Ynglŷn â'r Cynllun Corfforaethol 

Ewch yn syth i:

Rhagair a Rhagarweiniad

Mae'r Cyngor yn gweithredu mewn hinsawdd ariannol na welwyd erioed ei debyg o’r blaen ac sy’n mynd yn anos o hyd, ac felly’n awr mae’n rhaid diwygio ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2022 i 2027. Cam ymarferol yw hyn i leddfu’r baich gweinyddol ar holl wasanaethau’r Cyngor, sydd eisoes yn gweithio i’r eithaf. Bydd yn helpu i ryddhau gweithwyr i gynorthwyo â’n rhaglen drawsnewid newydd a fydd yn ein galluogi i ymateb mewn ffyrdd dyfeisgar i’r heriau sydd o’n blaenau a gwella ein perfformiad ac effeithlonrwydd, gan sicrhau hefyd ein bod yn dal i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’n trigolion a chymunedau.

Rydym yn dal yn ymrwymo i gyflawni ein gweithgareddau mewn ffordd gynaliadwy er budd ein cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol yn hirdymor. Mae’r Cynllun hwn yn diwallu ein huchelgeisiau a’n hymrwymiadau dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Cydraddoldeb. Mae hefyd yn nodi ein prif swyddogaethau perfformiad at ddibenion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Er bod yn rhaid inni ailystyried ein dyheadau, rydym yn dal yn uchelgeisiol ac mae’r Cynllun yn seiliedig ar ein hawydd i weithio fel 'Un Cyngor', lle mae ein gwasanaethau amrywiol yn cydweithio’n fwy effeithiol wrth gyflawni eu nodau cyffredin. Byddwn yn dal i ganolbwyntio ar waith ataliol sy’n diogelu pobl rhag niwed ac yn mynd i’r afael â’r heriau y mae cymunedau yn eu hwynebu, fel yr argyfwng costau byw a’r Argyfwng Hinsawdd, sicrhau twf economaidd cynaliadwy, hyrwyddo lles a gwella ansawdd bywydau pobl. Rydym yn dal yn awyddus i weithio gyda’n trigolion, cymunedau, busnesau a phartneriaid wrth lunio’r gwasanaethau rydym yn eu darparu a sut rydym yn eu darparu mewn oes mor heriol.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech chi ddysgu mwy am ein Cynllun Corfforaethol, mae croeso i chi gysylltu â ni neu fel arall ewch i'n gwefan.


Y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd

Jason McLellan
Arweinydd

Graham H Boase, Prif Weithredwr

Graham H Boase
Prif Weithredwr

Datblygu'r Cynllun

Yn haf 2021, holwyd trigolion y sir ynglŷn â’u dyheadau hirdymor ar gyfer eu cymunedau. Gwnaethom hyn drwy ein dull ‘Sgwrs y Sir’, cyfres o weithdai a gynhaliwyd â thrigolion chwe gwahanol ardal o Sir Ddinbych (Y Rhyl, Prestatyn, Elwy, Dinbych, Rhuthun a Dyffryn Dyfrdwy) ac arolwg ar-lein (gan gynnwys copïau ar bapur ymhob llyfrgell a Siop Un Alwad). Cawsom gyfarfodydd hefyd â phob cyngor ysgol uwchradd. Defnyddiwyd yr holl ymatebion a gawsom yn sail ar gyfer Asesiad o Les Lleol (gwefan allanol) ehangach a luniwyd ar y cyd â’n partneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (gwefan allanol). Mae hyn wedi’n helpu i ddeall y sefyllfa sydd ohoni o safbwynt Lles yn ein sir ac adnabod dulliau ymyrryd angenrheidiol y gall cenedlaethau’r dyfodol elwa arnynt.

Ar ôl llunio rhestr hir o addewidion ar gyfer ein Cynllun Corfforaethol, cychwynnom yr ail gam o Sgwrs y Sir rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022, gan ofyn am sylwadau pobl ynglŷn â’r themâu a ddeilliodd o’r digwyddiadau ymgysylltu cychwynnol a’r Asesiad Lles. Holwyd barn cydweithwyr o sefydliadau eraill hefyd, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r trydydd sector. Cynhaliwyd mwy o weithdai yn y gwanwyn lle bu staff Cyngor Sir Ddinbych yn trafod themâu fesul un wrth ddechrau cynllunio’r camau gweithredu y gallem eu cyflawni.

Wedi etholiad y Cyngor ym mis Mai ac ychwaneg o sesiynau cynllunio gyda’r Cabinet a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth newydd, aethpwyd ymlaen i’r cam olaf wrth ymgysylltu â’r cyhoedd a chwrdd â grwpiau gwleidyddol ddiwedd haf 2022 er mwyn sicrhau bod ein naw o themâu ac addewidion yn gwneud synnwyr i bawb cyn i’r Cyngor eu mabwysiadu ym mis Hydref o’r flwyddyn honno.

Wrth i’r cyd-destun ariannol waethygu, fodd bynnag, a sylweddoli’r sefyllfa gyllidebol oedd ohoni yn ystod 2023, cynhaliwyd mwy o drafodaethau ag uwch-swyddogion a chynghorwyr rhwng mis Ionawr a Chwefror 2024 er mwyn ailystyried cynnwys y Cynllun Corfforaethol, gan ganolbwyntio ar y dyheadau hynny oedd yn dal yn feysydd pwysig i’w gwella er lles ein cymunedau, a llacio’r trefniadau ar gyfer adrodd ynghylch gweithgarwch oedd eisoes wedi’i ymgorffori yn nhrefn weithredol y Cyngor. Yn sgil hynny mae nifer y themâu wedi gostwng o naw i chwech.

Datganiad Lles a'n Hamcanion

Fel y sonnir uchod, Asesiad Lles Conwy a Sir Ddinbych (gwefan allanol), sy'n ymdrin â data a safbwyntiau pobl leol yng nghyd-destun Nodau Lles Cymru, a fu’n sail i’n gwaith o bennu ein hamcanion lles ar gyfer Sir Ddinbych. Mae ein hamcanion felly’n cyfrannu’n uniongyrchol tuag at gyflawni’r nodau cenedlaethol. Rydym yn ffyddiog ar sail hynny ein bod yn canolbwyntio’n hadnoddau ar gyflawni’r amcanion iawn a fydd o’r budd mwyaf i’n cymunedau.

Y rhain yw Nodau Lles ac Amcanion Cydraddoldeb diwygiedig y Cyngor a fydd yn helpu i gyflawni gwelliant cyson mewn perfformiad yn holl waith y Cyngor rhwng 2024 a 2027.

  1. Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sy’n bodloni anghenion pobl
  2. Sir Ddinbych ffyniannus
  3. Sir Ddinbych iachach, hapusach a gofalgar
  4. Sir Ddinbych sy’n dysgu a thyfu
  5. Sir Ddinbych wyrddach
  6. Cyngor wedi'i reoli’n dda, sy’n perfformio’n dda

Bu datblygu cynaliadwy a defnyddio’r pum ffordd o weithio wrth wella lles Cymru’n economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ganolog i’r gwaith o bennu ein hamcanion a datblygu’r camau gweithredu y bwriadwn eu cyflawni dan bob thema yn y cynllun hwn.

- Hirdymor: Wedi dadansoddi tueddiadau data yn y gorffennol a’r presennol a darogan tueddiadau yn y dyfodol, a thrafod dyheadau hirdymor gyda’n trigolion, rydym yn ffyddiog y bydd y cynllun hwn yn dod â buddion hirdymor i’n cymunedau.

- Atal: Wrth fwrw golwg ar dueddiadau yn y dyfodol, gan gynnwys risgiau a chyfleoedd, rydym hefyd wedi gallu adnabod camau ataliol y gallwn eu cymryd yn awr i atal problemau rhag gwaethygu yn y dyfodol.

- Cyfranogi: Bu Cyfranogi’n un o’r egwyddorion allweddol wrth inni ddatblygu ein Cynllun. Yn ogystal ag ymgynghori ar-lein, neilltuom gryn amser i gynnal trafodaethau â grwpiau ffocws ledled y sir, gan gynnwys pob ysgol uwchradd, a staff. Gwnaethom ein gorau glas i sicrhau bod y grwpiau ffocws hynny’n gynrychioliadol (yn ôl oedran, rhyw, statws cymdeithasol, galwedigaeth, grwpiau anodd eu cyrraedd ac ati).

- Cydweithio: Ni all yr un gwasanaeth gyflawni’r amcanion ar ei ben ei hun ac felly bydd angen cydweithio (y tu mewn i’r Cyngor a thu hwnt). Fe ffurfiwn weithgor cydweithredol ar gyfer pob un o’n hamcanion (gan enwebu uwch-swyddog ac Aelod Cabinet i arwain pob thema).

- Integreiddio: Rydym wedi cysoni ein Cynllun â rhaglenni gwaith cenedlaethol fel y Rhaglen Lywodraethu, er enghraifft, yn ogystal â gwaith ein partneriaid yn rhanbarthol ac yn lleol. Wrth i ni fwrw ymlaen â’n gwaith, byddwn yn dal i arfarnu ei effaith ar nodau ein partneriaid a sefydliadau eraill, gan gadw golwg bob amser am gyfleoedd inni integreiddio a chyflawni mwy o fuddion.

Er nad oes raid i gyrff cyhoeddus ddadansoddi ymatebion, fe wnawn hynny beth bynnag gan y bydd yn ein helpu i gyflawni’r cynllun hwn yn well. Bydd hyn yn golygu:

  1. Ystyried yr hyn a wneir eisoes i gyflawni pob amcan.
  2. Ystyried arferion da.
  3. Ystyried ‘bylchau’ yn narpariaeth y gwasanaeth y dylid mynd i’r afael â hwy.
  4. Ystyried unrhyw orgyffwrdd ag amcanion sefydliadol eraill a chyfleoedd i integreiddio.
  5. Ystyried cyfleoedd i fod yn ddyfeisgar (gyda thechnolegau newydd neu bethau eraill).
  6. Rhoi’r dewisiadau ar gyfer camau gweithredu mewn trefn blaenoriaeth ar sail dadansoddi eu cost a’u buddion.

Bydd ein huwch-reolwyr, y Cabinet a’r pwyllgorau Craffu’n adolygu’r camau gweithredu. Wrth arfarnu effaith y cynllun byddwn yn asesu i ba raddau y cyflawnir y camau gweithredu a bennwyd; a ydynt yn creu’r buddion a ragwelwyd; ac a oes angen cymryd camau adferol (ac os felly, pa rai). Gweithredir y trefniadau llywodraethu hyn gyda’r adnoddau presennol.

Cyhoeddir manylion ein camau gweithredu wrth iddynt ddatblygu, gan gynnwys amserlenni ac adroddiadau cynnydd, ar dudalennau gwe’r Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad.

Strategaeth Ariannol

Fe rybuddiom yn ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2022 - 2027 bod y Cyngor yn dechrau cyfnod o ansicrwydd ariannol mawr oherwydd gwasgfeydd chwyddiant a galw am wasanaethau sydd ymhell y tu hwnt i’r hyn o gyllid a ragwelir. Gwireddwyd ein gofidion y byddai hynny’n effeithio ar swm y cyllid sydd ar gael. Oherwydd hynny bu’n rhaid cwtogi ar ehangder ein Cynllun Corfforaethol yn unol â’r amgylchiadau ariannol anodd y mae’r Cyngor yn eu hwynebu. Sefydlwyd trefn gadarn ar gyfer pennu’r gyllideb mewn ymateb i’r gwasgfeydd cynyddol ac mae’r Cyngor yn dal yn ymrwymo i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Mae’r rhan helaeth o’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y Cynllun Corfforaethol eisoes ar waith, ac felly mae adnoddau eisoes wedi’u neilltuo ar gyfer ei gyflawni. Mae hynny’n cynnwys rhwymedigaethau mawr fel cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd ac adeiladau ysgolion, er enghraifft.

Pethau eraill a ddarparwn

Mae ein Cynllun Corfforaethol yn sôn am amrywiaeth helaeth o weithgareddau holl o wasanaethau’r Cyngor; serch hynny, nid yw’n manylu ynghylch popeth a wnawn. Mae’r Cyngor yn ymgymryd â nifer helaeth o rwymedigaethau statudol a gweithgareddau pwysig eraill, boed y rheiny’n cyfrannu at ein hamcanion neu beidio, a chânt eu disgrifio a’u monitro drwy gynlluniau busnes ein meysydd gwasanaeth unigol. Cynlluniau busnes y gwasanaethau yw asgwrn cefn trefniadau rheoli perfformiad y Cyngor. Fe’u hadolygir cyn dechrau pob blwyddyn ariannol a’u cymeradwyo gan y Pennaeth Gwasanaeth a’r Aelod(au) Cabinet Arweiniol, gyda chyfraniad gan Aelodau Cyswllt Craffu.

Mae’r gwasanaethau’n monitro’r perfformiad wrth gyflawni’r cynlluniau hyn bob tri mis. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnal ‘Heriau Perfformiad Gwasanaeth’ unwaith y flwyddyn, lle mae uwch-reolwyr, cynghorwyr a chyrff sy’n rheoleiddio’r Cyngor (Archwilio Cymru, Estyn, Arolygiaeth Gofal Cymru) yn ymchwilio’n fanwl i’r hyn y mae ein gwasanaethau wedi’i gyflawni a’r gwasgfeydd y maent yn eu hwynebu.

Beth sy’n wahanol yn y fersiwn hwn o’r Cynllun?

Yn y bôn, rydym wedi gostwng nifer y themâu yn y Cynllun Corfforaethol o naw i chwech. Gwnaed hynny drwy gyfuno themâu fel a ganlyn:

  • Sir Ddinbych sydd wedi cysylltu’n well: mae’r rhan helaeth o’n hymrwymiadau dan y thema hon wedi’u trosglwyddo i’r thema Sir Ddinbych ffyniannus, ac mae a wnelo’r rhan helaeth ohonynt â chefnogi mynediad at nwyddau a gwasanaethau drwy ddarparu rhwydwaith o ffyrdd da a gwella rhwydweithiau digidol. Mae ymrwymiadau i gynnal isadeiledd cymdeithasol a rhwydweithiau cymunedol yn gweddu’n naturiol i’r thema Sir Ddinbych Iachach, Hapusach a Gofalgar; mae’r uchelgeisiau ar gyfer cludiant cynaliadwy a cherbydau trydan yn cyd-fynd yn dda â’r thema Sir Ddinbych Wyrddach.
  • Sir Ddinbych decach, diogel a mwy cyfartal: mae rhai agweddau ar y thema hon yn berthnasol iawn i’n cynlluniau gofal cymdeithasol ac mae’r thema Sir Ddinbych Iachach, Hapusach a Gofalgar yn ymdrin â’r rheiny’n effeithiol, yn enwedig o safbwynt lliniaru ar effaith tlodi a’r gefnogaeth a ddarparwn i ffoaduriaid. Mae yno hefyd nifer o ymrwymiadau ynghylch trechu tlodi ac anghydraddoldeb mewn addysg ac mae’r rheiny’n gweddu’n naturiol i’r thema Sir Ddinbych sy’n Dysgu a Thyfu. Mae sicrhau bod lleisiau grwpiau nas clywir yn aml yn sail ar gyfer ein penderfyniadau’n gweddu orau i’r thema Cyngor wedi’i Reoli’n Dda, sy’n Perfformio’n Dda. Gellid ystyried fod gwasgaru’r thema hon yn gam yn ôl, ond mewn gwirionedd dylai troi’r thema’n egwyddor gyffredinol ar gyfer y Cynllun Corfforaethol cyfan gael mwy o ddylanwad ar ein gwaith a galluogi’r Aelodau Arweiniol i gymryd rhan fwy blaenllaw mewn trafodaethau ynglŷn â’r themâu eraill.
  • Sir Ddinbych â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu: mae elfennau o’r thema hon sydd a wnelont â hyrwyddo ein darpariaeth ddiwylliannol wedi symud i’r thema Sir Ddinbych Ffyniannus gan fod yno gysylltiadau ffrwythlon â’n Strategaeth Economaidd. Byddai ein gwaith i gyfrannu at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050 yn gweddu’n well i’r themâu Sir Ddinbych Iachach, Hapusach a Gofalgar a Sir Ddinbych sy’n Dysgu a Thyfu, yn ogystal â’r thema Cyngor wedi’i Reoli’n Dda, sy’n Perfformio’n Dda. Fel y soniwyd uchod, gellid ystyried fod gwasgaru’r thema hon yn gam yn ôl, ond mewn gwirionedd dylai troi’r thema’n egwyddor gyffredinol ar gyfer y Cynllun Corfforaethol cyfan gael mwy o ddylanwad ar ein gwaith a galluogi’r Aelodau Arweiniol i gymryd rhan fwy blaenllaw mewn trafodaethau ynglŷn â’r themâu eraill.

Nid yw’r newidiadau hyn ar eu pennau’u hunain, fodd bynnag, yn lleddfu’r gwasgfeydd ar adnoddau’r Cyngor. Bu’n rhaid hefyd inni graffu’n fanylach ar rai o’r ymrwymiadau’r oeddem wedi cytuno i’w cyflawn, pwyso a mesur ein cynnydd hyd yn hyn ac asesu ein huchelgeisiau yng nghyd-destun adnoddau sy’n crebachu. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu y byddwn yn cwtogi ar wasanaethau o ganlyniad i’r newidiadau hyn, ond yn hytrach na fedrwn gyflawni ein huchelgeisiau i’r un graddau a ddymunwyd yn wreiddiol. Caiff unrhyw gwtogi ar ddarpariaeth gwasanaethau ei ystyried yn fanylach gan reolwyr a chynghorwyr wrth inni gynllunio’r gyllideb yn y misoedd a blynyddoedd i ddod.

Dylai’r chwech o themâu a gyflwynir yn y tudalennau nesaf fod yn llai beichus yn weinyddol i’r Cyngor a byddant yn dal yr awdurdod i gyfrif am yr hyn y bydd yn ei gyflawni er mwyn gwella lles ein trigolion.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth, neu i leisio’ch barn am unrhyw beth yn yr adroddiad hwn, cysylltwch â ni:

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg / We welcome telephone calls in Welsh.

Drwy'r post:

Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad,
Cyngor Sir Ddinbych,
Blwch Post 62,
Rhuthun,
LL15 9AZ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw oedi wrth ymateb i ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf:

Yn ôl i'r brig