Asesiad o effaith ar lles

Rydym wedi sefydlu dull newydd ac arloesol o asesu effaith. Rydym am fod yn siŵr ein bod yn ystyried effaith y cynigion ar ystod o faterion. Mae ein dull newydd, yr 'Asesiad o Effaith ar Lles', wedi ei gynllunio i asesu effaith debygol y cynigion ar les cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Sir Ddinbych, Cymru a'r byd. Mae'n integreiddio’r gofynion i asesu effaith ar gydraddoldeb, yr iaith Gymraeg, yr amgylchedd, yr economi, iechyd, ac yn y blaen.

Mae'r Asesiad o Effaith ar Les yn amlygu unrhyw feysydd risg ac yn gwneud y gorau o fanteision y cynigion ar draws yr holl faterion hyn, gan gynnwys cydraddoldeb. Mae'n ein helpu i sicrhau ein bod wedi ystyried pawb a allai gael eu heffeithio gan y cynnig. Mae hefyd yn ein helpu i ddiwallu ein cyfrifoldebau cyfreithiol dan y dyletswyddau cydraddoldeb cyffredinol (Deddf Cydraddoldeb 2010, yn cynnwys y Ddyletswydd Economaidd Gymdeithasol, o fewn y Ddeddf hon), y Safonau Iaith Gymraeg, Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a deddfwriaeth hawl i wybodaeth. Mae hefyd yn ofynnol o dan ddeddfwriaeth Hawliau Dynol i Awdurdodau Lleol ystyried Hawliau Dynol wrth ddatblygu cynigion.

Bydd ein dull o asesu effaith yn ein helpu i gryfhau ein gwaith i hyrwyddo cydraddoldeb. Bydd hefyd yn helpu i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau negyddol neu anghymesur posibl cyn cyflwyno rhywbeth newydd neu newid y ffordd yr ydym yn gweithio.