Mae gan y cyngor nifer o Gefnogwyr Iechyd Meddwl hyfforddedig.
Mae Cefnogwyr Iechyd Meddwl wedi gwirfoddoli i weithredu i gefnogi cydweithwyr a chodi ymwybyddiaeth fod iechyd meddwl mor bwysig ag iechyd corfforol.
Cyfrifoldebau:
- Dechrau neu ymateb i sgyrsiau fel cam cyntaf cadarnhaol, er enghraifft, trwy ofyn i rywun sut maen nhw.
- Cydnabod y gallwn ni i gyd deimlo’n bryderus, dan straen neu’n isel a bod angen help ar wahanol adegau.
- Cyfeirio at gefnogaeth sydd ar gael.
- Hybu a chodi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, e.e. trwy arddangos posteri yn eich gweithle.
Mae rhestr o Gefnogwyr Iechyd Meddwl i’w gweld ar LINC.
Cefnogwyr Iechyd Meddwl (LINC)
Bwriad Vivup yw eich helpu chi gyda gwahanol faterion gwaith, teuluol a phersonol. Mae’n wasanaeth am ddim ac nid oes rhaid gofyn i'ch rheolwr i gael ei ddefnyddio.
I gysylltu â Vivup, ffoniwch 0800 023 9387 neu fe allwch gael gafael ar y gwasanaeth yn gyfrinachol ar-lein ar Vivup (gwefan allanol).