Addysg cyfrwng Cymraeg: 11 i 18 mlwydd oed

Mae addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg ar gael o fewn pellter rhesymol i bob cartref yn Sir Ddinbych.  Gall unrhyw blentyn ddilyn llwybr esmwyth i addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgol uwchradd. 

Byddwn yn darparu cludiant ysgol am ddim i’ch plentyn deithio i’ch ysgol agosaf sy’n cynnig addysg cyfrwng Cymraeg os ydych yn byw dros ddwy filltir i ffwrdd. 

Pam dewis addysg cyfrwng Cymraeg?

Mae hi’n bwysig bod eich plentyn yn parhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg o’r ysgol gynradd i ysgol uwchradd a chymryd mantais ar y nifer o fanteision yn sgil bod yn ddysgwr dwyieithog.

Mae plant sydd sydd â dwy iaith yn dueddol o berfformio’n well mewn profion ac arholiadau.

Tystiolaeth: Yn amlieithog (gwefan allanol)

Mae’n allweddol bod pobl ifanc yn parhau i fanteisio ar gyfleoedd cyfrwng Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol gynradd er mwyn bod yr un mor hyderus yn eu Cymraeg â’r Saesneg.

Mae Cymraeg yn ddefnyddiol iawn fel sgil yn y gweithle gyda’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol neu ddymunol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi.

Cynllun Trochi Uwchradd yn Sir Ddinbych

Os nad yw dysgwyr wedi derbyn addysg gynradd Gymraeg, nid yw hi’n rhy hwyr i dderbyn addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yng ngogledd y sir mae Ysgol Glan Clwyd yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg sy’n derbyn disgyblion i flwyddyn 7, nad ydynt wedi derbyn addysg Gymraeg yn yr ysgol gynradd.

Yn ystod eu hamser yn yr ysgol uwchradd, bydd y dysgwyr yn cael eu haddysgu gan nifer o athrawon a fydd yn rhoi sylw dwys i ddatblygu medrau Cymraeg y dysgwyr, fel eu bod yn dod yn rhugl yn yr iaith mewn cyfnod byr.

Dysgwch fwy am y cynllun sy’n helpu dysgwyr nad ydynt wedi derbyn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg, i dderbyn addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg

Llanelwy

Ysgol Glan Clwyd

Ffrwd Cymraeg mewn ysgolion dwy iaith

Llangollen

Ysgol Dinas Brân

Rhuthun

Ysgol Brynhyfryd

Gwneud cais am le mewn ysgol

Ewch i’n tudalen lleoedd mewn ysgolion uwchradd i gael gwybodaeth am wneud cais am le mewn ysgol uwchradd:

Lleoedd mewn ysgolion uwchradd