Lleoedd ysgolion uwchradd

Os oes gennych chi blentyn ym mlwyddyn 6 ar hyn o bryd, gallwch wneud cais am le mewn ysgol uwchradd yn defnyddio’r ffurflen gais ar y dudalen hon.

Addysg cyfrwng Cymraeg

Nid oes gwell amser erioed wedi bod i ddysgu Cymraeg. Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth hirdymor i weld y Gymraeg yn ffynnu gyda miliwn o bobl yn gallu ei siarad erbyn 2050.

Mae dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn cynnig mantais yn addysgol, diwylliannol ac mewn cyflogaeth.

Darganfyddwch mwy am addysg cyfrwng Cymraeg

Cynllun Trochi Uwchradd yn Sir Ddinbych

Os nad yw dysgwyr wedi derbyn addysg gynradd Gymraeg, nid yw hi’n rhy hwyr i dderbyn addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yng ngogledd y sir mae Ysgol Glan Clwyd yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg sy’n derbyn disgyblion i flwyddyn 7, nad ydynt wedi derbyn addysg Gymraeg yn yr ysgol gynradd.

Yn ystod eu hamser yn yr ysgol uwchradd, bydd y dysgwyr yn cael eu haddysgu gan nifer o athrawon a fydd yn rhoi sylw dwys i ddatblygu medrau Cymraeg y dysgwyr, fel eu bod yn dod yn rhugl yn yr iaith mewn cyfnod byr.

Dysgwch fwy am y cynllun sy’n helpu dysgwyr nad ydynt wedi derbyn addysg gynradd cyfrwng Cymraeg, i dderbyn addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd ar gyfer plant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2012 a 31 Awst 2013 oedd 6 Tachwedd 2023. 

Os ydych wedi gwneud cais yn barod, byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniad eich cais erbyn 1 Mawrth 2024.

Gwneud cais ar ôl y dyddiad cau

Os ydych yn ymgeisio ar ôl y dyddiad cau, bydd eich cais yn cael ei brosesu ar ôl trin â'r holl geisiadau a ddaeth i law ar amser. Mae hyn yn golygu y gall eich ysgol ddewisol fod yn llawn erbyn yr amser y byddwn yn prosesu'ch cais, ac am y rheswm hwn, rydym yn argymell eich bod yn nodi mwy nag un dewis wrth ymgeisio.

Bydd ceisiadau hwyr a ddaw i law yn cael eu hystyried gyda’i gilydd, waeth beth oedd y dyddiad y daethant i law, yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio yng nghanllaw Ysgolion Sir Ddinbych.

Os ydych yn gwneud unrhyw newidiadau i gais oedd ar amser ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn ystyried hwn fel cais newydd a fydd yn cymryd lle unrhyw beth a gafwyd yn flaenorol a bydd yn cael ei gofnodi fel cais hwyr.

Gwneud cais am le blwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd ar ôl y dyddiad cau

Llenwch y ffurflen gais os cafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2012 a 31 Awst 2013.

Os oes arnoch chi eisiau symud eich plentyn o un ysgol i ysgol arall, llenwch y ffurflen gais ar gyfer trosglwyddiadau ysgol.

Canllawiau gwybodaeth ysgolion