Cyfathrebu hygyrch a chymorth gwybodaeth
Mae'r wybodaeth rydym yn ei gynhyrchu ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac mewn ystod o fformatau hygyrch ar gais, gan gynnwys:
- Sain - fersiynau ar y we ac ar CD
- Dogfennau Braille
- DVD Iaith Arwyddo Prydain
- Gwybodaeth Electronig
- Dogfennau hawdd eu darllen a darluniadol
- Dogfennau Print Bras (Arial 18+)
- Ieithoedd ar wahân i'r Gymraeg a'r Saesneg
Cysylltu â ni os hoffech gael ein gwybodaeth mewn un o'r fformatau uchod.
I gwsmeriaid sy'n dymuno cyfathrebu â ni mewn ieithoedd eraill, gallwn drefnu dehonglydd.
Gallwn hefyd drefnu ystod o gymorth cyfathrebu wyneb yn wyneb, fel dehonglwyr Iaith Arwyddo Prydain.