Casgliadau gwastraff gardd
Mynd yn syth i:
Am ffi flynyddol, gallwn ddod i gasglu eich gwastraff gardd, gan gynnwys y canlynol:
- toriadau gwair
- thociadau gardd
- canghennau a brigau
- dail
- rhisgl
- blodau
- rhisgl pren a siafins
- planhigion
Ni fyddwn yn gwagio bagiau gwastraff gwyrdd neu finiau gwyrdd sy’n cynnwys; pridd, cerrig, compost, gwastraff cartref cyffredinol, cynnyrch bwyd neu unrhyw wair/ naddion pren, pren neu bapur wedi’u halogi gan anifeiliaid.
Yn ôl i frig y dudalen.
Gallwch gofrestru, adnewyddu neu uwchraddio eich casgliadau gwastraff gardd:
Cofrestru, neu uwchraddio eich casgliadau gwastraff gardd ar-lein
Bydd y gwasanaeth tanysgrifio yn rhedeg am gyfnod o 12 mis rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth bob blwyddyn. Gallwch gofrestru ar unrhyw adeg a bydd y gost yr un fath.
Cwsmeriaid sy’n derbyn y gwasanaeth bagiau ar gyfer ailgylchu a gwastraff
Yn anffodus, nid yw’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd ar gael i gwsmeriaid sy’n derbyn y gwasanaeth bagiau, ar gyfer casglu eu hailgylchu a’u gwastraff. Os ydych chi ar y gwasanaeth bagiau, peidiwch â cheisio cofrestru ar gyfer y casgliadau gwastraff gardd. Byddwn yn adolygu hyn ac yn rhoi gwybod i chi os bydd unrhyw newidiadau.
Os ydych chi’n symud tŷ i gyfeiriad arall yn Sir Ddinbych sydd yn derbyn gwasanaeth Trolibocs, gallwch ddweud wrthym os hoffech chi drosglwyddo eich gwasanaeth gwastraff gardd i’r eiddo newydd. Ni roddir ad-daliadau os byddwch chi’n canslo eich tanysgrifiad yn fuan..
Yn ôl i frig y dudalen.
Mae cost ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn dibynnu ar nifer y cynwysyddion a ddefnyddiwch a sut yr ydych yn tanysgrifio - mae'n rhatach os ydych yn tanysgrifio ar-lein. Yr un yw’r gost pryd bynnag y byddwch chi’n dewis cofrestru.
Costau tanysgrifio newydd
Costau tanysgrifio newydd
Costau tanysgrifio newydd ar gyfer gwastraff gardd
| Cynhwysyddion |
Cost wrth danysgrifio ar-lein |
Cost ar gyfer tanysgrifio all-lein |
| Un bin olwyn gwyrdd 140 litr neu dri sach ddympi |
£47.25 |
£52.50 |
| Dau fin olwyn gwyrdd 140 litr neu chwe sach ddympi |
£68.25 |
£78.75 |
| Cadw eich bin olwyn gwyrdd 240L / 360 litr* |
£68.25 |
£77.25 |
| 3 sach ddympi |
£15.75 |
£15.75 |
*Mae'r opsiwn yma ar gael i gwsmeriaid a chanddynt eisoes fin olwyn 240/360 litr - ni fyddwn yn dosbarthu mwy o finiau olwyn 240/360 litr.
Cynwysyddion newydd
Mae yna ffioedd ar gyfer cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu newydd sydd wedi cael eu colli, eu dwyn neu eu difrodi.
Ffioedd am gynwysyddion gwastraff gardd
| Cynhwysydd | Ffi |
| Biniau gwyrdd ar olwynion (pob maint) newydd neu yn lle’r rhai presennol |
£25 |
| Tair sach dympi |
£15.75 |
| Sach dympi yn lle’r un bresennol |
£5.25 yr un |
Yn ôl i frig y dudalen.