Rwyf am adael cartref neu mae fy nheulu / perthnasau wedi gofyn imi adael

Nid yw'r wybodaeth isod yn benodol i oedran a gall ymwneud ag unrhyw un o unrhyw oedran sy'n byw gartref gyda theulu neu berthnasau eraill.

Aros yng nghartref y teulu

Wrth ichi dyfu i fyny, mae'n naturiol na fyddwch bob amser yn gweld lygad yn lygad gyda'ch rhieni neu'ch gwarcheidwaid. Yn aml gall yr anghytundebau hyn ddeillio o ddiffyg dealltwriaeth o fywydau ac ymddygiad eich gilydd. Mae'n well ichi geisio datrys pethau. Esboniwch sut rydych chi'n teimlo a gwrandewch ar yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud.

Gosodwch rai rheolau sylfaenol

Weithiau, efallai y byddwch chi'n teimlo bod eich rhieni'n gwneud yr holl reolau ac mae'n rhaid i chi ddewis ufuddhau iddyn nhw neu eu torri. Wrth i chi dyfu i fyny, mae'n bwysig eich bod chi a'ch rhieni yn gosod rheolau sylfaenol gyda'ch gilydd ac yn gwneud penderfyniadau yr ydych chi i gyd yn eu hystyried yn dderbyniol.

Gall y penderfyniadau hyn fod ar faterion fel:

  • preifatrwydd a gofod personol
  • pryd a pha mor aml rydych chi'n mynd allan
  • faint rydych chi'n helpu o amgylch y tŷ

Ceisiwch drafod yn hytrach na dadlau, a byddwch yn barod i gyfaddawdu.

Os ydych chi'n cael problemau wrth gyfathrebu â'ch rhieni, gallai fod o gymorth siarad â rhywun arall. Gallai hyn fod yn frawd neu'n chwaer hŷn, eich neiniau a theidiau, modryb neu ewythr, ffrind neu athro. Efallai y byddant yn gallu bod yn gyfryngydd rhyngoch, i helpu i lyfnhau pethau gyda'ch rhieni.

A all fy rhieni / perthnasau fy nghicio allan?

Gellir datrys y rhan fwyaf o anghytundebau teuluol trwy gyfathrebu ac, mewn rhai achosion, cyfryngu. Fodd bynnag, weithiau nid yw'n bosibl aros gartref oherwydd efallai na fyddwch chi'n teimlo'n ddiogel neu mae'ch rhieni wedi dweud bod yn rhaid i chi adael. Bydd y Tîm Atal Digartrefedd yn gwneud yr hyn a allant i geisio eich cael yn ôl adref, lle mae'n ddiogel gwneud hynny, ac os oes angen, yn darparu cefnogaeth i'ch helpu chi a'ch teulu.

Gall Gwasanaeth Datrys Gwrthdaro Wallich hefyd ddarparu cefnogaeth trwy weithio'n bennaf gyda phobl mewn gwrthdaro sy'n bygwth eu tai. Mae'r Wallich yn defnyddio cyfryngu i gynorthwyo pobl i ddatrys gwrthdaro trwy chwilio am atebion sy'n dderbyniol i bawb. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â nhw ar 01745 345500.

Realiti gadael cartref

Os ydych chi'n ystyried gadael cartref oherwydd straen gyda'ch teulu, gallai fod o gymorth i stopio a meddwl am realiti gadael cartref yn gyntaf. Efallai eich bod chi'n meddwl ei fod yn golygu:

  • eich fflat eich hun
  • gwneud yr hyn rydych chi ei eisiau, pan rydych chi eisiau
  • dim rheolau
  • neb yn dweud wrthych beth i'w wneud

Mae'r realiti yn debygol o fod:

  • gall fod yn anodd dod o hyd i rywle i fyw
  • efallai y bydd yn rhaid i chi rannu llety
  • bydd gennych lawer o gyfrifoldebau newydd, megis talu rhent a choginio
  • bydd gennych incwm cyfyngedig ac efallai y bydd yn anodd i chi fforddio gwneud pethau rydych chi'n eu mwynhau

Os ydych chi'n 16 neu'n 17 oed

Os gofynnwyd i chi adael gan deulu a'ch bod yn 16 neu 17 oed, gallwch gysylltu â'r Tîm Atal Digartrefedd i gael rhywfaint o help