Bin olwyn llwyd / sach binc
Dylid rhoi unrhyw wastraff domestig na ellir ei ailgylchu yn eich bin olwyn llwyd neu’ch sach binc.
Peidiwch â gadael unrhyw fag arall allan neu mi fyddan nhw’n cael eu cymryd. Ni ddosberthir rwbel adeiladu, brics, teils a phridd yn wastraff domestig; ewch i’r dudalen ailgylchu a gwaredu gwastraff i gael gwybodaeth ar sut i waredu’r rhain.
Bin olwyn gwyrdd / sach werdd
Mae’r gwastraff gardd canlynol i’w roi yn eich bin olwyn gwyrdd neu’ch sach werdd:
- Toriadau gwair a thociadau gardd
- Canghennau a brigau
- Dail
- Rhisgl
- Blodau
- Rhisgl pren
- Planhigion
Dydyn ni ddim yn gwagio sachau gwyrdd na biniau gwyrdd sy’n cynnwys: pridd, sbwriel cyffredinol o’r cartref na chynnyrch bwyd
Bin olwyn glas / sach las
Os oes gennych chi fin glas, gallwch ei ddefnyddio ar gyfer ailgylchu’r eitemau canlynol:
- Papur
- Cardfwrdd
- Cartonau diod e.e. Tetrapaks
- Poteli a jariau gwydr
- Poteli a chynwysyddion plastig
- Tuniau, caniau ac aerosols
Golchwch neu fflatiwch nhw os yn bosib, os gwelwch yn dda.
Dydyn ni ddim yn gwagio biniau glas na sachau glas sy’n cynnwys: bagiau/lapwyr plastig, cynnyrch bwyd, gwastraff gardd, gwydr ffenest, gwydr Pyrex neu lestri e.e. dysglau caserol, gwydrau gwin, polystyren etc.
Casgliad biniau glas (PDF, 1.5MB)
Cadi gwastraff bwyd oren
Mae eich gwastraff bwyd i’w roi yn y cadi gwastraff bwyd oren yn barod ar gyfer y casgliad wythnosol. Darperir cadi cegin llai i chi gasglu eich gwastraff bwyd bob dydd a’i drosglwyddo i’r cadi oren pan fydd hynny’n gyfleus. Gallai gostwng neu ailgylchu eich gwastraff bwyd arbed arian i chi.
Sut i ostwng neu ailgylchu eich gwastraff bwyd (PDF, 528KB)
Gellir rhoi’r gwastraff bwyd canlynol yn y cadi oren:
- Cynnyrch pob h.y. cacenni, grawnfwyd, bisgedi, crystiau bara, bara wedi llwydo
- Cynnyrch mewn caniau/wedi’i bacio h.y. cnau, corbys, hadau
- Gwastraff llysiau h.y. crwyn llysiau / llysiau sydd wedi mynd yn ddrwg
- Bagiau te / Coffi mâl
- Sbarion
- Gwastraff ffrwythau h.y. crwyn, craidd afalau, plicion
- Gwastraff cig Gwastraff Llaeth h.y. plisgyn ŵy
Tynnwch fwyd o’i ddeunydd pecynnu cyn ei waredu yn y cadi. Dim ond leiners a gyflenwir gan Gyngor Sir Ddinbych sydd i’w defnyddio ar gyfer y cadi cegin; os defnyddir unrhyw leiner arall ni chaiff eich gwastraff bwyd ei gasglu.
Gwastraff bwyd (PDF, 771KB)
Sach wen
Mae modd i gartrefi lle nad yw biniau olwyn yn addas neu gymunedau gwledig ailgylchu tuniau, caniau, poteli gwydr, cardbord a phapur drwy’r cynllun sachau gwynion.
Gallwch ddefnyddio’r sach wen i ailgylchu’r eitemau canlynol:
- Cardfwrdd
- Papur
- Tetrapaks
- Poteli a chynwysyddion plastig
- Poteli a jariau gwydr
- Tuniau, caniau ac aerosols
Ni wnawn gasglu sachau glas neu wyn sy’n cynnwys: gwastraff gardd, bwyd / hylifau, lapwyr plastig e.e. seloffen, pacedi creision, bagiau siopa), clytiau, llwch o sugnwr llwch na thecstilau.
Dogfennau cysylltiedig
Casgliad ailgylchu (PDF, 776KB)