Iechyd a lles corfforol

Iechyd Galwedigaethol

Mae tîm Iechyd Galwedigaethol yr cyngor yn cynnwys trosolwg o les ein staff ac mae’n cynnig gwasanaethau arbenigol i’r Awdurdod, rheolwyr ac unigolion.

Mae gwybodaeth am y tîm Iechyd Galwedigaethol ar y fewnrwyd (angen mewngofnodi).

Adnoddau lles

GIG Cymru

DEWIS

Dewis Cymru (gwefan allanol) yw'r lle am wybodaeth am les yng Nghymru. Mae gan DEWIS wybodaeth a all eich helpu i feddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi, ac mae gennym hefyd wybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau a all helpu.

Getselfhelp.co.uk

GetSelfHelp.co.uk (gwefan allanol) yn cynnig Therapi Ymddygiad Gwybyddol, hunangymorth ac adnoddau therapi, gan gynnwys taflenni gwaith, taflenni gwybodaeth ac MP3s. 

Iechyd a Diogelwch

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i ddarparu a chynnal amgylchedd gwaith iach a diogel i’w holl staff.

Mae gwybodaeth am wasanaethau Iechyd a Diogelwch ar y fewnrwyd (angen mewngofnodi).

Menopos

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol i bawb sy’n gweithio yma.

Mae’r menopos yn rhan naturiol o fywyd pob merch, ac nid yw bob amser yn drawsnewidiad rhwydd. Gyda’r gefnogaeth gywir, gall fod yn llawer gwell. Er nad yw pob merch yn dioddef y symptomau hyn, bydd cefnogi’r rhai sy’n eu dioddef yn gwella eu profiad yn y gwaith.

Ewch i'r dudalen menopos i gael rhagor o wybodaeth.

Health Awareness: menopos yn y gweithle - beth yw eich hawliau? (gwefan allanol)

Cydbwysedd Bywyd a Gwaith

Mae’r cyngor yn dangos ei ymrwymiad i gydbwysedd bywyd a gwaith cadarnhaol drwy gynnig gweithio’n hyblyg, hawl i wyliau hael a’r cyfle i ymestyn cyfnodau gwyliau. Ewch i’r tudalennau gwyliau a phresenoldeb i gael gwybod mwy.

Dogfennau cysylltiedig


Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru Amswer i Newid Cymru