Canolfan Gyswllt: Gwaith cynnal a chadw hanfodol 22-23 Tachwedd 2025
Bydd gwaith cynnal a chadw angenrheidiol yn cael ei gwblhau ar rifau ffôn y Ganolfan Cyswllt Cwsmer ar y 22ain a’r 23ain o Dachwedd. Golyga hyn y gallai pob rhif Cyswllt Cwsmer, gan gynnwys 01824 706000 brofi rhywfaint o darfu dros y cyfnod yma. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra.
Gallwch adrodd ar broblemau ar wefan y Cyngor ar y dudalen Adrodd ar Fater, ac mae ystod o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.