Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Mae'r Cyngor wedi hyfforddi nifer o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a fydd yn ymateb ac yn eich cefnogi os cewch chi argyfwng iechyd meddwl, neu os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn siarad gydag aelodau o'ch tîm am eich problemau.

Os ydych chi neu gydweithiwr yn cael teimladau fel y rhai isod, gallwch gysylltwch â’ch Swyddogion Iechyd Meddwl Cymorth Cyntaf i gael cefnogaeth:

  • Yn cael pwl o banig
  • Eisiau cyflawni hunanladdiad
  • Yn hunan niweidio
  • Wedi profi digwyddiad trawmatig
  • Wedi mynd i gyflwr seicotig  

Mae rhestr o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i’w gweld ar LINC.

Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (LINC)

Vivup

Bwriad Vivup yw eich helpu chi gyda gwahanol faterion gwaith, teuluol a phersonol. Mae’n wasanaeth am ddim ac nid oes rhaid gofyn i'ch rheolwr i gael ei ddefnyddio.

I gysylltu â Vivup, ffoniwch 0800 023 9387 neu fe allwch gael gafael ar y gwasanaeth yn gyfrinachol ar-lein ar Vivup (gwefan allanol).


Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru Amswer i Newid Cymru