Dim ond os yw eich plentyn ar hyn o bryd yn mynd i ysgol fabanod (naill ai Babanod Llanelwy neu Ysgol y Parc), a’ch bod yn dymuno gwneud cais am ysgol iau (naill ai Ysgol Esgob Morgan neu Ysgol Frongoch) y mae angen i chi gwblhau’r cais hwn.
Lleoedd mewn ysgol iau (blwyddyn 3) 2026
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol iau (blwyddyn 3) ar gyfer plant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2018 a 31 Awst 2019 oedd 17 Tachwedd 2025.
Os ydych wedi gwneud cais yn barod, byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniad eich cais erbyn 16 Ebrill 2026.
Sut i wneud cais am le mewn ysgol
Bydd arnoch chi angen cyfrif Hunan-wasanaeth Addysg i wneud cais am le mewn ysgol. Gallwch greu eich cyfrif Hunanwasanaeth Addysg cyn i gyfnod ymgeisio ddechrau.
Creu neu fewngofnodi i’ch cyfrif Hunanwasanaeth Addysg
Mwy am Hunan-wasanaeth Addysg
Gwneud cais ar ôl y dyddiad cau
Os ydych yn ymgeisio ar ôl y dyddiad cau, bydd eich cais yn cael ei brosesu ar ôl trin â'r holl geisiadau a ddaeth i law ar amser. Mae hyn yn golygu y gall eich ysgol ddewisol fod yn llawn erbyn yr amser y byddwn yn prosesu'ch cais, ac am y rheswm hwn, rydym yn argymell eich bod yn nodi mwy nag un dewis wrth ymgeisio.
Bydd ceisiadau hwyr a ddaw i law yn cael eu hystyried gyda’i gilydd, waeth beth oedd y dyddiad y daethant i law, yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio yng nghanllaw Ysgolion Sir Ddinbych.
Os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i gais oedd ar amser ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn ystyried hwn fel cais newydd a fydd yn cymryd lle unrhyw beth a gafwyd yn flaenorol a bydd yn cael ei gofnodi fel cais hwyr.
Newid cais ar ôl ei gyflwyno
Ar ôl cyflwyno cais am le mewn ysgol, os hoffech chi newid unrhyw beth, bydd cyfnod byr lle bydd modd i chi ddad-gyflwyno eich cais drwy eich cyfrif Hunan-wasanaeth Aelodau a chyflwyno un newydd. Os nad ydych yn gweld opsiwn i ddad-gyflwyno cais, bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gais i roi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol.
Bydd ceisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau’n cael eu hystyried fel ceisiadau prydlon. Gallwch wneud unrhyw newidiadau o fewn y cyfnod hwn ac ni fydd hyn yn cael effaith ar statws prydlon eich cais.
Fodd bynnag, os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i gais a gyflwynwyd yn brydlon ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn ystyried hwn fel cais newydd a fydd yn cymryd lle unrhyw beth a gafwyd yn flaenorol a bydd yn cael ei gofnodi fel cais hwyr.
Rhoi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol (ffurflen gais)
Addysg cyfrwng Cymraeg
Nid oes gwell amser erioed wedi bod i ddysgu Cymraeg. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor i weld y Gymraeg yn ffynnu gyda miliwn o bobl yn gallu ei siarad erbyn 2050.
Mae dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn cynnig mantais yn addysgol, diwylliannol ac mewn cyflogaeth.
Darganfyddwch mwy am addysg cyfrwng Cymraeg
Canllawiau gwybodaeth ysgolion