Mae gennym ddyletswydd o dan y Human Rights Act 1998 (gwefan allanol) i weithredu'n gydnaws â’r hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar gyfer Diogelu Hawliau Sylfaenol a Rhyddid. Yn y llysoedd, caiff Deddf Cydraddoldeb 2010 (a phob deddfwriaeth sylfaenol arall yn y DU) ei ddehongli mewn ffyrdd sy'n gydnaws â'r Ddeddf Hawliau Dynol.
Mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn deillio o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a ddaeth i rym ym mis Tachwedd 1998. Roedd yn galluogi unrhyw berson sy'n ystyried eu bod wedi dioddef o gam yn erbyn hawliau dynol i herio awdurdod cyhoeddus yn y llysoedd neu'r tribiwnlysoedd.
Pwrpas y Ddeddf Hawliau Dynol yw cefnogi diwylliant o barch at hawliau dynol pawb ac i fod yn nodwedd o fywyd bob dydd. Mae hawliau'r confensiwn yn cynnwys:
- Diddymu'r gosb eithaf
- Rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu
- Rhyddid mynegiant
- Rhyddid meddwl
- Gwahardd gwahaniaethu
- Gwahardd caethwasiaeth a llafur gorfodol
- Gwahardd arteithio
- Diogelu eiddo
- Cyfyngu ar weithgarwch gwleidyddol estroniaid
- Yr hawl i gael treial teg
- Yr hawl i gael meddyginiaeth effeithiol
- Yr hawl i gael addysg
- Yr hawl i gymryd rhan yn rhydd mewn etholiadau
- Yr hawl i gael rhyddid a diogelwch
- Yr hawl i fyw
- Yr hawl i briodi
- Yr hawl i barch am fywyd preifat a theuluol