Bydd arnoch chi angen cyfrif Hunan-wasanaeth Addysg i wneud cais am le mewn ysgol yn Sir Ddinbych.
Sut i greu neu fewngofnodi i gyfrif
Gallwch greu cyfrif Hunanwasanaeth Addysg cyn i’r cyfnod ymgeisio ddechrau.
Creu neu fewngofnodi i’ch cyfrif Hunanwasanaeth Addysg
Dilysu’r cyfrif
Wrth gofrestru ar gyfer cyfrif Hunanwasanaeth Addysg, caiff e-bost ei anfon atoch er mwyn dilysu eich cyfrif. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost hwn. Ni fyddwch wedi cwblhau’r broses gofrestru nes i chi ddilysu'ch cyfrif.
Efallai y bydd angen i chi chwilio am yr e-bost dilysu yn ffolder sbam neu sothach eich system e-bost
Cyfrineiriau
Wrth greu cyfrinair ar gyfer eich cyfrif, dim ond y nodau canlynol y gallwch eu defnyddio:
- rhifau
- priflythrennau / llythrennau bach
- y nodau arbennig canlynol @ ; : # ~ * & ^ % $ ! ) (
Os ydych chi'n defnyddio generadur cyfrinair, gwiriwch eich fod yn defnyddio'r cymeriadau a ganiateir yn unig.
Wedi colli neu anghofio cyfrinair
Os byddwch yn colli neu’n anghofio eich cyfrinair, cliciwch y ddolen ‘rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair’ ar y dudalen fewngofnodi.
Gallwch roi gwybod am broblem am yr Hunanwasanaeth Addysg ar-lein.
Rhoi gwybod am broblem gyda’r Hunanwasanaeth Addysg
Pryd i greu cyfrif ac ymgeisio
Gallwch greu cyfrif ar unrhyw bryd, ond bydd ceisiadau ond ar gael ar adegau penodol o’r flwyddyn.
Lleoedd Meithrin
O 22 Medi 2025 bydd modd gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin yn 2026 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023.
Ewch i'n tudalen lleoedd mewn dosbarth meithrin am gwybod sut i wneud cais am le mewn dosbarth meithrin.
Lleoedd derbyn
O 22 Medi 2025 bydd modd gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn yn 2026 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022.
Ewch i'n tudalen lleoedd mewn dosbarth derbyn am gwybod sut i wneud cais am le mewn dosbarth derbyn.
Lleoedd Iau (blwyddyn 3)
O 22 Medi 2025 bydd modd gwneud cais am le mewn ysgol iau (blwyddyn 3) yn 2026 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2018 a 31 Awst 2019.
Ewch i'n tudalen lleoedd iau am gwybod sut i wneud cais am le mewn ysgol iau.
Lleoedd ysgol uwchradd
Gallwch wneud cais am le blwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd yn 2026 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2014 a 31 Awst 2015 rŵan.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd yw 3 Tachwedd 2025, a byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniad eich cais erbyn 2 Mawrth 2026.
Ewch i'n tudalen lleoedd ysgol uwchradd am gwybod sut i wneud cais am le mewn ysgol uwchradd.
Newid cais ar ôl ei gyflwyno
Ar ôl cyflwyno cais am le mewn ysgol, os hoffech chi newid unrhyw beth, bydd cyfnod byr lle bydd modd i chi ddad-gyflwyno eich cais drwy eich cyfrif Hunan-wasanaeth Aelodau a chyflwyno un newydd. Os nad ydych yn gweld opsiwn i ddad-gyflwyno cais, bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gais i roi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol.
Bydd ceisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau’n cael eu hystyried fel ceisiadau prydlon. Gallwch wneud unrhyw newidiadau o fewn y cyfnod hwn ac ni fydd hyn yn cael effaith ar statws prydlon eich cais.
Fodd bynnag, os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i gais a gyflwynwyd yn brydlon ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn ystyried hwn fel cais newydd a fydd yn cymryd lle unrhyw beth a gafwyd yn flaenorol a bydd yn cael ei gofnodi fel cais hwyr.
Rhoi gwybod i ni am newid i gais am le mewn ysgol (ffurflen gais)