Deddfwriaeth Cydraddoldeb 2010
Mae Deddfwriaeth Cydraddoldeb 2010 wedi uno 116 o ddeddfwriaethau blaenorol i un Deddf sengl. Mae’n symleiddio a chryfhau’r ddeddf ar gydraddoldeb, ac yn ei gwneud yn haws i bobl ei ddeall a gweithredu’n unol â’r ddeddf.
Mae pawb yn cael ei gynnwys yn y Ddeddf. Y naw nodwedd warchodedig yn:
- oedran
- anabledd
- ail-alinio rhyw
- priodas neu bartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw
- tueddfryd rhywiol
Mae'r Ddeddf yn cynnwys cyflogaeth a darparu nwyddau a gwasanaethau, ac yn cynnwys staff ac aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio ein gwasanaethau.
Nid yw'r iaith Gymraeg yn cael ei chynnwys yn Neddf Cydraddoldeb gan ei bod yn cael ei chynnwys yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1991.
Mwy o wybodaeth am yr hyn yr ydym yn ei wneud i ddiogelu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg.
Yn ychwanegol at y nodweddion a ddiogelir uchod, y mae Dyletswydd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a fydd yn weithredol o fis Mawrth 2021 ymlaen, i ystyried pobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol / tlodi. Cyfeirir at hyn fel y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol; mae’n annog gwneud gwell penderfyniadau, yn sicrhau canlyniadau tecach i bobl, ac yn lleihau’r anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag anfanteision economaidd-gymdeithasol.
Gallai anfantais economaidd-gymdeithasol olygu:
- Cyfoeth isel / dim cyfoeth
- Cefndir economaidd-gymdeithasol (y cyfeirir ato weithiau fel ‘dosbarth')
- Incwm isel / dim incwm
- Amddifadedd materol (anallu i fforddio nwyddau a gwasanaethau, megis car, trafnidiaeth gyhoeddus, offer digidol)
Mae’r anfanteision hyn yn aml yn arwain at ganlyniadau anghyfartal, megis:
- Bod yn ddioddefwyr troseddau
- Disgwyliad oes byrrach
- Gwaith sy’n talu llai
- Llai o sgiliau a chyraeddiadau
Mae’n rhaid i’r Cyngor roi sylw dyledus er mwyn sicrhau bod y Ddyletswydd hon yn cael ei hystyried wrth wneud pob penderfyniad strategol yn yr awdurdod o 31 Mawrth 2021 ymlaen.
Rydych wedi’ch diogelu rhag gwahaniaethu:
- yn y gwaith
- mewn addysg
- fel defnyddiwr
- wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus
- wrth brynu neu rentu eiddo
- fel aelod neu westai o glwb neu gymdeithas breifat
Rydych wedi’ch diogelu’n gyfreithiol rhag gwahaniaethu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Rydych hefyd wedi’ch diogelu rhag gwahaniaethu os:
- ydych yn gysylltiedig â rhywun sydd â nodwedd warchodedig, er enghraifft aelod o'r teulu neu ffrind
- ydych wedi cwyno am wahaniaethu neu wedi cefnogi honiad rhywun arall
Darllenwch y wybodaeth gyffredinol gan Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r Ddyletswydd, gan gyfrannu at Gymru fwy cyfartal.
Cymru Fwy Cyfartal: Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol (Llywodraeth Cymru).
Beth yw ein cyfrifoldebau?
Mae Deddf Cydraddoldeb yn gosod tair prif egwyddor y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus fel Cyngor Sir Ddinbych gydymffurfio â hwynt. Yr enw am hyn yw Dyletswydd Cyffredinol. Mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus:
- ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth
- hyrwyddo cydraddoldeb cyfleon
- hybu perthnasau da rhwng pobl o wahanol nodweddion sydd wedi'u diogelu
Ynghyd â'r Ddyletswydd Cyffredinol, mae gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru ddyletswyddau penodol ychwanegol, sydd wedi’u gosod yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Y Dyletswyddau penodol yw:
- mynediad
- adroddiadau blynyddol
- asesu effaith
- gwybodaeth cyflogaeth
- ymgysylltu
- gwybodaeth cydraddoldeb
- gwahaniaethau cyflog
- caffael
- cyhoeddi
- adolygu
- gosod amcanion
- hyfforddiant staff
- cynlluniau cydraddoldeb strategol
- adroddiadau gweinidogion Cymru
Mae cyfrifoldeb arnom hefyd wrth wneud penderfyniadau a pholisïau strategol, dros roi ystyriaeth i'r Ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, sy'n annog prosesau gwneud penderfyniadau gwell, gan sicrhau canlyniadau mwy cyfartal i bobl, a lleihau anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol / tlodi.
Darllenwch y wybodaeth gyffredinol gan Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r Ddyletswydd, gan gyfrannu at Gymru fwy cyfartal.
Cymru Fwy Cyfartal: Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol (Llywodraeth Cymru).