Cynllun Corfforaethol 2022 i 2027: Monitro'r cynnydd

Er bod y Cynllun Corfforaethol yn enw’r Cyngor Sir, y Cabinet a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth fydd yn gyfrifol am drefniadau llywodraethu’r Cynllun Corfforaethol ac ysgogi ei gyflawniad. Serch hynny, ni ellir darparu’r cynllun yn annibynnol ar bartneriaethau, strategaethau, cyrff darparu, gwasanaethau neu swyddogaethau craffu eraill. Datblygwyd y cynllun hwn, wrth reswm, er mwyn ystyried meysydd darpariaeth eraill sydd eisoes ar waith a datblygu’r rheiny ymhellach, ac mae’n bwysig eu bod i gyd yn cydweithio i sicrhau ei fod yn llwyddo.

Diagram yn dangos bod y Cynllun Corfforaethol (sy’n cynnwys ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol) yn cael ei lywodraethu a’i oruchwylio gan swyddogaethau gweithredol ac yn cysylltu â gwahanol strategaethau, partneriaethau strategol, byrddau cyflenwi, swyddogaethau craffu a gwasanaethau’r cyngor

Disgrifiad Diagram Portffolio.

Mae gan y Cyngor drefniadau cadarn ar waith ar gyfer rheoli perfformiad a bydd y rheiny’n berthnasol wrth fonitro ac adrodd ynghylch cynnydd wrth gyflawni’r Cynllun Corfforaethol. Bydd hynny’n cynnwys fframwaith perfformiad cadarn wedi’i gymeradwyo gan reolwyr a chynghorwyr, sy’n cyflwyno dangosyddion, mesuryddion perfformiad a gweithgareddau gyda thargedau clir a disgwyliadau a fydd yn cyfateb i’r uchelgais sydd gennym ar gyfer ein cymunedau.

Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau perfformiad yn unol â’r fframwaith hwn bob chwe mis a’i rannu gyda’n Huwch-dîm Arweinyddiaeth, y Cabinet a’r Pwyllgorau Craffu fel bod ganddynt fwy o wybodaeth yn sail ar gyfer penderfynu’r hyn sydd angen ei wella ac ym mha fodd y neilltuir adnoddau. Rydym hefyd yn rhannu’r adroddiadau hyn, sy’n ffurfio ein Hunanasesiad o Berfformiad (sy’n ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gyda’n Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Cyngor llawn yn flynyddol, a’u cyhoeddi ar ein tudalennau gwe perfformiad.

Awn ati bob blwyddyn i adolygu ein hamcanion a chamau gweithredu er mwyn sicrhau mai dyma’r rhai iawn ar gyfer ein cymunedau, sy’n cynnwys holi barn ein preswylwyr. Rydym hefyd yn derbyn na fydd popeth y gobeithiwn ei wneud yn bosibl wrth i amgylchiadau newid. Byddwn bob amser yn dryloyw am unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud, ac yn adrodd ynghylch unrhyw newidiadau a’r sail resymegol iddynt.