Cynllun ac amcanion cydraddoldeb

Cynllun Cydraddoldeb

Mae ein Cynllun Corfforaethol (2022 i 2027) hefyd yn Gynllun Llesiant a Chynllun Strategol Cydraddoldeb. Credwn y gallwn arddel yr ymdriniaeth integredig hon oherwydd bod y Cynllun yn galluogi'r Cyngor i sicrhau cynnydd sylweddol i bawb, drwy fynd i'r afael â’r anghydraddoldebau sy'n bodoli ar hyn o bryd. Mae egwyddorion cydraddoldeb wedi’u hymgorffori yn holl swyddogaethau a gwasanaethau'r Cyngor.

Bwriad y cynllun integredig yw sicrhau triniaeth deg i bawb a dileu’r risg o driniaeth annheg neu anghyfartal, megis aflonyddu, erlid neu wahaniaethu anghyfreithlon yn ein gwaith a darpariaeth ein gwasanaethau. Mae swyddogaethau’r Cyngor yn cynnwys ein prosesau mewnol a thriniaeth gweithwyr, yn ogystal â’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig i’r cyhoedd, a’r modd y byddwn yn trin y cyhoedd. Rydym yn anelu at feithrin cysylltiadau da a chyfleoedd cyfartal, a chyfrannu tuag at ddeilliannau cadarnhaol ar gyfer holl bobl Sir Ddinbych.

Yn ystod oes y cynllun hwn a thu hwnt, byddwn yn sicrhau fod pob prosiect newydd a meysydd gwaith yn:

  • ymgysylltu, lle bo hynny’n briodol, gyda grwpiau sy’n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig
  • ystyried cyfyngiadau o ran mynediad corfforol, yn benodol gydag adeiladau newydd, ond hefyd mewn perthynas â mynediad at wybodaeth a gwasanaethau
  • ystyried pa mor briodol yw’r cyfleusterau sydd ar gael gennym yn stad y Cyngor at ddefnydd y bobl hynny sydd â nodweddion gwarchodedig
  • ymgysylltu, herio a, lle bo modd, dileu rhwystrau rhag cyfleoedd (gan gynnwys gwaith) ar gyfer y rhai hynny sydd â nodweddion gwarchodedig
  • condemnio bwlio ac aflonyddu yn ymwneud â chasineb

Darllenwch ein Cynllun Corfforaethol llawn.

Amcanion Cydraddoldeb

Ym mis Ebrill 2011 cyflwynwyd dyletswydd cydraddoldeb sengl newydd y sector cyhoeddus (y PSED) ac yn yr un mis, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reoliadau yn sefydlu cyfres o ddyletswyddau penodol i gynnal dyletswydd gyffredinol Deddf Cydraddoldeb 2010.

Fel rhan o'n dyletswydd, mae'n ofynnol i ni gynhyrchu Cynllun Cydraddoldeb Strategol am gyfnod o bedair blynedd ac adrodd ar gynnydd y cynllun yn flynyddol. Nid oes angen o reidrwydd i hon fod yn ddogfen unigol, annibynnol, felly rydym wedi dewis ei hymgorffori yn ein Cynllun Corfforaethol 2022-2027 gan atgyfnerthu gwerth ein gwaith amrywiaeth a chydraddoldeb ac ategu nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae dogfen Adolygu Perfformiad Blynyddol y Cynllun Corfforaethol yn canolbwyntio ar ein holl weithgareddau ac yn diwallu ein dyletswydd statudol i gyhoeddi dogfen flynyddol i egluro sut yr ydym wedi cwrdd â'n dyletswyddau cydraddoldeb.

Yn ychwanegol at alinio ein gweithgareddau â'r Nodau Llesiant, bydd ein gweithgareddau’n cyd-fynd yn fras â’r amcanion sector cyhoeddus rhanbarthol arfaethedig a’r Heriau Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - 'Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2023: A yw Cymru’n Decach?' (gwefan allanol). Adroddiad wedi'i gyhoeddi fis Tachwedd 2023.

Bydd ein hymchwil yn alinio gyda'r Asesiad Lles ar gyfer Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych, a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Sut y gwnaethom ddatblygu amcanion ein Cynllun Corfforaethol drwy ymgysylltiad

Cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y Cyngor (PDF, 572KB)