Dementia: cludiant

Dementia a gyrru

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y DVLA os oes gennych ddementia ac yn dymuno parhau i yrru (gwefan allanol)

Nid yw diagnosis o ddementia ynddo'i hun yn rheswm dros roi'r gorau i yrru. Mae rhai ystadegau'n awgrymu bod un o bob tri o bobl â dementia yn dal i yrru. Yr hyn sy'n bwysig, yn gyfreithlon ac yn ymarferol, yw a yw'r person yn dal i allu gyrru'n ddiogel. Rhaid iddynt ddefnyddio ystod o alluoedd meddyliol gan gynnwys:

  • sylw a chanolbwyntio
  • sgiliau gweledol-ofodol
  • sgiliau datrys problemau
  • sgiliau barnu a gwneud penderfyniadau
  • sgiliau ymateb a phrosesu

Cynllun y Bathodyn Glas

Mae Cynllun y Bathodyn Glas wedi'i gynllunio i roi’r gallu i bobl ddall gofrestredig a'r rhai a allai fod â nam gwybyddol neu nad ydynt yn gallu cerdded, i barcio'n agos at y cyfleusterau a'r gwasanaethau y maent angen eu defnyddio, er mwyn gwella eu ffordd o fyw, eu hannibyniaeth a'u rhyddid i ddewis.

Dial-a-ride (Sir Ddinbych) Cyfyngedig

Mae Dial-a-ride yn wasanaeth Cludiant Cymunedol sefydledig sy'n darparu cludiant hygyrch o ddrws i ddrws i bobl o bob oed sy'n ei chael yn anodd neu'n amhosibl cael mynediad at gludiant cyhoeddus confensiynol. Mae’n Gludiant Cymunedol i drigolion parhaol sy'n byw yn ardal o Abergele ar hyd yr arfordir i Brestatyn ac i lawr i Ddinbych. Mae pob cerbyd yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae lifft neu ramp ar gael iddynt ar gyfer mynediad hawdd. Yn gyffredinol, mae Dial A Ride yn gweithredu rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ffi aelodaeth flynyddol ynghyd â ffi am bob taith. Cysylltwch dros y ffôn ar 01745 344222 neu drwy e-bost i info@dialaridedenbighshire.org or find out more on their website:

Dial-a-ride (Sir Ddinbych) Cyfyngedig (gwefan allanol)

Cludiant cyhoeddus

Gallwch ddod o hyd i bopeth yr ydych ei angen i fynd o amgylch Sir Ddinbych ar fws neu drên yn ein hadran ar gludiant cyhoeddus, gan gynnwys amserlenni bws a sut i wneud cais am docyn bws.

Gwasanaeth fflecsi 33 Rhuthun

Mae gwasanaeth fflecsi 33 Rhuthun yn wasanaeth bws diwygiedig ar gyfer Tref Rhuthun a’r pentrefi. Archebwch un awr ymlaen llaw i deithio pan y dymunwch 9:30am i 2:30pm, dydd Llun i ddydd Gwener..