Sir Ddinbych ffyniannus

Ffyniant

Yr hyn a ddymunwn

Cefnogi adferiad economaidd a manteisio ar gyfleoedd i alluogi trigolion i gael mynediad at gyflogaeth ac incwm gwerth chweil. Bydd hynny’n golygu cael mynediad at nwyddau a gwasanaethau a bydd y sir yn manteisio i’r eithaf ar ei threftadaeth ddiwylliannol doreithiog a’i hasedau naturiol er mwyn cefnogi ffyniant economaidd. Dymunwn ddefnyddio twf economaidd fel sbardun i leihau anghydraddoldeb a thlodi.

Yr hyn y bwriadwn ei wneud:

  1. Cydweithio gyda chymunedau a phartneriaid i ddarparu prosiectau a chynlluniau sy’n ysgogi twf economaidd, gan gynnwys:
    • Gweithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru ar brosiectau Bargen Dwf Gogledd Cymru
    • Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru
    • Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol
    • Marchnad y Frenhines yn y Rhyl, a fydd yn cynnwys neuadd farchnad gymysg newydd a chasgliad o fwytai artisan, siopau a lle cynnal digwyddiadau
    • Hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych, a fydd yn darparu swyddi adeiladu a chyfleoedd am brentisiaethau yn ystod y cyfnod adeiladu a chartrefi a chyfleusterau cymunedol yn y tymor hir
  2. Datblygu strategaeth economaidd a fydd yn:
    • Tyfu economi werdd Sir Ddinbych
    • Cefnogi busnesau gwledig
    • Adfywio canol trefi
    • Gwella ein darpariaeth i dwristiaid
    • Hyrwyddo diwylliant a threftadaeth gyfoethog Sir Ddinbych
    • Manteisio i’r eithaf ar ein hasedau naturiol, gan gynnwys yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a’r Parc Cenedlaethol newydd.
  3. Gweithio mewn partneriaeth i gefnogi economi sy’n hyrwyddo gwaith teg, cyfiawnder a chaffaeliad cyhoeddus sy’n gymdeithasol gyfrifol, er budd y gadwyn gyflenwi leol a chymunedau’r sir.*
  4. Hwyluso mynediad at addysg, gwaith, gwasanaethau, nwyddau a gwasanaethau drwy:
    • Gynnal rhwydwaith o ffyrdd diogel gydol y sir
    • Ailadeiladu Pont Llannerch mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
    • Hyrwyddo dewisiadau a dulliau o wella cysylltedd â’r rhyngrwyd
    • Gwella gwasanaethau cludiant yng nghymunedau Sir Ddinbych wrth weithio drwy’r corff rhanbarthol a hefyd yng nghyd-destun Strategaeth Cludiant Cymru.

*Amcan(ion) Cydraddoldeb