Hysbysiad o Newidiadau i Daliadau Cychwynnol Meysydd Parcio Talu ac Arddangos: ar y traeth ac ar y stryd

Hysbysiadau a gorchmynion

  • Gorchymyn Cydgrynhoi (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd) Cyngor Sir Ddinbych 2021
  • Gorchymyn Cyngor Sir Ddinbych (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Lleoedd Parcio) (Cydgrynhoi) 2021
  • Rhybudd o Daliadau Cychwynnol Diwygiedig Parcio ar y Stryd ac mewn Meysydd Parcio Talu ac Arddangos

Rhoddir rhybudd drwy hyn gan Gyngor Sir Ddinbych, yn unol ag Adran 35C ac Adran 46A o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a Rheoliad 25 o Reoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 a’r holl bwerau galluogi eraill bod graddfa’r taliadau cychwynnol yn ei Feysydd Parcio Talu ac Arddangos yn y Rhyl a Phrestatyn yn Sir Ddinbych, a Pharcio ar y Stryd ar Bromenâd y Rhyl fel y nodir isod, yn cael ei diwygio o 6 Gorffennaf 2026, gan gynnwys y dyddiad hwnnw. Mae’r taliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd wedi’u nodi yn Atodlen 1 yr Hysbysiad hwn ac mae’r taliadau newydd a osodir wedi’u nodi yn Atodlen 2 yr Hysbysiad hwn.

Prestatyn

Y Rhyl

Mae’r Meysydd Parcio Talu ac Arddangos uchod yn fannau parcio oddi ar y stryd at ddibenion Adran 35 o Ddeddf Rheoliadau Traffig Ffyrdd 1984 y codir tâl ar y cyhoedd am barcio ynddynt, ac fe’u darparwyd gan y Gorchymyn Cydgrynhoi (Lleoedd Parcio Oddi ar y Stryd) Cyngor Sir Ddinbych 2021.   

Mae’r Lleoedd Parcio Ar y Stryd yr effeithir arnynt ar Bromenâd y Rhyl (Rhodfa’r Gorllewin, Rhodfa’r Dwyrain a Marine Drive) ac maent yn fannau parcio ar y stryd at ddibenion Adran 46 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 y codir tâl ar y cyhoedd amdanynt. Fe’i darparwyd gan Orchymyn Cyngor Sir Ddinbych (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Lleoedd Parcio) (Cydgrynhoi) 2021.

Gellir archwilio copi o’r Gorchmynion uchod trwy drefniant ymlaen llaw yn ystod oriau swyddfa yn swyddfeydd Cyngor Sir Ddinbych yn:

Llyfrgell y Rhyl
Stryd yr Eglwys
Y Rhyl

Llyfrgell Prestatyn
Rhodfa Brenin
Prestatyn

Atodled 1: taliadau cychwynnol - presennol (taliadau talu ac arddangos)

Traeth Barkby, Prestatyn; Rhodfa'r Dwyrain, Theatr y Pafiliwn, Y Rhyl: 8am i 11pm
Hyd arhosiadPrisiau’r hafPrisiau’r gaeaf
Hyd at 1 awr £1.50 £1.00
Hyd at 4 awr £4.00 £1.50
Dros 4 awr £5.00 £3.00
Canol, Y Rhyl: 8am i 9pm (1 Mawrth i 31 Hydref) / 8am i 7pm (1 Tachwedd i 28 / 29 Chwefror)
Hyd arhosiadPrisiau’r hafPrisiau’r gaeaf
Hyd at 1 awr £1.50 £1.00
Hyd at 4 awr £4.00 £1.50
Dros 4 awr £5.00 £3.00
Cefn Nova, Prestatyn: 8am i 11pm
Hyd arhosiadPrisiau’r hafPrisiau’r gaeaf
Hyd at 1 awr £2.00 £1.00
Hyd at 4 awr £4.00 £1.50
Dros 4 awr £5.00 £3.00
Beach Road East / Gorllewin Nova, Prestatyn: 8am i 11pm (1 Mawrth i 31 Hydref) / 8am i 8pm (1 Tachwedd i 28 / 29 Chwefror)
Hyd arhosiadPrisiau’r hafPrisiau’r gaeaf
Hyd at 1 awr £2.00 £1.00
Hyd at 4 awr £4.00 £1.50
Dros 4 awr £5.00 £3.00
Tŵr Awyr: 8am i 11pm
Hyd arhosiadPrisiau’r hafPrisiau’r gaeaf
Hyd at 1 awr £1.50 £1.50
Hyd at 4 awr £4.00 £3.00
Dros 4 awr £6.00 £4.00
Parcio ar y Stryd ar Bromenâd y Rhyl: 8am i 11pm
Hyd arhosiadPrisiau’r hafPrisiau’r gaeaf
Hyd at 1 awr £1.50 £1.00
Hyd at 4 awr £4.00 £1.50
Dros 4 awr £5.00 £3.00

Atodlen 2: taliadau cychwynnol - newydd (taliadau talu ac arddangos)

Traeth Barkby, Prestatyn; Rhodfa'r Dwyrain, Y Rhyl: 8am i 11pm
Hyd arhosiadPrisiau’r hafPrisiau’r gaeaf
Hyd at 1 awr £2.00 £1.50
Hyd at 4 awr £5.00 £2.50
Dros 4 awr £6.00 £4.00
Pafiliwn Y Rhyl, Y Rhyl: Tachwedd i Chwefror - 8am i 7pm, dydd Sul i ddydd Iau; 8am i 10pm, dydd Gwener i ddydd Sadwrn; Mawrth i Hydref - 8am i 10pm
Hyd arhosiadPrisiau’r hafPrisiau’r gaeaf
Hyd at 1 awr £2.00 £1.50
Hyd at 4 awr £5.00 £2.50
Dros 4 awr £6.00 £4.00
Canol, Y Rhyl: 8am i 9pm (1 Mawrth i 31 Hydref)
Hyd arhosiadCost
Hyd at 4 awr £5.00
Dros 4 awr £6.00
Cefn Nova, Prestatyn: 8am i 11pm
Hyd arhosiadPrisiau’r hafPrisiau’r gaeaf
Hyd at 1 awr £2.50 £2.00
Hyd at 4 awr £5.00 £2.50
Dros 4 awr £6.00 £4.00
Beach Road East / Gorllewin Nova, Prestatyn: Medi i Hydref - 8am i 6pm; Tachwedd i Chwefror - 8am i 6pm; Mawrth - 8am i 6pm; Ebrill to Awst - 8am i 10pm
Hyd arhosiadPrisiau’r hafPrisiau’r gaeaf
Hyd at 1 awr £2.50 £2.00
Hyd at 4 awr £5.00 £2.50
Dros 4 awr £6.00 £4.00
Tŵr Awyr: 8am i 11pm
Hyd arhosiadPrisiau’r hafPrisiau’r gaeaf
Hyd at 1 awr £2.00 £1.50
Hyd at 4 awr £5.00 £4.00
Dros 4 awr £6.00 £5.00
Parcio ar y Stryd ar Bromenâd y Rhyl: 8am i 11pm
Hyd arhosiadPrisiau’r hafPrisiau’r gaeaf
Hyd at 1 awr £2.00 £1.50
Hyd at 4 awr £5.00 £2.50
Dros 4 awr £6.00 £4.00

Mae taliadau misoedd yr Haf rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref.

TMae taliadau misoedd y Gaeaf rhwng 1 Tachwedd a 28 (neu 29) Chwefror.

Dyddiedig 17 Mehefin 2026

Catrin Roberts
Pennaeth Gwasanaeth
Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl

Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
Sir Ddinbych