Cefnogaeth leol i bobl awtistig

Gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael yn lleol i bobl awtistig a’u teuluoedd.

Services and information

Un Pwynt Mynediad

Gall Un Pwynt Mynediad ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth am y gofal a’r gwasanaethau cefnogi sydd ar gael i oedolion.

Tîm Teuluoedd Integredig Lleol (LIFT)

Mae’r Tîm Teuluoedd Integredig Lleol yn dîm aml asiantaeth a all helpu teuluoedd i ddeall ac ymateb i ymddygiad heriol adref.

Sir Ddinbych yn Gweithio

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn helpu pobl i ddod o hyd i waith, profiad gwaith a rolau gwirfoddoli.

CC4LD - Conwy Connect (gwefan allanol)

Mae Conwy Connect yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan ei aelodau ac sy’n gwasanaethu pobl o bob rhan o Ogledd Cymru. Yn ogystal â threfnu gweithgareddau ar gyfer pobl o bob oed mae ganddynt brosiectau Pontio, Iechyd, Ymgysylltu a Hunan-eiriolaeth.

STAND North Wales CIC (gwefan allanol)

Mae STAND North Wales CIC yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan rieni sydd yn cefnogi teuluoedd ac oedolion sydd ag anghenion ychwanegol ac anableddau, ac mae’n cynnig amrywiaeth o hyfforddiant, grwpiau cefnogi i rieni, a gweithgareddau o fewn y gymuned.

Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth: Cangen Sir Ddinbych a Chonwy (gwefan allanol)

Mae cangen Conwy a Sir Ddinbych o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth yn ogystal â chynnal grwpiau a digwyddiadau cymdeithasol.

Eiriolaeth

Mae gwasanaethau eirioli yn darparu eiriolaeth annibynnol i oedolion, plant a phobl ifanc sydd ag anableddau cymhleth, yn cynnwys cyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth.

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru (gwefan allanol)

Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru yn helpu pobl awtistig i ddeall eu diagnosis o awtistiaeth, yn ogystal â chynnal sesiynau galw heibio a chyrsiau hyfforddi ar gyfer oedolion sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth yn ddiweddar.

Cefnogaeth i ofalwyr a rhieni

Dysgwch fwy am y gefnogaeth i ofalwyr a rhieni plant awtistig.

Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (gwefan allanol)

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn cefnogi amrywiaeth o grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar draws y sir.

Cynhwysiant ac Anghenion Dysgu Ychwanegol

Gwybodaeth ynglŷn â chefnogi plant a phobl ifanc gydag anawsterau a/neu anableddau dysgu.