Darllen yn eich llyfrgell

“Reading is to the mind what exercise is to the body” – Joseph Addison

Mae eich llyfrgell leol yn rhoi mynediad at filoedd o lyfrau yn eich llyfrgell leol, a gallwch eu benthyg am ddim. Cewch fynd ac edrych ar ein arddangosfeydd a silffoedd, neu gallwch chwilio ar ein catalog ar-lein unrhyw bryd boed yn ddydd neu’r nos. Gallwch neilltuo llyfr a dewis pa lyfrgell yr hoffech ei gasglu. Fel aelod o Llyfrgelloedd Sir Ddinbych, gallwch fenthyg llyfrau o unrhyw lyfrgelloedd cyhoeddus eraill yng Ngogledd Cymru a’u casglu yn eich llyfrgell leol.

Mae gan bob llyfrgell lyfrau a gwybodaeth mewn gwahanol fformatau, wedi’u llunio i fod yn addas ac ysbrydoli pawb. Gallwch ddewis llyfrau, llyfrau sain, llyfrau comics, cylchgronau a phapurau newydd mewn fformatau corfforol a digidol os ydych yn aelod o'r llyfrgell. Gofynnwch i’ch llyfrgell leol am ragor o wybodaeth os ydych yn chwilio am deitl neu fformat benodol.

A oeddech chi’n gwybod y gall ddarllen wella lles corfforol a meddyliol? Gweler ein tudalen Iechyd a Lles i weld y manteision o ddarllen.

Plant yn darllen

Rydym wrth ein bodd yn gweld plant yn darllen a benthyg llyfrau. Mae gan ein llyfrgelloedd i gyd ddewis o lyfrau o ansawdd da i blant o oedran geni i blant yn eu harddegau, yn ogystal â heriau darllen, grwpiau, gweithgareddau a llawer mwy! Mae rhagor o wybodaeth ar y dudalen plant a theuluoedd.

Grwpiau darllen a chlybiau llyfrau

Mae grwpiau darllen yn gyfle i gyfarfod darllenwyr eraill i sgwrsio’n anffurfiol am y llyfrau yr ydych wedi bod yn eu darllen. Rhai misoedd mae pawb yn darllen yr un llyfr, neu lyfrau gyda'r un themâu. Cysylltwch â’ch llyfrgell i gael mwy o wybodaeth, a chael gwybod pa lyfr i’w ddarllen ar gyfer y cyfarfod nesaf – bydd croeso cynnes i chi.

Lle mae fy ngrŵp darllen agosaf?

Cliciwch y penawdau isod i ddod o hyd i grwpiau darllen yn eich llyfrgell leol.

Digwyddiadau darllen

Rydym yn cynnal digwyddiadau megis Ymweliadau gan Awduron, dathlu lansio llyfrau a hyrwyddo ymgyrchoedd darllen. Cysylltwch â’ch llyfrgell leol i gael gwybod beth sydd 'mlaen yn eich ymyl chi.