Iechyd a lles meddyliol: Cyngor, gwasanaethau a chymorth

Cyngor, gwasanaethau a chymorth

Ewch yn syth i:

Mae bod yn feddyliol iach a byw'n dda yn bwysig i bob un ohonom, pa unai ydym, ni'n byw â salwch meddwl neu beidio.

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ei chael hi’n anodd, mae hi'n bwysig gofyn am gymorth a chefnogaeth. Efallai mai nid siarad yw'r datrysiad bob amser, ond yn sicr siarad yw'r man cychwyn bob amser. Ystyriwch siarad gyda:

  • Ffrindiau neu aelodau'r teulu
  • Cydweithwyr gwaith neu eich rheolwr
  • Eich cynrychiolydd Undeb Llafur

Rhaglen Cymorth i Weithwyr: Vivup

Gall pob aelod o staff gael gafael ar gyngor cyfrinachol am ddim am unrhyw bwnc iechyd drwy ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr: Vivup.

Rhaglen Cymorth i Weithwyr: Vivup

Cael y cymorth rŵan

Os oes gennych chi syniadau a theimladau sydd yn fwy eithafol, neu os ydych chi'n ystyried cyflawni hunanladdiad, fe ddylech siarad â rhywun cyn gynted â phosibl. Yn dibynnu pa mor ddifrifol ydi eich symptomau, mae eich opsiynau'n cynnwys:

Iechyd meddwl: Cymorth a chyngor arlein

Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth am Iechyd Meddwl yn ogystal â chymorth, cefnogaeth a chyngor ar reoli amrywiaeth o faterion yn:

Cefnogaeth benodol

Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Mae’r Cyngor wedi hyfforddi nifer o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a fydd yn ymateb ac yn eich cefnogi os cewch chi argyfwng iechyd meddwl, neu os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn siarad gydag aelodau o'ch tîm am eich problemau.

Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl

Iechyd a lles corfforol

Ewch i'r dudalen Iechyd a Lles Corfforol am gyngor ar:

  • Iechyd Galwedigaethol
  • Adnoddau arlein (GIG, Dewis Doeth Cymru, DEWIS)
  • Iechyd a Diogelwch
  • Menopos

Lles Ariannol

Gweler ein tudalen Lles Ariannol sydd â gwybodaeth a canllawiau fydd yn eich helpu i deimlo’n ddiogel ac mewn rheolaeth o’ch arian a ble y gallwch fynd am gymorth.

Lles ariannol: cefnogaeth a gwybodaeth

Dogfennau cysylltiedig

Polisi cefnogi Iechyd Meddwl yn y Gweithle (PDF, 436KB)


Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru Amswer i Newid Cymru