Ansawdd aer

Nid yw pob llygredd aer yn amlwg er bod ansawdd aer yn y DU yn dda’n gyffredinol. Byddwn yn ceisio lleihau effeithiau niweidiol llygredd aer bob amser.

Ansawdd aer

Rydyn ni’n cyfranogi yn arolwg tiwbiau tryledu nitrogen deuocsid (NO2) y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu monitro NO2 trwy diwbiau trylediad goddefol mewn dau safle yn ardal y Rhyl. Defnyddir tiwbiau trylediad goddefol i fonitro NO2 mewn lleoliadau amrywiol ar draws Sir Ddinbych hefyd.

Nwy ydi NO2 a gynhyrchir gan adwaith Nitrogen ac Ocsigen mewn prosesau hylosgi ac yn Sir Ddinbych, prif ffynhonnell NO2 ydi’r cerbyd modur.

Gall amlygiad i lefelau uchel o NO2 arwain at amhariad ar weithrediad yr ysgyfaint a chyfyngiad ar lwybrau anadl mewn pobl sydd eisoes yn dioddef clefyd anadlol. Mwy am ansawdd aer (gwefan allanol).

Adroddiadau Cynnydd Ansawdd Aer

Rydym yn adolygu ac yn asesu ansawdd aer yn Sir Ddinbych yn rheolaidd, i benderfynu a ydym yn debygol o gwrdd â'n holl amcanion ansawdd aer, ac rydym yn cynhyrchu adroddiadau cynnydd sy'n dangos ein canfyddiadau.

Nid oes gennym unrhyw barthau rheoli mwg, felly mae'n dal yn bosibl i fod â thân glo yn Sir Ddinbych.

Mŵg Coelcerth

Does gennym ni ddim is-ddeddfau sy’n rheoli amseroedd coelcerthi domestig a ganiateir, ond mewn rhai sefyllfaoedd gellir cysylltu â ni i ddelio â choelcerthi gormodol neu goelcerthi aml sy’n effeithio ar ardaloedd preswyl. Fodd bynnag, ni fwriedir y ddeddfwriaeth i atal tân gardd bychan, traddodiadol achlysurol.

Byddwn yn cymeradwyo bod preswylwyr yn defnyddio ffyrdd eraill o waredu gwastraff gardd fel compostio neu ddefnyddio un o’n parciau ailgylchu neu wastraff.

Mŵg diwydiannol

Mae’n drosedd gollwng mwg tywyll o unrhyw safle diwydiannol neu safle masnach a’r gosb am eich cael yn euog o drosedd dan y ddeddfwriaeth yma ydi dirwy o hyd at £20,000.

Fe reolir gwarediad gwastraff hefyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac fe waherddir gwaredu gwastraff drwy goelcerthi ar safle. Byddwn yn cymeradwyo’n gryf fod pob gwastraff diwydiannol / masnach yn cael ei symud i safle gwaredu gwastraff sydd wedi ei drwyddedu’n briodol.

Rhoi gwybod am niwsans mŵg

Arogleuon

Gallwn gymryd camau mewn achosion lle bydd arogl/mygdarth o safleoedd masnachol/diwydiannol yn ymyrryd â defnydd a mwynhad eiddo person. Mwy am niwsans arogl (gwefan allanol).

Rhoi gwybod am niwsans arogl