefan Tribiwnlys Prisio Cymru (gwefan allanol)

Aros am ganlyniad apêl

Os ydych chi’n aros am ganlyniad apêl yn erbyn hysbysiad cwblhau, dan reoliadau treth y cyngor;

  • Dylid gwneud taliadau arferol, fel y nodir yn y bil
  • Mae’n bosibl y bydd nodyn atgoffa neu wŷs yn cael eu cyflwyno a mesurau adfer treth y cyngor yn cael eu cymryd ar gyfer unrhyw symiau dyledus

Unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud mewn perthynas â chanlyniad apêl, bydd unrhyw newidiadau’n cael eu hystyried bryd hynny. 

Eiddo heb ei feddiannu

Gall eiddo gwag dderbyn gostyngiad o 100% neu 50% o gost ychwanegol yn ddibynnol ar b’un a yw’r eiddo wedi’i ddodrefnu neu ddim.

Eiddo heb ei feddiannu a heb ei ddodrefnu

Gall eiddo newydd, p’un a yw’n adeilad newydd neu wedi’i haddasu, heb ei feddiannu a heb ei ddodrefnu dderbyn gostyngiad o 100% am y chwe mis cyntaf. 

Gweler tudalen gostyngiadau ac eithriadau treth y cyngor am ragor o wybodaeth.

Eiddo heb ei feddiannu ac wedi’i ddodrefnu

Bydd yn rhaid i chi dalu treth y cyngor o’r dyddiad y caiff eiddo heb ei feddiannu ei ddodrefnu’n sylweddol.  Codir Premiwm Treth y Cyngor o 50% ar gyfer eiddo heb ei feddiannu sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol.

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am Bremiwm Treth y Cyngor.

Eiddo a gaiff ei feddiannu

Nid oes rhaid i eiddo newydd ac wedi’i addasu gael hysbysiad cwblhau unwaith y bydd rhywun yn dechrau byw yno.  Bydd y meddiannydd yn atebol at ddibenion treth y cyngor o’r dyddiad symud i mewn ac mae’n bosibl y byddant yn gymwys am ostyngiad neu eithriad.

Rhowch wybod i ni os yw rhywun wedi symud i eiddo.

Mwy o wybodaeth

Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth am ein hysbysiadau cwblhau.