Tai o ansawdd yn Sir Ddinbych sy'n bodloni anghenion pobl

Tai

Yr hyn a ddymunwn

Sicrhau bod digon o dai o ansawdd da ar gael, gan fodloni anghenion holl drigolion Sir Ddinbych.

Yr hyn y bwriadwn ei wneud:

  1. Sicrhau bod tai o safon ar gael sy’n bodloni anghenion pobl ddiamddiffyn, a’u helpu i fyw bywydau annibynnol mewn llety addas cyhyd â phosibl.
  2. Atal digartrefedd a sicrhau bod unrhyw achosion o ddigartrefedd yn brin, yn fyr a ddim yn digwydd eto. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc sy’n gadael gofal.*
  3. Adnewyddu stoc tai’r Cyngor er mwyn sicrhau ei fod:
    • Yn ddiogel ac yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda
    • Lle bo modd, yn bodloni anghenion trigolion fel pobl ag anableddau, er enghraifft*
    • Yn defnyddio ynni’n effeithlon ac wedi’u hinswleiddio’n dda.
  4. Darparu mwy o gartrefi i fodloni’r angen a’r galw lleol, gan gynnwys:
    • 300 o dai fforddiadwy yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru
    • 35 o gartrefi arbenigol drwy Gynlluniau Gofal Ychwanegol
    • 170 o dai cyngor yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru
    • Gweithio i leihau nifer y tai gwag yn Sir Ddinbych.
  5. Sicrhau bod ein trigolion yn cael gwybod am y dewisiadau a’r llwybrau tai sydd ar gael, yn ogystal â cheisio lleihau rhestr aros yr Un Llwybr Mynediad at Dai. Mae hynny’n cynnwys meithrin cyswllt â phobl sydd eisoes yn byw mewn tai cyngor, a’r rheiny ar incwm isel.

* Amcanion cydraddoldeb.