Pwy ydym ni?

Cyfarfod y Tîm

Prif Weithredwr: Graham Boase

Graham Boase

Mae'r Prif Weithredwr yn gyfrifol am y canlynol:

  • Rheolaeth gyffredinol y cyngor
  • Gwneud yn siŵr bod holl bolisïau'r Cyngor yn cael eu gweithredu
  • Cynrychioli'r cyngor drwy'r cyfryngau, a bod yn ddolen rhwng y cyngor a sefydliadau eraill
Arweinydd y Cyngor: Jason McLellan

Arweinydd y Cyngor: Jason McLellan

Mae'r Arweinydd yn darparu arweinyddiaeth wleidyddol a chyfarwyddyd strategol effeithiol ac yn gweithredu fel llefarydd gwleidyddol ar ran y cyngor.

Cabinet

Mae'r Cabinet yn cynnwys 9 cynghorwr, gan gynnwys yr Arweinydd a'r Is-Arweinydd. Mae’r Cabinet yn cyfarfod bob chwech wythnos ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut y darperir gwasanaethau yn Sir Ddinbych.

Yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth (SLT)

Mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn cynnwys y Phenaethiaid Gwasanaeth. Mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn gyfrifol am y canlynol:

  • Monitro targedau'r Cynllun Corfforaethol bob chwarter a chamau ymyrraeth
  • Cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau Craffu
  • Cytuno ar bolisïau, strategaethau a newidiadau i gynlluniau busnes, a
  • Rhannu arfer da, datrys problemau a gweithio gydag Aelodau Etholedig.

Graham Boase

Prif Weithredwr: Graham Boase


Nicola Stubbins

Nicola Stubbins: Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg


Tony Ward

Tony Ward: Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Economi a'r Amgylchedd


Gary Williams

Gary Williams: Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes


Liz Thomas

Liz Thomas: Pennaeth Gwasanaeth Cyllid ac Archwilio (Swyddog Adran 151)


Emlyn Jones

Emlyn Jones: Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chefn Gwlad


Rhiain Morrlle

Rhiain Morrlle: Pennaeth Gwasanaethau Plant


Geraint Davies

Geraint Davies: Pennaeth Gwasanaethau Addysg


Liz Grieve

Liz Grieve: Pennaeth Gwasanaeth Tai a Chymunedau


Ann Lloyd

Ann Lloyd: Pennaeth Gwasanaeth: Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd


Paul Jackson

Paul Jackson: Pennaeth Gwasanaeth: Priffyrdd ac Amgylcheddol


Catrin Roberts

Catrin Roberts: Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl


Denbighshire County Council logo

Helen Vaughan-Evans: Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau


Jamie Groves

Jamie Groves: Hamdden Sir Ddinbych Cyf Rheolwr Gyfarwyddwr





Cyfathrebu â Staff 

Mae cyfathrebu â staff yn hollbwysig i’n galluogi ni i weithio'n llwyddiannus a darparu ein Cynllun Corfforaethol. Rydym ni'n ymgysylltu ac yn ymgynghori â chymunedau yn rheolaidd, ac rydym ni'n gwneud yr un peth efo'n staff. Cymerwch olwg ar rai o’r ffyrdd rydym ni’n cyfathrebu.

Cyngor Staff

I ddarparu cyswllt cyfathrebu effeithiol rhwng staff a'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

Arolwg Staff

Pob dwy flynedd cynhelir Arolwg Staff i dderbyn gwybodaeth werthfawr am yr hyn rydych chi'n ei feddwl o'r Cyngor fel cyflogwr, eich rôl o fewn y sefydliad a'ch barn am faterion fel cyfathrebu, hyfforddiant a datblygiad personol.

Gellir gweld copi o'r arolwg staff drwy LINC. Os nad oes gennych fynediad at LINC, gofynnwch i'ch rheolwr llinell am gopi o'r arolwg.

LINC

Safle mewnrwyd penodol ar gyfer staff gyda gwybodaeth a all fod arnoch chi ei hangen fel gweithiwr. Bydd hefyd yn eich cyfeirio at safleoedd perthnasol eraill.

Arall

Mae yna ffyrdd eraill rydym ni’n eu defnyddio i gyfathrebu gyda staff, e.e. negeseuon e-bost, cyfarfodydd, newyddlenni, diwrnodau i ffwrdd a chynadleddau.

Ynglŷn â'r Cyngor

Rŵan eich bod chi wedi llwyddo i dderbyn swydd efo ni yn Sir Ddinbych, bydd arnoch chi angen gwybod mwy am y Cyngor a sut ydym ni’n cyflawni’r Cynllun Corfforaethol.

Strwythur Uwch Reolwyr (PDF, 600KB)